Graianfryn Diweddariad prosiect – Medi 2025

Beth sydd wedi cael ei wneud?

Mae’r profion cychwynnol ar y mamogiaid o’r ddiadell cnewyllyn a brynwyd i mewn i fferm Graianfryn wedi’u cwblhau. Roedd pob prawf ar gyfer Clefyd y Ffin yn negyddol. Ar gyfer Maedi Visna (MV), cafwyd nifer fach iawn o ganlyniadau positif: un allan o 45 o hesbinod ac un allan o 41 o famogiaid dwy flwydd oed. Ar ôl ymgynghori gyda Dr. Peers Davies o Brifysgol Lerpwl a milfeddyg y fferm, oherwydd bod cyn lleied o achosion o glefyd, mae’n debygol bod y rhain yn ganlyniadau positif ffug, ac felly penderfynwyd ail brofi’r ddau anifail positif i fod yn bendant.

Beth nesaf?

Os bydd y profion yn negyddol, ystyrir bod y ddiadell yn rhydd o MV. Os bydd canlyniad positif ar gyfer y naill neu’r llall, bydd cynllun ‘profi a difa’ syml yn cael ei sbarduno.

Er mwyn rhoi hyn ar waith hyn, byddai angen i’r fferm ail brofi pob un o’r 151 o ddefaid a brynwyd ymhen chwe mis i ganfod unrhyw anifeiliaid sy’n cario’r haint.

Bydd yr holl famogiaid yn cael eu rheoli a’u cadw ar wahân i’r brif ddiadell bresennol i gynnal eu statws rhydd o glefydau.