Square Farm, Llanfihangel Troddi, Sir Fynwy

Prosiect Safle Ffocws: Archwilio’r defnydd o daenfa sglodion pren i reoli chwyn ym maes cynhyrchu llysiau organig

 

Mae Square Farm yn fusnes teuluol a sefydlwyd yn 1978 sy’n canolbwyntio’n gryf ar ddulliau amaethu traddodiadol.  Mae’r busnes yn cynnwys siop fferm ffyniannus sy’n gwerthu bwydydd organig cartref a dewis cynyddol o gynnyrch lleol dethol o Ddyffryn Gwy ac ardaloedd cyfagos.

Caiff Square Farme ei rhedeg fel fferm gymysg draddodiadol sy’n cynnwys gwartheg, defaid, cywion ieir, hwyaid a gwyddau.  Tyfir cnydau grawn a gwraidd i borthi anifeiliaid a chynhyrchir nifer gynyddol o gnydau llysiau i’w gwerthu yn siop y fferm. Mae’r siop hefyd yn gwerthu cig eidion, cig oen a chig moch cartref wedi’u cynhyrchu’n draddodiadol ynghyd â’r wyau hynod boblogaidd a gynhyrchir gan haid o 200 o ddofednod maes digyfyngiad.

Mae Square Farm yn falch o fod yn fferm organig. Mae polisïau rheoli tir wedi cael eu llunio, ac maent yn cynnwys cynllun rheoli tir llwyddiannus Glastir ar y lefelau sylfaenol ac uwch, ac mae cynlluniau yn eu lle i sicrhau cynnydd ychwanegol yr amrywiaeth sy’n bodoli ar y fferm a rheoli cynefinoedd er budd bywyd gwyllt. Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae dros 400 medr o wrychoedd newydd, yn cynnwys planhigion cynhenid o Brydain, wedi cael eu creu, ac mae tair perllan fechan hefyd wedi cael eu sefydlu gan ddefnyddio coed ffrwythau traddodiadol.

Tyfir llysiau i gyflenwi cynllun danfon blychau llysiau, ac mae’r llysiau yn cynnwys cêl, brocoli blaguro piws, moron, cennin a thatws ffres.  Un fenter newydd ar y fferm yw plannu asbaragws a gaiff ei dyfu’n organig, ac ategir hynny gan gais llwyddiannus am arian Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP). Mae’r fferm hefyd yn aelod o grŵp a ariennir gan EIP sy’n gwerthuso’r defnydd o beiriant chwynnu robotaidd cyfrifiadurol.

 

Nod y prosiect:

Nod y prosiect yw asesu a ellir defnyddio sglodion pren gwastraff gan bobl trin coed lleol i atal twf chwyn ymhlith llysiau a dyfir yn organig.

Yn wahanol i daenfeydd llwch llif a rhisgl, sydd ag ansawdd unffurf, bydd sglodion pren a gynhyrchir gan bobl trin coed yn cynnwys rhisgl a phren, a dail hefyd. Mae amrywiaeth cemegol a ffisegol y deunyddiau hyn yn gwrthsefyll y cywasgu sy’n aml yn digwydd yn achos taenfeydd llwch llif a rhisgl, a gallent hybu gwell perfformiad o ran dargadw lleithder, cymedroli tymheredd, rheoli chwyn a chynaliadwyedd.  Mae sglodion pren a gynhyrchir gan bobl trin coed hefyd ar gael yn rhad ac am ddim, sy’n golygu eu bod yn ddewis ymarferol o safbwynt economaidd.

Yn ychwanegol, mae’r deunyddiau hyn yn amrywio o ran eu maint a’u cyfradd dadelfennu, gan greu amgylchedd mwy amrywiol sy’n cynnwys amrywiaeth o ficrobau, pryfed ac organebau eraill. Mae cymuned bridd sy’n amrywiol o safbwynt biolegol yn gallu gwrthsefyll aflonyddu amgylcheddol, ac felly, fe wnaiff hynny gynnal poblogaeth amrywiol ac iach o blanhigion.  Ystyrir fod sglodion pren yn ddeunyddiau sy’n dadelfennu’n araf, oherwydd mae eu meinweoedd yn cynnwys cyfoeth o lignin, tannin a chyfansoddion naturiol cymhleth eraill.  Felly, bydd sglodion pren yn cyflenwi maetholion yn araf i’r system; ar yr un pryd, byddant yn amsugno cyfansymiau sylweddol o ddŵr a gaiff ei ollwng yn araf i’r pridd. Canfuwyd fod sglodion pren yn daenfeydd rhagorol i wella cynhyrchedd planhigion.  

Ni ddeellir yn llawn sut yn union bydd sglodion pren yn atal twf chwyn, ond mae’n debyg fod hyn yn cynnwys rhwystro goleuni (atal rhai hadau rhag egino a lleihau gallu dail sydd wedi’u claddu i ffotosyntheseiddio), alelopathi (llesteirio gallu hadau i egino), a lleihad yn y lefelau o nitrogen ble bydd y pridd a’r daenfa yn dod i gysylltiad â’i gilydd (lleihau gallu planhigion ifanc i oroesi).  Mae defnyddio sglodion pren a gynhyrchir yn lleol hefyd yn gwella cynaliadwyedd ac yn ailddefnyddio deunyddiau planhigion, oherwydd os byddant yn cael eu defnyddio fel haenfa, ni fyddant yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

 

Beth ddylid ei wneud

Mae’n bwysig cychwyn chwalu taenfeydd cyn i chwyn unflwydd sefydlu eu hunain, felly caiff taenfeydd eu chwalu ar bridd moel yn syth ar ôl plannu cyn i hadau chwyn egino. Rhoddir taenfa yn y mannau rhwng cnydau a chynhelir pellter o 100mm oddi wrth y planhigion i osgoi’r perygl o greu amgylchedd tywyll a llaith heb lawer o ocsigen o amgylch y planhigyn, oherwydd gallai olygu perygl o glefydau ffwngaidd a lluosogi plâu.  

Bydd angen dau fath o driniaeth yn achos cnydau o gennin a chêl:

 

  1. Taenfa sglodion pren â dyfnder o 50-75m
  2. Rheoli chwyn – dim taenfa

         

Bydd hyd y lleiniau yn 3m ac ailadroddir hynny 3 gwaith ar draws y llecyn tyfu.  


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Pentre
Hugh Jones Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif