Ffeithiau Fferm Bryn

Mae Fferm Arddangos Bryn yn ddaliad 101 hectar (ha) sy’n gweithio fel fferm bîff. Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Huw Jones a’i wraig Meinir, hefyd yn tyfu 24ha o wenith, ceirch a barlys yn borthiant i’r fuches. 

Mae ganddyn nhw gymorth staff rhan-amser. 

Lôm tywodlyd ysgafn yw pridd fferm Bryn. 

Mae’r fferm yn codi i 400 troedfedd, ac mae’r caeau uchaf yn edrych dros aber yr afon yn Aberteifi. 

Mae 75 o fuchod sugno, sef Salers yn bennaf, yn lloia mewn bloc deg wythnos gan ddechrau ar 1 Chwefror. 

Tarw Charolais sydd â ffigurau bridio rhagorol yw’r prif darw stoc; ac mae tarw Henffordd yn cael ei ddefnyddio i gael heffrod cadw. 

Mae’r gwartheg yn cael eu gwerthu fel gwartheg stôr mewn marchnadoedd da byw. 

Mae’r fuches yn cael ei rhedeg ar system pori padogau.  

Mae’r fferm yn plannu rêp, maip neu gêl ar ôl cnydau grawn i’w pori fel cnydau porthiant gaeaf. 

Siediau agored yw’r adeiladau gaeaf i gyd. 

Mae’r fferm yn cynhyrchu gwair a gwellt at y diwydiant anifeiliaid anwes. Mae’r gwair yn cael ei dyfu o gymysgedd hadau arbenigol ac mae’r caeau hyn yn cael eu defnyddio wedyn fel porfeydd gohiriedig i fuchod sych. 

Mae’r silwair i gyd yn cael ei droi’n fyrnau mawr, ac mae rhyw 350 o fyrnau y flwyddyn yn cael eu cynhyrchu, ynghyd â rhywfaint o fyrnau gwair.