Graianfryn Diweddariad Project update - July 2024

Mae adolygiad o’r fenter wartheg ar fferm Graianfryn ar y gweill, gyda’r gwaith o gasglu data a’r dadansoddiad rhagarweiniol wedi'i gwblhau. Ymhlith y prif ddatblygiadau mae:

  • Casglu Data (Mai–Mehefin): Casglwyd data cynhwysfawr ar gofnodion ariannol, ffigurau cynhyrchu, a metrigau iechyd anifeiliaid i ffurfio sail ar gyfer dadansoddiad ac argymhellion.
  • Dadansoddiad Rhagarweiniol (Gorffennaf): Nodwyd meysydd posibl o aneffeithlonrwydd a fyddai'n effeithio ar broffidioldeb a'u rhannu gyda'r ffermwr ar gyfer trafodaethau cynnar ar strategaethau gwella. Mae'r dangosyddion perfformiad allweddol wedi'u meincnodi â chyfartaleddau’r diwydiant yn yr FBS i nodi'r diffygion.

Y Camau Nesaf?

Mae ymdrechion yn canolbwyntio ar werthuso opsiynau ar gyfer gwella perfformiad gwartheg, gan gynnwys:

  • Arferion rheoli
  • Datrysiadau technolegol
  • Dewisiadau bridio
  • Ystyriaethau genetig
  • Mae dadansoddiad o effeithiolrwydd cost hefyd ar y gweill i asesu manteision ac anfanteision magu lloi ar y fferm yn erbyn eu prynu.