Gelli Goll Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Dechreuwyd sefydlu’r cnwd ar 25 Ebrill gyda’r gweithrediadau maes canlynol yn digwydd:
- Chwistrellu’r Glaswellt presennol gan ddefnyddio 4 litr/ha o Lyffosad
- Aredig
- Hau Hadau - cyfradd hadau o 100kg/erw o Sovrein Combicrop Western Seed
- Gwrtaith ar adeg sefydlu - 125kg/erw o 20.10.10
Mae’r ddau lun isod yn dangos twf y cnwd ar y ddau gae o fewn y prosiect, Red Farm a Chae Lime Kiln ym mis Mehefin.
Ffigur 1. Twf Cnydau ar Red Farm 17 Mehefin 2024
Ffigur 2. Twf cnydau yng Nghae Lime Kiln 25 Mehefin 2024
Y Camau Nesaf?
- Bydd y ffermwr yn cynnal asesiadau gweledol trwy gydol y tymor tyfu nes bod y caeau’n barod ar gyfer y cynhaeaf
- Y nod yw silweirio’r cnwd ar ôl 15 wythnos er mwyn creu Silwair Cnwd Cyfan. Unwaith y bydd wedi'i eplesu, bydd y cnwd yn cael ei ddadansoddi am ei werth bwydo. (dylai'r dyddiad cynaeafu a amcangyfrifir fod yn yr wythnos sy'n dechrau 5 Awst, os bydd y tywydd yn caniatáu). Yna, bydd y cnwd yn cael ei silweirio fel Cnwd Cyfan cyn ei fod yn barod i'w fwydo allan yn y dogn gaeaf
- Yn dilyn asesiadau ansawdd, byddant yn defnyddio dogn bwydo gaeaf yn seiliedig ar y Silwair Cnwd Cyfan ynghyd â dogn fel opsiwn rheoli
- Bydd enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) gwartheg yn cael eu cofnodi er mwyn monitro perfformiad a gwerth bwydo'r Silwair Cnwd Cyfan