Pam y byddai Gareth yn fentor effeithiol

  • Mae gan Gareth, sy’n byw ar fferm bîff a defaid yn Henllan, fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cneifio. Yn gystadleuydd brwd ac yn enillydd gwobrau cneifio di-ri, mae ei waith wedi mynd ag ef i bedwar ban byd. Mynychodd ysgol gneifio yn Seland Newydd dair gwaith ac mae’n ystyried ei hun yn ffodus i fod wedi gwylio, cymryd cyngor a dysgu gan y goreuon.  
  • Mae wedi ennill llu o achrediadau British Wool ar gyfer cneifio a nawr, fel un o uwch hyfforddwyr y sefydliad, mae'n cael hyfforddiant ychwanegol mewn Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf a mentora.  Mae wedi cystadlu’n llwyddiannus ar y lefel uchaf ers dros 20 mlynedd, ond dywed ei fod yn gweld helpu cneifwyr iau neu newydd i gyflawni eu potensial yn un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil ar ei waith.
  • Mae’n cyflogi cneifwyr ifanc bob blwyddyn i helpu yn ei fusnes contractio teuluol tymhorol ac mae’n ei ystyried yn werth chweil i helpu pobl ifanc i drawsnewid eu sgiliau o lefel iau i lefel uwch neu lefel agored. 
  • Yn gyfathrebwr hyderus a chyfeillgar ac yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae Gareth yn edrych ymlaen at gyfuno ei rôl hyfforddwr gyda British Wool gyda’i rôl ddiweddaraf fel mentor i Cyswllt Ffermio. Nid yn unig y bydd yn hapus i rannu ei sgiliau a’i arbenigedd mewn technegau cneifio, ond byddwch hefyd yn dysgu am ei amser yn cneifio ar ranshis defaid enfawr yn Seland Newydd yn ogystal â’i brofiad o sefydlu busnes cneifio llwyddiannus ar gontract.   

Busnes fferm presennol

  • Mae Gareth yn ffermio gartref mewn partneriaeth â’i wraig ar fferm bîff a defaid 120 erw lle mae’n cadw diadell o 400 o ddefaid Texel croesfrid a buches fechan o wartheg stôr wedi’u prynu i mewn. 
  • Mae'r pâr hefyd yn rhedeg busnes contractio cneifio ac yn cyflogi dau gneifiwr ychwanegol trwy gydol misoedd yr haf. 

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad 

  • Dechreuodd Gareth gneifio pan oedd yn 16 oed, teithiodd i Seland Newydd i gneifio yn 17 oed ac yna, wedi’i ysgogi gan brofiad ffermio defaid ‘ar raddfa fawr’, aeth yn ôl i’r wlad saith gwaith arall dros y 15 mlynedd nesaf. 
  • Dechreuodd gystadlu yn 17 oed a symudodd i safon Agored pan oedd yn tua 19 oed, gan ennill nifer o gystadlaethau gan gynnwys y gystadleuaeth Hŷn yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2003.
  • Enillodd gystadleuaeth fawreddog Pencampwr Cneifio Cymru yn 2005, 2009 a 2012.
  • Mae wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth gneifio Agored Sioe Frenhinol Cymru ddwywaith a hefyd wedi cystadlu mewn nifer o rowndiau terfynol Agored ledled y DU.
  • Cynrychiolodd Gymru mewn sawl gêm Brawf yn y DU, Iwerddon a Ffrainc dros y blynyddoedd.
  • Cynrychiolodd Gymru ym Mhencampwriaethau Cneifio’r Chwe Gwlad yn ogystal ag ym Mhencampwriaethau’r Byd Golden Shears 2010 a gynhaliwyd yn Sioe Frenhinol Cymru, gan ddod yn bedwerydd yn unigol ac yn ail fel tîm.
  • Mae Gareth hefyd yn aelod o nifer o bwyllgorau trefnu sioeau.

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes:

“Mae’n hanfodol dysgu’r pethau sylfaenol a chael yr hyder a’r wybodaeth i drin pob dafad yn ddiogel ac yn effeithlon.”
“Byddwch bob amser yn gyfeillgar, yn gwrtais a chyfathrebwch â’r ffermwyr rydych yn gweithio iddynt neu ochr yn ochr â nhw, mae’n helpu i feithrin ymddiriedaeth a chyflawni’r swydd.”