Ffeithiau Fferm Aberbranddu
Ffermwyr
- Mae Fferm Arddangos Aberbranddu yn cael ei ffermio gan Irwel Jones a’i rieni Eirwyn a Heulwen.
Tir
- Mae Aberbranddu yn fferm fynydd 850 erw, gyda 650 erw yn berchen i’r fferm.
- Mae lefel y tir yn codi o 650 troedfedd i 1,250 troedfedd.
- Mae Aberbrandduyn rhan o gynllun Glastir Uwch.
- Mae’r tir yn cynnwys 500 erw o laswelltir, 150 erw o dir pori garw a 200 erw o goetir.
- Mae gan y fferm hawliau pori ar fynydd Mallaen, lle mae diadell gynefin yn cael ei bori.
Da Byw
Bîff
- 50 o fuchod sugno cyfandirol croes, gan ddefnyddio teirw Limousin a British Blue.
- Mae lloeau gwryw’n cael eu gwerthu fel lloeau 8-10 mis oed wedi’u diddyfnu.
- Mae lloeau benywaidd yn cael eu gwerthu’n 18 mis, gyda rhai yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid cyfnewid i ffermwyr sugno eraill.
- Lloea yn y gwanwyn.
Defaid
- Cafodd 980 o famogiaid a 220 o ŵyn benyw eu troi at yr hwrdd yn 2015.
- 860 o famogiaid Cymreig Tregaron, yn ŵyna o ganol mis Mawrth.
- Defnyddir hyrddod Cymreig Tregaron a Aberfield.
- 120 o famogiaid croes, yn ŵyna ym mis Chwefror.
- Hyrddod Cymreig Tregaron yn cael eu gwerthu ar gyfer bridio.
- Ŵyn benyw Aberfield yn cael eu gwerthu oddi ar y fferm.
- Mae pob oen yn cael tag EID ar enedigaeth, yn cael eu cofnodi’n wyth wythnos a phwysau diddyfnu yn cael ei gysylltu’n ôl i’r hwrdd a’r famog.
Cnydau
- Tyfir 10 erw o swêj i fwydo mamogiaid sy’n cario gefeilliaid ym mis Ionawr a Chwefror.
Gwybodaeth ychwanegol
- Gosododd y teulu system hydroelectric 7KW ar y fferm yn ddiweddar.
- Glastir Mynediad ac Uwch.