Ffeithiau Fferm Pendre

Dechreuodd Tom ffermio gyda’i rieni ar fferm y teulu ym Mrynperffaith, Pontarfynach, yn 2005.

Prynodd y teulu fferm Pendre yn 2000 a chymerodd Tom yr awenau yn 2010.

Mae gan y fferm fynydd 24 hectar (ha) o dir ac mae’n rhentu 61ha arall.

Mae Tom yn gweithio oddi ar y fferm i WLBP (Welsh Lamb and Beef Producers) dri diwrnod yr wythnos.

Mae’r ddiadell gaeedig o 480 o famogiaid yn gymysgedd o famogiaid Miwl wedi’u croesi, mamogiaid Cymreig Tregaron wedi’u gwella a mamogiaid Penfrych Cymreig.

Hyrddod Beltex x Charollais sy’n cael eu defnyddio ar gyfer y mamogiaid croes a hyrddod Cymreig a Wyneblas Caerlŷr gyda gweddill y ddiadell.

Bydd 100 o ŵyn benyw croes yn cael eu troi at yr hwrdd bob blwyddyn.

Mae’r defaid croes yn sganio ar 180% ar gyfartaledd ac mae’r defaid Cymreig Tregaron a’r defaid Cymreig Penfrych yn sganio ar 160%.

Mae’r mamogiaid i gyd yn wyna o dan do, rhwng 20 Chwefror a 20 Mawrth.

Mae ŵyn y ddiadell groes yn cael eu gwerthu i’r farchnad pwysau byw ym mis Mai ac mae’r wyn sy’n cael eu geni’n ddiweddarach yn mynd i Dunbia.

Mae 40 o hyrddod bridio’n cael eu gwerthu bob blwyddyn.