Glyn Arthur Diweddariad ar y prosiect - Terfynol
Prif ganlyniadau:
Sganio:
- 2023: 103%
- 2024: wedi cynyddu i 105%
- 2025: wedi cynyddu i 111%, gan symud tuag at y targed o 120%
Cyfradd defaid gwag:
- 2023: cyfradd defaid gwag o 8%
- 2024: cyfradd defaid gwag o12%
- 2025: cyfradd defaid gwag wedi gostwng i 4%, gan gyflawni’r targed o fod o dan 5%
Sgôr Cyflwr Corff: Gwelliant o 2 i 2.5 wrth ddiddyfnu yn 2024 i 2.5 i 3 wrth droi at yr hwrdd yn 2024.
Roedd nifer y marwolaethau rhwng diddyfnu a gwerthu yn llai na 2% yn 2024, gan gyflawni’r targedau. Y bwriad yw cynnal y lefel hon ar gyfer ŵyn 2025.
Gyda rhagolygon o gynnydd o 10% mewn canrannau wyna ar gyfer 2026, gallai hynny fod cyfwerth â chynnydd o £3,500 mewn cyfanswm gwerthiannau ŵyn stôr yn seiliedig ar ffigurau cyfredol.
Trwy wneud y gorau o gynhyrchiant mamogiaid, mae’r fenter yn sicrhau arbedion o £2,500 y flwyddyn, gan leihau nifer y mamogiaid ond cynnal yr un allbynnau ŵyn.
Cefndir:
Mae Glyn Arthur Farms, sydd wedi’i lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn ymestyn dros 330 erw o dir pori ucheldir, gan reoli 650 o famogiaid croes gyda geneteg defaid Mynydd Cymreig a Cheviot. Gyda hanes teuluol dros nifer o flynyddoedd, mae rheolaeth y fferm bellach wedi’i throsglwyddo i Sarah Hammond yn ddiweddar. Roedd data hanesyddol yn amlygu’r angen i wella iechyd a chynhyrchiant y ddiadell, gan ganolbwyntio ar gynyddu canrannau sganio, lleihau nifer y mamogiaid gwag, a mynd i’r afael â marwolaethau ŵyn, yn enwedig ŵyn ifanc. Nod y prosiect oedd mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy gyflwyno ymyriadau wedi’u targedu.
Diben y gwaith:
Prif nod y prosiect oedd gwella perfformiad y ddiadell. Roedd hyn yn cynnwys:
- Archwilio’r hyn sy’n achosi problemau allweddol o ran perfformiad (e.e. canran sganio, mamogiaid gwag, marwolaethau ŵyn) a rhoi atebion wedi’u targedu ar waith.
- Mynd i’r afael â phryderon iechyd penodol, megis clwy’r cymalau mewn ŵyn, gan ddefnyddio mesurau ataliol a chywirol.
- Gwneud y defnydd gorau o arferion rheoli fferm, gan gynnwys sgorio cyflwr corff, cynllunio iechyd, ac ychwanegu mwynau i wella cynhyrchiant cyffredinol y ddiadell.
Yr hyn a wnaed:
Dechreuodd y prosiect ym mis Tachwedd 2023 gyda’r mamogiaid eisoes gyda’r hyrddod, a chafodd y prif ymyriadau eu cyflwyno ar unwaith i ddechrau mynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
- Sgôr Cyflwr Corff: Sgorio’n rheolaidd wrth gasglu defaid ynghyd i sicrhau dosbarthiad pori cyfartal, gan ganolbwyntio ar famogiaid ac ŵyn tenau.
- Datblygu Cynllun Iechyd: Creu cynllun iechyd gweithredol a’i ddiweddaru’n rheolaidd i fynd i’r afael â phroblemau megis Tocsoplasma gondii ac ymwrthedd parasitiaid.
- Cyfrif Wyau Ysgarthol: Monitro ŵyn ar gyfer heintiau parasitig, gan alinio triniaethau gyda chyngor SCOPS.
- Profi Gwaed a Brechu: Profi mamogiaid gwag am asiantau erthylu, gydag argymhellion ar gyfer brechu yn y dyfodol.
- Archwiliadau post mortem a phroblemau gyda’r cymalau: Archwilio ŵyn i edrych am heintiau sy’n achosi problemau gyda’r cymalau, a rhoi protocolau hylendid a brechu newydd ar waith.
Archwiliad mwynau: Cynnal archwiliad mwynau trylwyr o samplau porthiant, gwaed a’r iau i gywiro diffygion elfennau hybrin. - Profi Iechyd Hyrddod: Profi hyrddod am broblemau ffrwythlondeb, gan sicrhau stoc bridio o ansawdd uchel.
Canlyniadau:
Gan fod y prosiect wedi dechrau ym mis Tachwedd 2023 gyda’r mamogiaid eisoes gyda’r hyrddod, cydnabuwyd na fyddai rhai o’r gwelliannau DPA i’w gweld yn ystod y flwyddyn gyntaf.
- Marwolaethau ŵyn a phroblemau gyda’r cymalau: Dangosodd archwiliadau post mortem fod nifer o ŵyn wedi marw o heintiau’r bogail, heintiau clostridiol a phasteurellosis. Cafodd protocolau brechu ac arferion hylendid megis cadw hyrddod mewn cwarantîn ar ôl eu prynu, eu haddasu yn ôl yr angen.
- Diffyg Mwynau: Nodwyd problemau elfennau hybrin, yn enwedig lefelau isel o ïodin a seleniwm. Rhoddwyd bolws yn cynnwys copr, seleniwm ac ïodin cyn troi’r mamogiaid at yr hwrdd.
- Ffrwythlondeb hyrddod: Roedd angen ailbrofi pedwar o’r hyrddod, gyda dau ohonynt yn methu’r profion ffrwythlondeb, gan amlygu’r angen i gynnal profion ffrwythlondeb yn rheolaidd.
- Gallai cynnydd o 10% mewn canran ŵyna gyfateb â chynnydd o £3,500 yng nghyfanswm gwerthiannau ŵyn.
Sut i’w rhoi ar waith ar eich fferm:
- Sgôr Cyflwr Corff: Sgorio’n rheolaidd i sicrhau bod mamogiaid yn y cyflwr gorau posibl drwy gydol y flwyddyn.
- Datblygu Cynllun Iechyd: Creu cynllun iechyd wedi’i deilwra ar gyfer eich diadell, gan ei adolygu yn ôl yr angen yn seiliedig ar broblemau iechyd sy’n codi.
- Monitro Lefelau Parasitiaid: Cynnal profion cyfrif wyau ysgarthol yn rheolaidd a gweithredu triniaethau dethol yn seiliedig ar ganfyddiadau.
- Profion Gwaed: Cynnal profion am unrhyw ddiffyg mwynau a defnyddio ychwanegion fel bo’r angen i atal diffygion rhag effeithio ar gynhyrchiant eich diadell.
- Profi Iechyd Hyrddod: Cyn bridio, profi ffrwythlondeb yr hyrddod i sicrhau mai dim ond hyrddod ffrwythlon a ddefnyddir.