Foel Fawr Diweddariad ar y prosiect - Awst 2024
Nod y prosiect yn Foel Fawr yw gwella rheolaeth y fuches sugno trwy integreiddio technoleg ar gyfer casglu a dadansoddi data yn well. Mae'r dull hwn yn cynnwys:
- Rhoi Llwyfan Pwyso newydd ar waith: Mae llwyfan pwyso newydd wedi'i osod i hwyluso'r gwaith o gofnodi pwysau gwartheg yn effeithlon ac yn gywir. Mae hyn yn darparu data gwerthfawr ar gyfer monitro cyfraddau twf, asesu perfformiad unigol, a gwneud penderfyniadau rheoli gwybodus.
- Integreiddio Breedplan: Mae'r fferm wedi ymuno â Breedplan i gofnodi a dadansoddi data cynhyrchu hanfodol er mwyn cynhyrchu Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBV) ar gyfer y fuches. Mae hyn yn cynnwys cofnodi’r data canlynol -
- Rhwyddineb lloia (sgôr)
- Hyd beichiogrwydd (diwrnodau)
- Pwysau geni (kg)
- Pwysau 200-diwrnod (kg)
- Pwysau 400-diwrnod (kg)
- Pwysau 600-diwrnod (kg)
- Pwysau buwch llawn dwf (kg)
- Llaeth 200-diwrnod (kg)
- Maint ceillgydol (cm)
- Pwysau’r carcas (kg)
- Arwynebedd Cyhyrau’r Llygaid (cm sgwâr)
- Braster yr asennau (mm)
- Cydweithio â Chymdeithas Gwartheg Henffordd: Rydym yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Gwartheg Henffordd i bennu’r nodweddion penodol y dylid eu monitro a’r amseriad gorau posibl ar gyfer casglu data. Mae’r cydweithio hwn yn sicrhau bod y data a gesglir yn berthnasol ac yn ystyrlon ar gyfer y brîd penodol a nodau cynhyrchu’r fferm.
Cynnydd hyd yma:
Casglu a dadansoddi data Gwerthoedd Bridio Tybiedig: Mae casglu data wedi bod yn mynd rhagddo, gan ddilyn yr amserlen yn nhabl 1.
Tabl 1: Amserlen casglu data o'r fuches yn Foel Fawr
Sganio: Cafodd lloi a anwyd yn ystod gwanwyn 2023 eu sganio ym mis Ebrill 2024 i ganfod Arwynebedd Cyhyrau’r Llygaid (EMA), Cynnyrch Braster yr Asennau a Braster Mewngyhyrol (IMF neu farmor) fel y dangosir yn ffigurau 1 a 2. Y sganiwr uwchsain symudol a ddefnyddir yw'r EVO3 ac anfonir y delweddau i labordy prosesu UltraInsight yn Colorado i wneud y dadansoddiad. Dychwelwyd y data ar daenlen Excel i'r ffermwr cyn pen 48 awr. Mae'r dechnoleg a ddefnyddir yn cael ei hystyried yn un o'r sganwyr mwyaf manwl sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae gwneud penderfyniadau bridio yn seiliedig ar y potensial genetig drwy brynu teirw â Mynegai uchel wedi galluogi Foel Fawr i wella perfformiad y fuches dros y blynyddoedd fel y gwelir yn ffigurau 3 a 4. Mae’r ffigur yn amlygu dau fynegai:
- Mynegai Terfynol sy'n gwerthuso anifeiliaid bridio ar broffidioldeb eu lloi ar gyfer systemau pesgi;
- Mynegai Cyfnewid sy'n gwerthuso anifeiliaid bridio ar broffidioldeb eu hepil benywaidd.
Ffigur 3: Graff o dueddiadau geneteg brid ar gyfer mynegeion dethol yn Foel Fawr
Ffigur 4: Graff o Fuches Foel Fawr o'i gymharu â Thueddiad Geneteg Brid
Trwy gasglu data pellach gan y fuches i gynhyrchu Gwerthoedd Bridio Tybiedig, y nod yw parhau â llwyddiant bridio'r fuches.