Fermigompostio

Dull o brosesu gwastraff organig trwy ddefnyddio mwydod yw Fermigompostio. Mae’n ddull naturiol, diarogl ac yn ddull aerobig sy’n wahanol iawn i gompostio traddodiadol.  Mae mwydod yn llyncu gwastraff ac yna’n cynhyrchu pridd mwydod sy’n dywyll, yn ddiarogl, yn llawn maeth a deunydd organig, a gronynau mwd pridd sy’n gyflyrydd pridd gwych.   Mae pridd mwydod yn wrtaith parod sy’n medru cael ei ddefnyddio ar gyfradd uwch na chompost gan fod maeth yn cael eu rhyddhau ar gyfraddau sy’n addas ar gyfer tyfu planhigion.

Gallai Fermigompostio gael ei ddefnyddio ar raddfa fawr gan ffermwyr gyda gwrtaith neu wastraff organig fel gwastraff ffrwythau a llysiau. Os yw’n cael ei gynllunio’n gywir, mae’n darparu dull o drin gwastraff sydd:

  • yn lân, yn dderbyniol yn gymdeithasol gyda braidd dim arogl neu’n hollol ddiarogl
  • yn lleihau’r gwastraff sy’n mynd at y gladdfa sbwriel
  • ddim yn gofyn am ddefnyddio ynni ar gyfer awyru
  • yn lleihau màs y gwastraff o 30%
  • yn cynhyrchu is-gynnyrch gwerthfawr fermigompost

Ar hyn o bryd, mae The Fruit Farm yn cynhyrchu llysiau a ffrwythau mewn caeau o tua 16 erw. Mae’r fferm yn cael ei ffermio i safon organig er nad yw’n ardystiedig eto. Trwy gydol y flwyddyn, mae nifer sylweddol o wastraff llysiau yn cael ei gynhyrchu ac ar hyn o bryd mae ystyriaeth yn cael ei roi i sut mae rheoli’r gwastraff hyn yng nghyswllt ffermio organig.

Nod y prosiect yw asesu pa mor addas yw fermigompostio gwastraff llysiau a ffrwythau ar y daliad er mwyn darparu gwrtaith organig a allai gael ei roi yn ôl i’r ddaear er mwyn cwrdd â gofynion maeth y cnydau.

 

Beth fydd yn digwydd:

Bydd system fermigompostio yn cael ei adeiladu er mwyn compostio’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu ar y fferm. Mae disgwyl i’r cyfnod compostio i fod yn tua 28 diwrnod a bydd y compost sy’n cael ei gynhyrchu yn cael ei asesu er mwyn canfod ei werth maethol. Bydd y compost hwn yn cael ei gymharu gyda rheolydd o domen gompost confensiynol sydd wedi cael ei adeiladu yn ôl yr arferion gorau.

Bydd yr abwydfa yn cael ei adeiladu gyda 4 blwch pren cadw tatw tua 1.2x1.8x0.8m o uchder.  Bydd gwaelod y blychau yn cael eu leinio gyda philen athraidd polypropylen cyn cael eu gorchuddio gyda thywod a grean cyn i’r biniau cael eu gorchuddio gyda philen athraidd polypropylen. Er mwyn galluogi’r mwydod i symud o un blwch i’r nesaf, bydd tyllau yn cael eu rhoi ar hyd ochrau’r blychau. Yna, bydd mwydod yn medru symud o un bin gwastraff sydd wedi cael ei gompostio i’r bin drws nesaf gyda gwastraff yn barod i’w gompostio.

Bydd Cynllun Rheoli Maetholion yn cael ei gwblhau ar gyfer y daliad, samplu’r pridd yn strategol yn yr holl ardal dyfu, a rhoi canllawiau yn eu lle ar gyfer y cyfraddau defnyddio’r fermigompost sy’n dilyn, sydd wedi cael ei brofi, yn ddibynnol ar ba lysiau a ffrwythau sydd wedi cael eu tyfu.  Wrth symud i gynhyrchiant organig, bydd y compost sy’n dilyn yn brif gyflenwr maeth ar gyfer yr uned.