Nid yw Erin yn derbyn ceisiadau mentora newydd nes Ebrill 2024. Cysylltwch ag Awel Jones ar 07961 958 807 / awel.jones2@menterabusnes.co.uk i drafod eich opsiynau eraill.

Pam fyddai Erin yn fentor effeithiol

  • Mae Erin wedi bod yn hyfforddi a chystadlu gyda’i chŵn defaid ers yn ifanc iawn. Yn 2018 roedd yn bencampwr Prydain, ac yna yn 2019 enillodd yn sioe deledu’r BBC ‘One man and his dog’.
  • Er gwaethaf ei llwyddiant sylweddol mewn cystadlaethau, cred Erin mai’r peth mwyaf buddiol a gwerthfawr iddi hi yw bod ei chŵn yn gweithio o ddydd i ddydd ar y fferm gartref, gan chwarae rhan hynod o bwysig wrth fugeila diadell y teulu o 350 o ddefaid Cymreig Talybont croes Texel
  • A hithau’r bedwaredd genhedlaeth ar y ddwy ochr i fod â diddordeb mewn cŵn defaid, mae wedi manteisio ar ddigon o anogaeth ac arweiniad. 
  • Yn berson caredig ac amyneddgar sydd â chydymdeimlad â’r ci a’r bugail, mae Erin yn deall nad yw hyfforddi ci defaid yn hawdd heb arweiniad arbenigol.  Dyma pam ei bod wrth ei bodd o gael y cyfle i drosglwyddo ei gwybodaeth trwy ei phenodiad yn fentor Cyswllt Ffermio ac mae’n dweud yn frwdfrydig, “Dwi’n edrych ymlaen at wneud popeth allai i sicrhau bod y traddodiad o weithio cŵn defaid ar ffermydd yng Nghymru yn parhau!” 

Busnes fferm presennol

  • Gan weithio ochr yn ochr â’i thaid, mae Erin yn helpu i redeg y fferm deuluol gartref yn y Bala, Gogledd Cymru ac mae’n hyfforddi a chystadlu gyda’i chŵn defaid ei hun. 
  • Mae hi hefyd yn magu cŵn gyda’r rhagenw ‘Pandy’. Cychwynnodd ei hen daid, Maurice McNaught y rhagenw ‘Pandy’ yn 1930, ac fe welir ei enw yn y gyfrol gyntaf o lyfr bridio’r Gymdeithas Gŵn Defaid Ryngwladol.
  • Mae’r fferm dafliad carreg o leoliad y treialon cŵn defaid cyntaf i gael eu cofnodi yn 1873. 

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Penodwyd Erin yn ysgrifennydd cymdeithas gŵn defaid y Bala ac mae’n parhau i gynnal y traddodiad o gynnal y treialon cŵn defaid, sydd yn awr wedi cael eu cynnal am 150 o flynyddoedd.   Mae hefyd yn helpu i drefnu arwerthiannau cŵn defaid adnabyddus y gymdeithas ddwywaith y flwyddyn

  • 2019 – Enillydd cystadleuaeth ‘One man and his dog’ ar y BBC 

  • 2018 – Pencampwr Ifanc Prydeinig yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn Iwerddon.

  • 2022 - Mae Erin wedi gweithio gydag a hyfforddi nifer o unigolion adnabyddus gan gynnwys yr actor ar Emmerdale Dominic Brunt, yn ei baratoi i gystadlu yn y prif gylch yn Sioe Amaethyddol Swydd Efrog
     

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Ailadrodd yw’r allwedd wrth hyfforddi ci. Ceisiwch gadw pob sesiwn hyfforddi’n fyr ond gofalwch eich bod yn eu gwneud yn aml!” 
“Treuliwch amser gyda’ch ci oddi wrth y defaid. Bydd hyn yn creu perthynas gryfach a theimlad o ymddiriedaeth rhwng y ci a chithau a fydd yn gwella’r ffordd y bydd yr hyfforddiant yn datblygu.”