Ffeithiau Fferm Pentre

Daliad mynydd o 49 hectar (ha) yw Safle Arddangos Fferm Pentre. Mae’n cael ei ffermio gan Hugh Jones a’i fam, Glenys. Maen nhw’n rhentu 28ha arall.

Cafodd y fferm ei phrynu gan ddiweddar ŵr Glenys, Vernon, ym 1961.

Mae hyd at 35 o loi tarw Hereford ac Aberdeen Angus y flwyddyn yn cael eu prynu ar ocsiwn yn yr Wyddgrug a Rhuthun a chan werthwyr preifat rhwng 4-8 wythnos oed. 

Mae’r gwartheg yn cael eu cadw nes eu gorffen ac ar hyn o bryd maen nhw’n cael eu gwerthu i Dawn Meats yn 27-30 mis.

Defaid pedigri Lleyn yw’r rhan fwyaf o’r ddiadell gaeedig o 350 o famogiaid, ond mae’n cynnwys 70 o ddefaid Suffolk x Lleyn.

Hyrddod Lleyn pur sy’n cael eu defnyddio ar un rhan o dair o'r ddiadell Lleyn i fridio anifeiliaid cyfnewid. Mae’r mamogiaid eraill yn cael eu paru â hyrddod Suffolk a fridiwyd yn Seland Newydd sydd yn newid cyfeiriad mawr i’r teulu gan eu bod nhw wedi bod yn fridwyr brwdfrydig ar ddefaid Suffolk masnachol ers dros 30 mlynedd.  

Mae’r tripledi yn cael eu geni dan do ond eleni, oherwydd y tywydd mwyn, cafodd yr efeilliaid a’r ŵyn sengl eu geni y tu allan o 24 Mawrth ymlaen.

Mae’r ŵyn i gyd yn cael eu bwydo ar laswellt. Dim ond y rhai sy’n pesgi yn hwyr yn yr hydref sy’n cael dwysfwyd.

Mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu ym marchnad da byw yr Wyddgrug, fel arfer yn 40kg, o ddiwedd mis Mai ymlaen pan fydd yr ŵyn cyntaf yn 12-13 wythnos oed.

Yn 2013, cafodd 3.74ha o goetir pren caled brodorol ei blannu drwy’r Cynllun Creu Coetir. Mae’r tir hwn yn serth a rhywfaint ohono’n wlyb felly roedd yn agored i lefelau uchel o lyngyr yr iau ac yn risg fawr i iechyd y defaid.