Ffion Storer Jones

Dolanog, Powys

ffion storer 300x200 0

Magwyd Ffion Storer Jones ar fferm deuluol yn Sir Drefaldwyn. Oherwydd ei gallu mewn gwyddoniaeth, roedd wedi bwriadu astudio meddygaeth a gweithio mewn gwledydd sy’n datblygu ar y dechrau. Arweiniodd ei diddordeb mewn materion rhyngwladol at ei gweld yn gwirfoddoli i elusen leol yn canolbwyntio ar amaethyddiaeth gynaliadwy. Rhoddodd ei theithiau yn Ne America ac Asia olwg ryngwladol iddi ar iechyd a ffermio gan ei harwain i newid ei chwrs ar ei blwyddyn olaf yn y Brifysgol.  Ers hynny mae ei gyrfa wedi golygu ei bod yn rhan o brosiectau llywodraethol rhyngwladol gyda phwyslais penodol ar Fasnach Deg.  Bu Ffion yn gweithio ym mhartneriaeth Hyb Cymru Affrica yng Nghaerdydd cyn ymuno â’r Swyddfa Eiriolaeth Masnach Deg ym Mrwsel fel swyddog cyfathrebu ac eiriolaeth.

Mae Ffion yn gobeithio y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn ei helpu i ddod o hyd i lwyfan cyhoeddus neu rôl sy’n ei galluogi i hyrwyddo cydweithio ac undod rhwng ffermwyr a’u cymunedau ehangach a rhannu’r hyn a ddysgir ac arloesedd yn y diwydiant bwyd a’i systemau.

“Rwy’n teimlo yn angerddol y dylai defnyddwyr gael gwybodaeth a’u cefnogi i wneud y dewisiadau iawn sy’n cefnogi system fwyd gynaliadwy lle mae bwyd iach, o safon uchel wedi ei gynhyrchu yn gynaliadwy ar gael i bawb, gan gynnwys y ffermwyr”, meddai Ffion.

“Rwyf am atgyfnerthu’r neges bod gan ddefnyddwyr y grym i ddylanwadu ar newid ac rwy’n meddwl y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn gyfle gwych i gael dealltwriaeth well am y modd y mae systemau bwyd yn cael eu siapio, ar lefel genedlaethol a byd-eang.”