Foel Fawr Diweddariad ar y prosiect - Terfynol

Canlyniadau allweddol:

  • Trwy brynu teirw gyda sgôr mynegai uchel yn seiliedig ar eu potensial genetig, mae fferm Foel Fawr wedi gweld gwelliant sylweddol o ran perfformiad y fuches dros y blynyddoedd.
  • Mae defnyddio’r teirw hyn wedi effeithio’n gadarnhaol ar y Mynegai Terfynol a’r Mynegai Cyfnewid, gan sbarduno proffidioldeb ar gyfer y fferm.
  • Mae’r system bwyso a thrin y gwartheg yn lleihau amser llafur ac yn symleiddio prosesau rheoli’r fuches, gan hefyd wella iechyd a diogelwch ar y fferm.

Cefndir:

Mae fferm Foel Fawr yn rhedeg buches bedigri i 70 o wartheg Henffordd sy’n lloia yn y gwanwyn. Mae’r fferm yn dewis teirw cyfnewid yn ofalus er hwylustod lloia a heffrod cryf, gan ddifa gwartheg gyda phroblemau iechyd neu ffrwythlondeb. Mae’r epil benywaidd a gynhyrchir naill ai’n cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid neu’n cael eu gwerthu, ac mae’r gwrywod yn cael eu pesgi neu eu gwerthu fel gwartheg stôr. Nod y fferm yw gallu gwerthu teirw Henffordd pur, ac er mwyn cyflawni hynny, mae’n bwriadu cyflwyno gwerthoedd bridio tybiedig (EBV). Bydd integreiddio system newydd ar gyfer pwyso gwartheg i’r system drin gwartheg yn helpu i adnabod nodweddion allweddol, a bydd sganio uwchsain yn asesu ansawdd braster er mwyn gwneud gwell penderfyniadau’n ymwneud â bridio.

Diben y gwaith:

  1. Cyflwyno system bwyso gwartheg sy’n integreiddio gyda’r system drin newydd ar y fferm, gan wella’r broses o gasglu data, rheolaeth y fuches ac iechyd a diogelwch wrth drin da byw.
  2. Cydweithio gyda’r Gymdeithas Gwartheg Henffordd i nodi nodweddion allweddol ar gyfer monitro a phennu’r amseroedd gorau ar gyfer cofnodi data i wella penderfyniadau’n ymwneud â bridio a geneteg y fuches.
  3. Defnyddio technoleg sganio uwchsain i sganio heffrod cyfnewid a theirw posibl i fesur nodweddion megis arwynebedd cyhyrau’r llygaid, braster yr asennau, cynnyrch yr asennau a braster mewngyhyrol ar gyfer gwell dewisiadau bridio.

Yr hyn a wnaed:

Er mwyn gwella penderfyniadau’n ymwneud â bridio, defnyddiodd y fferm Werthoedd Bridio Tybiedig ochr yn ochr â thechnoleg sganio uwchsain ar anifeiliaid byw. Mae Gwerthoedd Bridio Tybiedig yn rhagfynegi potensial genetig ar gyfer nodweddion allweddol, megis Arwynebedd Cyhyrau’r Llygaid, braster yr asennau, cynnyrch yr asennau a braster mewngyhyrol. Mae’r broses sganio’n mesur y nodweddion hyn yn uniongyrchol, gan gynnig data manwl ar gyhyrau, trwch braster, a brithder.

Cafodd anifeiliaid 400 i 600 diwrnod oed eu sganio, gan gofnodi pwysau a maint ceillgydol ar adeg sganio. Cafodd yr anifeiliaid eu sganio deirgwaith yn 2024, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr ar gyfer dethol y teirw a’r heffrod gorau. Bydd y ddyfais sganio EVO3 a’r dadansoddiad Ultrainsight yn sicrhau data cywir a chyflawn, gan ddarparu’r canlyniadau o fewn 48 awr. Mae’r dull hwn yn caniatáu ar gyfer penderfyniadau mwy deallus, gan wneud y gorau o ansawdd y carcas a geneteg y fuches.

Canlyniadau:

Mynegai Terfynol (Proffidioldeb lloi ar gyfer systemau pesgi):

  • Mae teirw a ddewiswyd gyda sgôr Mynegai Terfynol uchel wedi cynhyrchu lloi gyda chyfraddau twf uwch a gwell nodweddion pesgi.
  • Mae’r gwelliannau hyn wedi arwain at gynnyrch a phroffidioldeb uwch pan gaiff y lloi eu gwerthu ar gyfer pesgi.

Mynegai cyfnewid (Proffidioldeb lloi benywaidd):

  • Mae canolbwyntio ar y Mynegai Cyfnewid wedi arwain at gynhyrchu epil benywaidd mwy proffidiol gyda gwell lefelau ffrwythlondeb, iechyd a hirhoedledd.
  • Mae hyn yn sicrhau rhaglen fridio gynaliadwy, gyda’r lloi benywaidd yn cael eu dewis am eu potensial i gynhyrchu anifeiliaid cyfnewid o ansawdd uchel ar gyfer y fuches.

Cynnydd genetig dros amser:

  • Mae defnyddio teirw gyda sgôr mynegai uchel yn barhaus wedi arwain at gynnydd geneteg mesuradwy, sydd i’w weld ym mherfformiad lloi gwryw a benyw.
  • Mae’r gwelliannau hyn yn dangos effaith gadarnhaol defnyddio data geneteg i lywio penderfyniadau’n ymwneud â bridio.

Canllaw 5 cam i roi canfyddiadau prosiect Foel Fawr ar waith ar eich fferm

Dewis teirw gyda sgôr mynegai uchel yn seiliedig ar botensial genetig:

  • Defnyddio’r gwerthoedd bridio tybiedig i asesu a dewis stoc bridio, gan ganolbwyntio ar nodweddion sy’n bwysig i’ch buches

  • Canolbwyntio ar ddewis y teirw gorau o safbwynt ffrwythlondeb, iechyd a chadernid strwythurol i leihau problemau iechyd yn y dyfodol a gwella hirhoedledd cyffredinol y fuches.

Defnyddio gwerthoedd bridio tybiedig (EBV) i wneud penderfyniadau gwybodus:

  • Defnyddio’r gwerthoedd bridio tybiedig i asesu a dewis stoc bridio, gan ganolbwyntio ar nodweddion sy’n bwysig i’ch buches

Monitro nodweddion allweddol gyda sganio uwchsain:

  • Cyflwyno technoleg sganio uwchsain i fesur nodweddion carcas critigol megis arwynebedd cyhyrau’r llygaid, braster yr asennau a brithder mewn teirw a heffrod.
  • Sganio anifeiliaid 400-600 diwrnod oed, gan sicrhau bod iechyd y pwrs/cadair hefyd yn cael ei werthuso mewn heffrod cyfnewid i osgoi problemau posibl gyda chynhyrchiant llaeth.

Cofnodi a dadansoddi data yn gyson:

  • Cadw cofnodion manwl o’r holl ddata’n ymwneud â bridio gan gynnwys gwerthoedd bridio tybiedig, canlyniadau sganio uwchsain, a data perfformiad yn ymwneud ag iechyd y pwrs/cadair a chloffni mewn gwartheg.

System bwyso a thrin gwartheg sy’n addas i’r diben:

  • Gall systemau trin gwartheg priodol leihau amser trin a gallai hefyd arbed costau llafur ychwanegol o bosibl.
  • Systemau trin diogel i ofalu am iechyd a diogelwch y sawl sy’n trin y gwartheg.