Graianfryn Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024

Er mwyn sicrhau bod y gwerthusiad yn un cadarn, ailadroddwyd y prosiect gydag ail swp o loi ym mis Gorffennaf 2024. Mae casglu data ar gyfer yr ail swp hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, sy’n caniatáu i’r fferm gymharu’r ddau grŵp a nodi unrhyw dueddiadau neu ganlyniadau cyson.

Y Camau Nesaf?

Wrth i’r ail swp o loi agosáu at gael eu diddyfnu, bydd y gwaith o gasglu a dadansoddi data yn dechrau, a fydd yn cynnwys asesiad cyflawn o’r holl ddata a gafwyd, megis cofnodion iechyd a chyfraddau twf y lloi, a nodweddion amgylcheddol. Drwy gymharu perfformiad y ddau swp o loi ac asesu nifer yr achosion o glefydau resbiradol a'r defnydd o wrthfiotigau, ein nod yw mesur effaith y system dan do newydd ar les anifeiliaid ac, yn gyffredinol, ar gynhyrchiant.

Bydd canfyddiadau'r dadansoddiad hwn yn allweddol o ran llywio gwelliannau posibl i'r system magu lloi a bydd hefyd yn llywio penderfyniadau o ran rheoli yn y dyfodol yng Ngraianfryn.