Pam fyddai Geraint yn fentor effeithiol

  • Mae’r siaradwr Cymraeg, Geraint, wedi gweithio yn y byd amaeth ers mwy na 25 mlynedd. Mae’r ffermwr blaengar hwn yn cyfuno ffermio - yn organig yn bennaf - a chynhyrchu bwyd gyda rheoli’r amgylchedd a’r adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. 

  • Yn siaradwr sy’n cael ei barchu a gwybodus am faterion gwledig, mae gan Geraint nifer o swyddi cynghori gyda sefydliadau gwledig amlwg.  Yn wrandäwr da, yn gyfathrebwr hyderus ac yn ddatryswr problemau, mae’n edrych ymlaen at ei swydd fentora a rhannu ei wybodaeth eang a’i arbenigedd gydag eraill.

  • Mae ganddo brofiad personol o gynnwys nifer o gynlluniau amaethyddol yn ei fusnes ei hun, gan gael mynediad at wahanol gronfeydd ariannol sydd ar gael trwy Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw a Pharc Cenedlaethol Eryri ac yn y blaen.

  • Mae Geraint yn canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd o safon uchel ochr yn ochr â chynnal a gwella’r amgylchedd naturiol.   Mae ganddo brofiad personol o nifer o arferion ffermio cynaliadwy gan gynnwys gwaith cyfalaf a ddyluniwyd i wella’r amgylchedd sy’n cael ei ffermio, cysylltedd seilwaith gwyrdd, creu gwrychoedd, eu rheoli a bôn-docio.

  • Yn rheolwr coetir profiadol, mae ei bwyslais ar blannu coed ar ffermydd yn y llefydd ‘gorau’ heb effeithio ar gynhyrchiant, ac mae’n ffordd sy’n annog bioamrywiaeth.  Mae hefyd wedi cynllunio a phlannu coedydd ar hyd nentydd lle mae pysgod yn mudo. 

  • Yn drafodwr profiadol, mae ganddo brofiad personol o reoli contractau yng nghyswllt cytundebau rheoli tir gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â chytundebau tenantiaeth.

Busnes fferm presennol

  • 1,200 erw o ucheldir a mynydd (yn berchen rhan, rhentu rhan) gyda choetir sy’n codi o 750 troedfedd i 2200 troedfedd. 
  • Saif y fferm ym Mharc Cenedlaethol Eryri gydag 85% o’r tir wedi ei ddynodi’n SoDdGA a 960 erw yn organig gyda’r gweddill yn cael ei ffermio’n gonfensiynol.
  • Cedwir 750 o famogiaid sy’n sganio ar tua 145% gan ŵyna allan yn bennaf gyda’r rhan fwyaf o’r ŵyn yn mynd yn uniongyrchol i’r lladd-dy gyda’r ŵyn croes yn lladd allan ar tua 19.9kg a’r ŵyn cynhenid ar tua 14.5kg. Bydd canran fechan yn cael eu gwerthu yn stôr yn arbennig os bydd y farchnad yn dda.
  • Ar hyn o bryd mae 70 o fuchod magu gyda’r lloeau’n cael eu gwerthu’n stôr.
  • Mae’r fferm yn cynhyrchu porthiant o safon uchel er mwyn cael gwared o’r angen i brynu dwysfwyd a sicrhau’r cyfraddau tyfu gorau. Canolbwyntiwyd ar wndwn amlrywogaeth am y deng mlynedd diwethaf, sy’n dod â llu o fanteision i’r busnes, gyda phwyslais neilltuol ar godau oherwydd eu nodweddion sefydlogi nitrogen. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyflwyno silwair tir âr wedi cynyddu’r protein sydd yn y dogn at y gaeaf.
  • Mae rheoli dŵr yn adnodd allweddol yn ogystal â gwasanaeth ecosystem. Creodd ac adferodd Geraint nifer ddirifedi o byllau, sefydlu system argae sy’n gollwng ac adfer mawnogydd trwy gronni ffosydd yn ychwanegol at gynaeafu dŵr at ddefnydd y stoc.
  • Bu cylchdroi cnydau a chynllunio rhaglen ail-hadu’r fferm o gynllunio maetholion y pridd i ddewis cnydau yn fanteisiol. 
  • Mae’r rheolaeth ar bori’r mynydd wedi gwella dros y deng mlynedd diwethaf o fod â dim ond defaid yn pori i gyflwyno gwartheg.  Mae’r rhain yn trawsnewid y planhigion sy’n tyfu ac yn agor y ffordd i ardaloedd yr oedd y defaid wedi stopio eu pori oherwydd eu bod wedi tyfu gormod. Mae’r ffaith bod y gwartheg yn pori o fudd i’r defaid a’r bywyd gwyllt gan sicrhau ecosystem iachach i’r busnes. 
  • Gosod llety oddi ar y fferm.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Cyfarwyddwr FWAG Cymru
  • Cyfarwyddwr Anweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru
    • Fforwm Mynediad Cenedlaethol, Cadeirydd
    • Pwyllgor risg llifogydd
    • Pwyllgor Ardaloedd a Ddiogelir
    • Pwyllgor Ystâd Tir 
  • Cynghorydd RSPB ar integreiddio arferion fferm i systemau amgylcheddol
  • Cyfarwyddwr Partneriaeth Penllyn 2009 - 2023 
  • Cyngor Plwyf Llanycil 2006 – 2023
  • Cymdeithas Cŵn Defaid y Bala, Trysorydd
  • Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, Cadeirydd Cymru, Aelod o Grŵp Llywio'r Deyrnas Unedig a Chyfarwyddwr, 2017-2018
  • Undeb Amaethwyr Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Llais Iau, 2016-18 
  • Cymdeithas Tir Glas Meirionnydd, Cadeirydd, 2019
  • Undeb Amaethwyr Cymru, Cadeirydd Meirionnydd 2017-19 
  • Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, 2016

Gwobrau

  • 2015 Gwobr ‘Silver lapwing’ y Deyrnas Unedig – cil-wobr 
  • 2008 Gwobr amaeth-amgylcheddol CAFC – enillydd

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

“Edrychwch ar eich busnes fferm yn ei gyfanrwydd, nid mewn silos, deallwch ble a sut y gall pethau weithio gyda’i gilydd, yn neilltuol yng nghyswllt yr amgylchedd naturiol.”
“Dynodwch gyfleoedd i ‘bentyrru’ mentrau ar y fferm.”