27 Chwefror 2023

 

Am y tair blynedd diwethaf mae fferm Bryn, safle arddangos Cyswllt Ffermio, ger Aberteifi, wedi gweithio ochr yn ochr â Cyswllt Ffermio ar brosiectau i wella perfformiad a chynaliadwyedd y busnes.

Mae'r rhain wedi cynnwys cynhyrchu teirw bîff o epil buches fagu Saler y fferm yn hytrach na'u gwerthu fel gwartheg stôr.

Gwnaeth Huw a Meinir Jones y newid hwn oherwydd eu bod yn ffermio mewn ardal TB uchel ac roedd risg pe bai'r fuches yn dioddef o afiechyd yn ddifrifol, ni fyddent yn gallu symud y gwartheg stôr oddi ar y fferm.

Maent bellach yn dewis teirw sy'n cael eu diddyfnu pan fyddent yn pwyso 280kg neu’n drymach i'w cadw'n gyfan; rhain yw epil tarw Charolais.

Am y tair blynedd diwethaf, mae perfformiad y teirw wedi cael ei fonitro gan Cyswllt Ffermio a’r canlyniadau wedi’u rhannu â ffermwyr mewn diwrnod agored diweddar a gynhaliwyd yn Bryn.

Un o'r siaradwyr oedd y maethegydd bîff a llaeth Hefin Richards, o Rumenation Nutrition Consultancy, a oedd wedi llunio'r dogn ac wedi rhoi cyngor.

Mae saith deg y cant o'r dogn yn haidd wedi'i rolio wedi'i dyfu gartref gyda'r gweddill yn cynnwys grawn indrawn, blawd had rêp, rêp wedi'i ddiogelu, triagl, burum byw, calchfaen a mwynau sy'n benodol i deirw bîff wedi’u ffermio’n ddwys. Mae cymeriant wedi bod yn 13kg y dydd ar gyfartaledd heb gynnwys gwellt.

Cafodd y deiet hwn sy'n seiliedig ar startsh gyda dwysedd egni uchel a lefel protein gymedrol - fel arfer 13-14% fel y’i bwydir - ei lunio i gyflawni lefelau DLWG uchel ond, gyda “llinell denau” rhwng perfformiad ac asidosis, dywedodd Mr Richards y dylid ystyried yn ofalus yr hyn sy'n mynd i ddogn teirw bîff i gynnal iechyd y rwmen.

Gan ddefnyddio hopranau sy’n rheoleiddio cymeriant, cynigir y cymysgedd porthiant tarw ochr yn ochr â phorthiant ar ôl ddiddyfnu.

Mae'r hopranau'n cael eu haddasu i gynyddu mynediad yn raddol nes eu bod yn bwydo’n gwbl rydd. 

Mae perfformiad dros y tair blynedd wedi gweld teirw yn treulio 100 diwrnod yn bwydo’n rhydd cyn mynd i’w lladd yn pwyso mwy na 600kg pwysau byw.

Drwy besgi’r teirw yn 13 mis oed, mae eu heffeithlonrwydd wrth drosi’r porthiant hwn yn dwf ar ei orau – mae lloi a anwyd ym mis Chwefror a mis Mawrth fel arfer yn cael eu gwerthu erbyn mis Ebrill, felly dim ond yn y tymor cyntaf y mae angen iddynt fod ar borfa tra maen nhw’n sugno.

Dywedodd Mr Richards fod potensial i gadw'r teirw am gyfnod hirach, er mwyn cynyddu pwysau'r carcas, ond mae hynny'n dod gyda “chyfaddawd” gyda llai o DLWG ac effeithlonrwydd trosi porthiant.

“Mae effeithlonrwydd yn gostwng ar y pwynt hwnnw. Mae’n wir, gellid cadw'r teirw am chwe wythnos arall, ond byddai'r costau porthiant yn uwch er mwyn ychwanegu cilogramau ychwanegol,'' meddai.

Er bod deiet yn bwysig iawn, mae llawer o ffactorau eraill hefyd yn bwysig, ychwanegodd Mr Richards.

“Iechyd da, rheolaeth o ddydd i ddydd, geneteg a dŵr glân, mae'n ymwneud â rhoi sylw i fanylion.

“Mae angen amgylchedd cyfforddus ar y teirw a chyn lleied o ymyrraeth â phosib er mwyn iddyn nhw fwyta ac yna gorwedd i gnoi cil. Yr hyn y dylid ei osgoi ar bob cyfrif yw cael gwartheg benyw gerllaw.''

Dros dair blynedd, tyfodd teirw Huw a Meinir ar gyfartaledd o 2.4kg y pen/dydd wrth fwydo’n rhydd. 

Cyflawnodd gwartheg bwysau o 345kg fel pwysau marw ar gyfartaledd ac fe’u lladdwyd ar 57%. Y pris gwerthu cyfartalog oedd £3.87/kg.

Dywedodd Menna Williams, Swyddog Technegol Cyswllt Ffermio, a oruchwyliodd y prosiect, ei fod wedi dangos bod magu teirw yn ddwys yn ffordd effeithlon o gynhyrchu cig eidion.

“Mae hyn yn arbennig o wir pan fo grawn wedi’i dyfu gartref ar gael,” meddai.

Mae Huw a Meinir hefyd wedi gwella effeithlonrwydd eu buches trwy leihau'r cyfnod lloia - mae 27% yn fwy o wartheg bellach yn lloia yn ystod y chwe wythnos gyntaf o gymharu â thair blynedd yn ôl.

Cyflawnwyd hyn yn rhannol trwy reoli gwartheg yn unol â’u sgôr cyflwr corff priodol; roedd dewis teirw ar gyfer rhwyddineb lloia hefyd wedi cynyddu nifer y lloi a fagwyd o 88% i 94% - gwerth £7,200 ar draws y fuches dros dair blynedd y prosiect.

Mae gwartheg yn cael eu gaeafu yn yr awyr agored am bob dim ond 10 wythnos, gan bori cnydau bresych porthiant cyn iddynt gael eu cadw dan do ar gyfer lloia.

Dywedodd yr ymgynghorydd bîff Rhidian Jones wrth ffermwyr yn y diwrnod agored fod cynhyrchu bîff magu effeithlon yn dibynnu ar sawl ffactor technegol pwysig.

Dylai ffermwyr sy'n bridio eu heffrod cyfnewid eu hunain ddewis heffrod o blith y rheini sy’n lloia gynharaf a dim ond rhoi tarw i heffrod am naw wythnos.

“Rhowch darw i fwy nag sydd ei angen arnoch, ond am gyfnod cyfyngedig, a bydd hyn yn cynyddu ffrwythlondeb ar ddechrau bywyd y fuwch yn y fuches,” dywedodd Mr Jones, o RJ Livestock Systems.

“Gall unrhyw un nad yw'n dod yn gyflo ailymuno â'r gwartheg stôr a does dim byd yn cael ei golli.''

Ffactorau eraill a ddylai fod yn eu lle yw cofnodi perfformiad ffrwythlondeb, cynllunio iechyd, mesur effeithlonrwydd gwartheg – mae angen i bwysau gwartheg sy’n cael eu magu fod dros 45% – a rheoli cyflwr y corff.

Mae un uned o gyflwr yn cyfateb i 10-13% o bwysau byw. 

Rhybuddiodd Mr Jones yn erbyn cosbi gwartheg am effeithlonrwydd os yw eu cyflwr wedi gwella ar laswellt, sy'n hanfodol ar gyfer systemau gaeafu yn yr awyr agored. 

“Mae’r cyflwr yma, wrth fynd i mewn i’r gaeaf, yn hanfodol i gyfrannu at ofynion ynni metabolaidd y fuwch y tu allan yn ogystal â’i hamddiffyn rhag yr elfennau,” meddai.

Dengys ymchwil, ar sgôr cyflwr corff (BCS) o 2.5 – 3 adeg lloia, mai’r bwlch rhwng lloia yw 364 diwrnod, mae’n codi i 382 diwrnod ar BCS o 2 ac mor uchel â 418 diwrnod ar BCS o 1 – 1.5.

Dywedodd Mr Jones, yn ogystal, bod sgôr cyflwr uwch o 2.5 i 3.0 adeg paru yn rhoi'r ganran orau o loi sy'n cael eu magu.

Mae gosod rhai targedau syml yn fan cychwyn da ar gyfer gwella perfformiad y fuches. 

Gall y rhain fod yn ffactorau megis nifer y buchod cyflo, nifer disgwyliedig y lloi, nifer y buchod a'r lloi sy'n marw, cyfraddau twf lloi a chanran y buchod sy'n mynd yn ôl yn gyflo. 

Mae Mr Jones yn cynghori cadw tabl syml gyda data targed a gwirioneddol, a'i ddiweddaru a'i adolygu'n rheolaidd i gadw'r fuches ar y trywydd iawn.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o