Gareth Evan Lewis
Llanidloes, Powys
Mae Gareth Lewis yn cyfuno ei rôl fel swyddog caffael i un o brif gwmnïau prosesu cig Ewrop â ffermio ochr yn ochr â’i rieni yn Llanidloes, lle mae’n bartner busnes ar y fferm bîff a defaid deuluol. Ac yntau yn gyfrifol am reoli’r fenter yn barod, yn ddiweddar cymerodd Gareth y cyfrifoldeb o fod yn arweinydd y daliad ac mae’n edrych ymlaen at gael datblygu’r busnes ymhellach.
Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau ymwneud â Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn ar lefel clwb ac ar lefel sirol ac mae’n gwerthfawrogi’r cyfle i gynorthwyo ffermwyr ifanc eraill i ddeall beth sydd ar y farchnad ei angen a beth y mae’n ei ddisgwyl o’r sector cig coch yng Nghymru.
Athroniaeth Gareth mewn bywyd yw cadw’n bositif, mae arnom angen amgylchynu ein hunain â rhai sy’n adlewyrchu egni nid y rhai sy’n tynnu pawb i lawr ac mae’n credu ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar gyfleoedd a phryderon sydd o fewn ein rheolaeth.
“Fy nod yw canolbwyntio ar y cadarnhaol nid y negyddol ac rwy’n obeithiol y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn fy ysbrydoli, fy nghyflwyno i rwydweithiau newydd ac yn rhoi’r sgiliau y mae arnaf eu hangen i ymwneud â’r materion fydd yn cael dylanwad ar gyfeiriad ein diwydiant yn y dyfodol.
“Rwyf eisoes yn defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a gefais o fod yn rhan o’r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn ôl yn 2014, felly rwy’n gwerthfawrogi gwerth y rhaglen Academi Amaeth ac rwy’n teimlo yn ffodus iawn o gael cymryd rhan eto.