Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru

Mae Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion yn gynlluniau sy’n cefnogi ffermwyr yng Nghymru i wella’r ffordd y maent yn rheoli maetholion, drwy fuddsoddi yn yr isadeiledd a’r offer presennol ar y fferm.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi drwy Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Chynlluniau Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion. Mae’r cynllun Gorchuddio Iardiau yn cefnogi codi to dros fannau bwydo a chasglu da byw, sydd heb eu gorchuddio o’r blaen, mannau storio tail a slyri a storfeydd silwair er mwyn lleihau’r dŵr glaw sy’n treiddio i mewn i storfeydd slyri. Mae’r cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion yn cefnogi buddsoddiadau isadeiledd a chyfalaf mewn offer sydd wedi’u nodi i fynd i’r afael ag effeithiau llygredd ar y fferm.


Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Tyfu er budd yr Amgylchedd - 21/06/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Tyfu er budd yr