Graianfryn Diweddariad ar y prosiect – Mawrth 2024
Rhoddwyd y system dan do newydd ar waith, gan groesawu ei swp cyntaf o loi. Dechreuwyd casglu data manwl wrth iddynt gyrraedd, gan olrhain pwysau pob anifail unigol, adnabod tagiau clust, ac ystyried ffactorau amgylcheddol megis tymheredd a lleithder. Cofnodwyd arsylwadau dyddiol o iechyd y lloi, gan nodi unrhyw achosion o ddefnyddio gwrthfiotigau neu ymyriadau milfeddygol eraill.