Gwawr Medi Parry
Moelfre, Sir Fôn
Bu Gwawr Parry yn ffermio law yn llaw â’i diweddar dad yn cadw defaid a gwartheg ar dyddyn y teulu ym Moelfre, Ynys Môn, gan ei fod yn ystyried ei bod yn ‘ddigon hen i ddal dafad’! Y cefndir hwn a’i harweiniodd i ddilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Nottingham ac ennill BSc mewn Amaethyddiaeth a phenderfynu gweithio yn y diwydiant.
O ganlyniad i ddiddordeb ers tro mewn defaid, aeth ati i fridio a dangos ei diadell fach o ddefaid pedigri Texel. Ei swydd gyntaf ar ôl gadael y brifysgol oedd gyda chwmni blaengar ym maes geneteg anifeiliaid. Yna ymunodd â Hybu Cig Cymru lle mae bellach yn gweithio fel swyddog geneteg diadell.
Mae Gwawr, a fu’n aelod o CFfI Uwchaled ac yn gwirfoddoli gydag Age Concern Cymru, yn aelod gweithgar o’r gymuned. Ei champ ddiweddaraf oedd cwblhau Triathlon Llanc y Llechi yng Nghapel Curig er cof am ei diweddar dad, gan godi arian ar gyfer Ysbyty Christie ym Manceinion. Mae’n frwd ynglŷn â rygbi Cymru, tîm y dynion a’r merched, ac yn y gorffennol chwaraeodd yn nhîm ei phrifysgol a thîm merched Abergele.
“Yn ddiweddar dechreuais fy musnes fy hun gyda chymorth fy chwaer, gan ehangu’r ddiadell gartref. Fy nod yn y tymor hir yw cyfrannu at ddatblygu cynaliadwyedd y diwydiant yn y dyfodol, yn enwedig i ffermwyr ifanc. Rwy’n siŵr y bydd bod yn rhan o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, gyda’i fformiwla o ddysgu sgiliau newydd, teithiau astudio a rhwydweithio’n brofiad anhygoel fydd yn rhoi’r hyder i mi gyflawni rhai o’r uchelgeisiau hyn.”