Graianfryn Diweddariad Prosiect - Terfynol
Canlyniadau Allweddol Adolygiad o Fenter Pesgi Bîff Graianfryn:
- Elw Net: £19 fesul anifail wedi’i besgi neu £0.03/kg pwysau byw, sy’n perfformio’n sylweddol uwch na chyfartaledd y diwydiant gyda cholledion o £0.31/kg ar gyfer gwartheg bîff wedi’u pesgi.
- Costau Amrywiol: £116,158 yn 2023, gyda chostau porthiant (£84,748) yn gyfrifol am y gwariant mwyaf.
- Costau Sefydlog: £41,002, gan arwain at gyfanswm costau cynhyrchu o £157,160 ac elw net o £2,009.
- Pesgi Gwartheg vs Gwartheg Stôr: Roedd pesgi gwartheg hyd at 600kg yn fwy proffidiol na’u gwerthu yn 450kg fel gwartheg stôr, gydag elw o £130.45 y pen yn uwch dan do a £195.90 y pen yn uwch yn yr awyr agored. Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar brisiau’r farchnad yn 2023.
- Rheoli Porthiant: Mae defnyddio haidd a dyfir gartref yn helpu i wrthbwyso costau, ond mae tywydd gwael yn her o ran cynhyrchu porthiant.
Cefndir
Mae fferm Graianfryn yn fenter 295 erw gyda dwysedd stocio o 1.84 uned da byw fesul hectar, gan ddefnyddio system bori cylchdro a rhaglen fwydo dogn cymysg cyflawn, gan gynnwys haidd y gwanwyn a dyfir gartref. Mae’r fferm yn cadw 300 o wartheg bîff o wartheg llaeth a 500 o famogiaid Miwl Gogledd Lloegr. Fe wnaeth adolygiad diweddar ganfod cyfleoedd i wella’r fenter bîff, megis arallgyfeirio i brotein a dyfir gartref ac ystyried gwerthu gwartheg fel stôr/lloi diddwyn yn hytrach nag wedi’u pesgi. Mae’r cynnig hwn yn amlinellu astudiaeth i asesu gwahanol systemau gwartheg, adolygu perfformiad technegol ac ariannol, ac archwilio newidiadau mewn rheolaeth i wella effeithlonrwydd, gan gyfrannu at nodau rheoli tir yn gynaliadwy.
Pwrpas y gwaith
- Canfod aneffeithlonrwydd o fewn y system bresennol ar fferm Graianfryn sy’n effeithio ar broffidioldeb ac edrych ar welliannau posibl.
- Asesu opsiynau rheoli amgen, gan gynnwys newidiadau o ran brîd a geneteg, i wella perfformiad gwartheg.
- Cynnal dadansoddiad cost-effeithiolrwydd i gymharu magu lloi ar y fferm gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu, gan werthuso goblygiadau ariannol, risgiau a manteision strategol.
Yr hyn a wnaed
Bu’r astudiaeth ddesg yn adolygu data presennol y fferm i ganfod unrhyw ddiffyg effeithlonrwydd mewn perfformiad gwartheg, ac yn edrych ar addasiadau yn ymwneud â rheoli, newidiadau o ran brîd, a strategaethau i wneud y defnydd gorau o brotein. Bu dadansoddiad cost-effeithiolrwydd yn cymharu system o fagu lloi ar y fferm gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu a gwartheg stôr.
- Casglu ac Adolygu Data:
- Casglu data cynhyrchiant ac ariannol (cyfraddau twf, trosiant bwyd, data iechyd, elw gros ac ati).
- Meincnodi yn erbyn data AHDB a’r Adolygiad Busnesau Fferm.
- Dadansoddi Costau:
- Cymharu costau magu lloi gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu.
- Amcangyfrif costau llafur, milfeddygon a bwyd ar gyfer magu lloi.
- Datblygu Senario a Modelu:
- Asesu’r dogn gorau posibl, dewis brid a rheolaeth iechyd.
- Cymharu costau pesgi gyda phrisiau gwerthu gwartheg stôr 18 mis oed.
Canlyniadau
Mae adolygiad o’r fenter yn dangos bod menter pesgi gwartheg bîff o anifeiliaid llaeth ar fferm Graianfryn yn lled-broffidiol ond yn sensitif iawn i amrywiadau mewn costau porthiant a phrisiau gwerthu gwartheg, a allai arwain at wneud colled. Mae angen monitro parhaus i sicrhau hyfywedd hirdymor.
- Costau Porthiant: Y gost fwyaf yw porthiant, ar gyfanswm o £84,748, sy’n gyfrifol am 73% o’r costau amrywiol a 54% o gyfanswm costau cynhyrchu. Mae hyn yn amlygu’r angen am ddadansoddiad pellach o ddognau gwartheg a phorthiant a dyfir gartref i archwilio cyfleoedd i arbed arian heb leihau allbynnau, a allai gynyddu elw.
- Proffidioldeb: Yn 2023, llwyddodd y busnes i wneud elw net o £19 fesul anifail wedi’i besgi, neu £0.03/kg o bwysau byw a werthwyd, sy’n well na cholled gyfartalog y diwydiant o £0.31/kg ar gyfer gwartheg bîff wedi’u pesgi. Er ei fod yn broffidiol, mae’r elw’n fach iawn ac yn sensitif i gynnydd mewn costau.
- Strategaeth Ehangu: Mae’r busnes yn cynyddu nifer y gwartheg, a ddylai helpu i leihau gorbenion fesul uned a chynyddu elw, gan gymryd bod ffigurau elw gros yn aros yn sefydlog. Gallai’r broses ehangu gynnig arbedion maint a gwella perfformiad ariannol ymhellach.
- Pesgi v gwerthu gwartheg stôr: Mae’r dadansoddiad ariannol yn dangos bod pesgi gwartheg hyd at 600kg yn fwy proffidiol na’u gwerthu yn 450kg fel gwartheg stôr, gydag elw £130.45 y pen yn uwch ar gyfer systemau dan do a £195.90 y pen yn uwch ar gyfer systemau awyr agored. Fodd bynnag, mae angen ystyried costau llafur a gorbenion ychwanegol.
- Cyfnod pontio 2023: Mae ffigurau 2023 yn adlewyrchu pontio i system newydd, gan gynnwys costau magu ychwanegol nad ydynt wedi’u cydbwyso gyda gwerthiant hyd yn hyn. Bydd adolygiad dilynol ar ôl i’r system sefydlogi yn cynnig darlun ariannol mwy eglur.
I grynhoi, gall gwella cost-effeithlonrwydd porthiant, cynyddu nifer y gwartheg, a mireinio arferion rheoli wella proffidioldeb a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
Canllaw 5 cam i gyflwyno gwelliannau i’r fenter bîff ar eich fferm
- Monitro ac asesu perfformiad ariannol presennol
- Adolygwch ddata ariannol eich fferm, gan gynnwys costau cynhyrchiant, costau bwyd a phrisiau gwerthu gwartheg.
- Cyfrifwch eich elw net fesul anifail wedi’i besgi, a chymharu hynny gyda ffigurau’r diwydiant.
- Dadansoddi costau porthiant a gwella effeithlonrwydd porthiant
- Nodwch gyfran y costau porthiant yng nghyfanswm eich costau cynhyrchu (yn achos Graianfryn, roedd costau porthiant yn 54% o gyfanswm yr holl gostau).
- Adolygwch ddognau’r gwartheg ac archwiliwch ffyrdd i gynyddu’r defnydd o borthiant a dyfir gartref a lleihau dibyniaeth ar fwyd a brynir i mewn.
- Gwerthuso opsiynau rheoli amgen a dewis brid
- Aseswch a fyddai newid i wahanol fridiau neu fridiau croes yn gwella trosiant bwyd a pherfformiad ar eich system sy’n seiliedig ar borthiant.
- Arbrofwch gyda gwahanol ddulliau pesgi (e.e. systemau dan do o’i gymharu â systemau awyr agored) i ganfod yr opsiwn mwyaf
cost-effeithiol a phroffidiol.
- Cymharu magu lloi gyda phrynu lloi wedi’u diddyfnu
- Cyfrifwch gostau magu lloi ar eich fferm o’i gymharu â phrynu lloi wedi’u diddyfnu neu wartheg stôr.
- Dylid cynnwys yr holl gostau perthnasol yn eich dadansoddiad, megis porthiant, gofal milfeddygol, llafur a risgiau marwolaeth posibl.
- Datblygu model ariannol i gymharu cost-effeithlonrwydd a phroffidioldeb pob dull.
- Tyfu a monitro
- Os bydd adnoddau’n caniatáu, ystyriwch gynyddu nifer y gwartheg er mwyn elwa o arbedion maint a lleihau gorbenion.
- Parhau i fonitro perfformiad ariannol ac amodau’r farchnad er mwyn addasu strategaethau yn ôl yr angen.