A ellir tyfu codog ar ffermydd yng Nghymru fel dewis amgen i faglys rhuddlas?

Mae’r prosiect hwn yn archwilio cnwd codog fel dewis amgen uchel mewn protein, anchwyddedig, gyda rhinweddau anthelminitig naturiol yn hytrach na maglys rhuddlas, gan werthfawrogi ei allu i sefydlu’n gyflymach, ei rinweddau ar gyfer pori, a’r diffyg hunan-wenwyno. Ar ddechrau mis Mai, bydd codog yn cael ei blannu ar dri chae ynghyd â gwndwn amlrywogaeth, gan ddefnyddio tri dull sefydlu: drilio uniongyrchol, drilio cyfunol a dril adfywio porfa Alstrong Auctus. Bydd y prosiect yn cynnwys mesur twf a chasglu samplau porthiant, gyda’r cnwd yn cael ei gynaeafu 10-12 wythnos ar ôl ei sefydlu.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Aer glân
  • Dŵr glân
  • Storio carbon
  • Lleihau risg llifogydd a sychder
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr