Huw a Meinir Jones

Bryn, Ferwig, Aberteifi

 

Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?

Cynyddu’r enillion pwysau byw ar borfa i’r eithaf: Fel gwartheg stôr byddwn ni’n gwerthu’n gwartheg bîff, ond ar ôl inni wneud newidiadau yn y busnes rydyn ni’n bwriadu pesgi’r gwartheg y flwyddyn nesa. Fe hoffen ni weld a ydy hyn yn bosib ar borfa neu, os nad yw’n bosib, sut fydd angen inni ychwanegu at eu deiet nhw.

Pori padogau: Er mwyn cael y gorau o botensial y borfa, rydyn ni yn y flwyddyn gyntaf o bori’r fuches bîff fesul padog. Mae hon yn system y dysgais i amdani ar gwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio llynedd ac rwy’n awyddus i wella’r wybodaeth sy gen i mor belled.

Rheoli clefyd Johne: Mae clefyd Johne yn fygythiad i systemau bîff sugno ac felly mae diogelu iechyd y fuches rhag y clefyd yma a chlefydau eraill yn flaenoriaeth inni.

Gwella iechyd y pridd yn fwy: Rydyn ni’n ceisio cynyddu’r maetholion ar y fferm gymaint â phosib, drwy roi’r gwellt nôl yn y caeau ar ffurf tail, a chadw’r gwartheg drwy’r gaeaf ar gnydau porthiant a gohirio’r porfeydd. Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn dibynnu ar bridd ffrwythlon ac felly rydyn ni’n awyddus i ddysgu sut i wella statws cemegol a ffisegol y pridd ymhellach.

Ffeithiau Fferm Bryn

 

“Mae trosglwyddo gwybodaeth yn hynod o werthfawr beth bynnag yw'ch sector chi, a dyna beth rydyn ni'n edrych ymlaen ato fel ffermwyr ar safle arddangos. Rydym yn mynd i lawer o ddigwyddiadau ar ffermydd ac os byddwn ni'n dysgu un peth yn unig ar yr ymweliad yna i'w ddefnyddio ar ein fferm ni'n hunain yna mae'r ymweliad wedi bod yn fuddiol iawn. Fel ffermwyr arddangos Cyswllt Ffermio byddwn ni'n dysgu gan bobl eraill a gobeithio bydd pobl eraill yn sygu gennyn ni."

– Huw a Meinir Jones

 

Farming Connect Technical Officer:
Menna Williams
Technical Officer Phone
07399 849 148
/
Technical Officer Email

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Pentre
Hugh Jones Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Cae Haidd Ucha
Paul a Dwynwen Williams Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst Prif