17 Mai 2021

 

Mae tyfu gwndwn llysieuol yn helpu fferm gwartheg magu yng Nghymru i dyfu a phesgi gwartheg ar borfa gan leihau ei defnydd o nitrogen.

Mae Huw a Meinir Jones yn tyfu 6.5 hectar (ha) o gymysgedd hadau yn cynnwys llyriaid ac ysgellog sy’n gwreiddio’n ddwfn a meillion sy’n sefydlogi nitrogen ar Fferm y Bryn, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Aberteifi.

Yn ystod gweminar diweddar gan Cyswllt Ffermio, fe wnaethant sôn eu bod wedi dewis cynnwys rhygwellt mewn cymysgedd yn llawn mwynau i wella hyd oes y gwndwn.

“Os bydd yr ysgellog a’r llyriaid yn diflannu’n araf ar ôl pedair neu bum mlynedd fe fydd gennym feillion a rhygwellt o hyd,” dywedodd Mr Jones.

Ŵyn fu’n pori’r gwndwn gyntaf ar ddechrau Awst 2020, gyda’r cae yn cael ei rannu yn bum padog i’w hatal rhag pori yn ddewisol.

Wedi iddo gael ei adael i orffwys ers mis Rhagfyr, roedd yn mesur 2,400kgDM/ha pan drowyd gwartheg stôr arno yng nghanol mis Mawrth. Ni chwalwyd unrhyw wrtaith.

Y gyfradd dyfu darged ar gyfer gwartheg ar eu prifiant ar y gwndwn llysieuol yw 1.25kg y dydd am y tymor pori; byddant yn cael eu pwyso ddwywaith yn ystod yr haf er mwyn olrhain eu cynnydd. 

Dywedodd Dr Liz Genever, arbenigwr bîff a defaid annibynnol, sydd wedi bod yn cynghori’r teulu Jones ar eu gwaith prosiect Cyswllt Ffermio, mai un o’r ystyriaethau pwysicaf wrth dyfu gwndwn llysieuol yw’r rheolaeth arno mewn tywydd gwlyb.

“Nid ydynt yn hoffi cael eu pori mewn tywydd gwlyb felly mae angen rheoli yn ofalus, er enghraifft, ei bori ag anifeiliaid ysgafnach i osgoi problemau,’’ dywedodd.

Maent yn cyflawni’n dda mewn cylchdro ond i ffermydd sydd â phriddoedd trymach, cleiog, efallai y byddai cymysgedd o feillion a glaswellt, rhonwellt neu beiswellt yn well, ychwanegodd Dr Genever.

Mae’r Bryn yn fferm sych felly gall y gwndwn llysieuol gynnig porfa i’r teulu Jones hyd yn oed pan fydd y tywydd yn sych iawn.

Erbyn hyn maen nhw’n ystyried dyblu’r ardal, i 10ha, er mwyn cynnig bloc pori i wartheg sy’n tyfu. 

Maent yn cynhyrchu cig eidion o 80 o wartheg magu sy’n cael tarw Charolais neu Saler ac yn lloia o 3 Chwefror. 

Mae’r fferm wedi cael ei phori mewn cylchdro ar system 0.4 ha (1 erw) ers tair blynedd – yng nghanol y tymor mae’r cylchdro yn 28 diwrnod ar gyfartaledd.

“Mae gennym lawer mwy o reolaeth gyda phadogau llai, rydym yn gweld cynnydd gwych o ran y defnydd o borfa a’r borfa yn tyfu’n ôl ar ôl ei bori,” dywedodd Mr Jones.

“Ond mae angen i ni fod yn hyblyg, mae’r gwartheg yn dweud wrthym beth sydd arnyn nhw ei angen.”

Mae Mrs Jones yn mesur y borfa gyda mesurydd plât ac mae’r data’n cael ei uwchlwytho i Agrinet er mwyn creu’r cynllun pori. Caiff tyfiant y glaswellt ar y fferm ei fonitro gan Brosiect Porfa Cymru a gellir gweld y data ar wefan Cyswllt Ffermio.

Mae grŵp o 67 o wartheg yn pori’r blociau 0.4ha, a gyda gofyniad o 15kgDM/dydd/pen mae hyn yn creu gofyniad dyddiol o 1,005kgDM. Yng nghanol Mawrth roedd gan y fferm gyfartaledd o 2,378kg o gynnwys sych (DM) ha, sy’n golygu bod y gorchudd yn y blociau 0.4ha yn bodloni gofynion dyddiol y grŵp.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn awr yn llawer mwy hyderus wrth droi gwartheg i orchudd llai.

“Yn y gorffennol fydden ni ddim yn pori nes byddai’r gorchudd tua 3,000kgDM ha ond rydym wedi dysgu bod cyfnod byr, caled o bori ar orchudd llai a symud y gwartheg ymlaen yn sicrhau bod y borfa’n tyfu’n ôl.”

Mae’n beth da i iechyd y lloi hefyd, dywedodd Mrs Jones.

“Roedd gan y buchod ormod o laeth pan oedden ni’n pori gorchudd trymach ac roedd hynny’n achosi problemau i’r lloi,” dywedodd.

Mae’r teulu Jones yn awr yn ystyried adolygu’r dyddiad dechrau lloia i ddiwedd Chwefror, i gyd-fynd yn well â thyfiant y glaswellt. 

“Fe fyddai’n golygu y byddwn yn gallu cadw’r gwartheg stôr yn y sied am fwy o amser ac y gallent fynd yn syth allan i bori’r gwndwn llysieuol,” dywedodd Mr Jones.

Ar hyn o bryd mae dros 90% o’r fuches yn lloia mewn cyfnod o saith wythnos. 

Yn 2021, y cynllun yw lleihau’r cyfnod hefo’r tarw i chwe wythnos; fe fanteisir ar yr oedi byr cyn troi’r teirw at y gwartheg eleni gyda’r dyddiad dechrau lloia yn cael ei symud i ddiwedd Chwefror.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint