Diweddariad Prosiect (Awst 2021): Twf gwartheg ar fferm Bryn, Aberteifi
Yn hanesyddol, roedd Huw Jones, Fferm Bryn yn gwerthu’r holl loi bîff oddi ar y fferm fel lloi stôr, ond gyda TB yn dod yn pwyso mwy a mwy ar feddwl Huw, roedd yn awyddus i asesu gallu’r fferm i besgi gwartheg oddi ar y borfa. Mae Huw yn aelod o grŵp trafod bîff Cyswllt Ffermio ac yn aelod o grŵp Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio, sy’n canolbwyntio ar reoli’r borfa. Mae bod yn aelod gweithredol o’r grwpiau hyn, ynghyd â ffermio safle arddangos, wedi rhoi’r hyder iddo wneud y newid hwn.
Nodwyd fod angen gwerthu gwartheg erbyn mis Hydref fan hwyraf er mwyn sicrhau bod y llwyfan bori’n cael digon o amser i adfer er mwyn pori yn y gwanwyn. Gyda hynny mewn golwg, gosodwyd targed o gynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) o 1kg, ac mae Huw wedi bod yn pwyso gwartheg yn rheolaidd i sicrhau bod twf y gwartheg ar y trywydd iawn. Ym mis Mai, roedd twf yn is na’r targed. Roedd y tywydd yn ffactor sylweddol gyda gwasgedd isel yn dominyddu yn ystod mis Mai, gan ddod â glaw trwm a chyfnodau hir o dywydd gwlyb. Arweinidd hyn at y mis Mai gwlypaf yng Nghymru ers dechrau cofnodi ym 1862, gyda 245mm o lawiad, sydd ymhell dros ddwywaith y cyfartaledd hirdymor. Parhaodd y glaswellt i dyfu’n araf ar 36kgDM/ha ym mis Mai, ac o ganlyniad i dwf araf a thywydd gwael ar gyfer y gwartheg, cwympodd y cynnydd pwysau byw dyddiol i 0.71kg. Wrth i’r tywydd wella ym mis Mehefin, cynyddodd twf glaswellt i 75kgDM/ha ac mae’r gwartheg wedi dychwelyd i’r targed twf o 1kg/dydd ym mis Mehefin a Gorffennaf. Mae Huw yn wynebu her arall ym mis Awst gyda thwf glaswellt yn lleihau i 7kgDM/ha yn dilyn tywydd poeth iawn a phrinder glaw. Mae Huw wedi dechrau bwydo gwair er mwyn ategu at y cyflenwad a’r galw. Bydd gwartheg yn cael eu pwyso eto i nodi eu twf.
Graff 1. Twf dyddiol ar Fferm Bryn a gorchudd fferm cyfartalog.
Graff 2. Targedau twf ar wahanol gynnydd pwysau byw dyddiol.