Gwella amaeth-goedwigaeth adfywiol ar Fferm Pencedni: Archwilio rhywogaethau amrywiol, symbiosis mycorhisol, a biomas pryfed er mwyn gwella iechyd y pridd a lles anifeiliaid

Prif ganlyniadau:

Mae data’r prosiect yn profi bod system y fferm yn wydn ac yn uchel ei werth gyda mewnbwn isel.

  1. Porthiant uchel mewn protein o borthiant dail:
    o    Mae Black locust (27.85% Protein Crai) a Virginia fanpetals (24.70% Protein Crai) yn cynnig lefelau protein gwell na’r rhan fwyaf o weiriau, gan leihau gwariant ar ychwanegion protein masnachol (e.e. soi), ac arwain at arbedion cost uniongyrchol ac elw ar fuddsoddiad ar unwaith trwy fwydo maeth o ansawdd uchel o’ch tir.
    o    Mae coed tiwlip ar y fferm yn darparu ffynhonnell uchel o Fagnesiwm (4,650 mg/kg), gan ddarparu ffordd naturiol o atal tetanws, sy’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.
  2. Priddoedd iach:
    o    Llwyddodd pob cae i gyflawni’r sgôr gorau posibl yn y Gwerthusiad Gweledol o Iechyd y Pridd (VESS), sef 1, a chanfuwyd 16 ffwng CHEGD. Mae’r lefel uchel o fioamrywiaeth, gan gynnwys cyfanswm o 455 o Unedau Tacsonomeg Gweithredol (OTU) Ffyngaidd, yn sicrhau strwythur da i’r pridd a lefel dda o gylchedu maetholion, gwarchod rhag sychder a lleihau’r angen am wrteithiau cemegol.
  3. Rheoli plâu yn naturiol a bioamrywiaeth:
    o    Mae presenoldeb 4 rhywogaeth (17 unigolyn) o chwilod y dom yn cadarnhau pori gweithredol a rheoli plâu yn naturiol. Mae ecosystem iach yn arwain at lai o gostau milfeddygol a mewnbynnau cemegol (e.e. llai o anthelminitigau). Mae’r fferm yn cefnogi lefel uchel o fioamrywiaeth (e.e. dros 50 o rywogaethau gwyfynod unigryw), gan osod eu cynhyrchion mewn sefyllfa dda ar gyfer marchnadoedd premiwm gydag ardystiad ecolegol.

Cefndir:

Mae tyddyn 10 erw Pencedni ger Crymych yn cael ei reoli gan Tom Clare a Jacqui Banks, gan ganolbwyntio ar amaethyddiaeth adfywiol ac amaeth-goedwigaeth. Nod y prosiect yw datblygu gwell dealltwriaeth o ecoleg a defnydd ymarferol o goed wrth eu hintegreiddio gyda’r borfa. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i rywogaethau coed a llwyni amrywiol er mwyn gwella lefelau maeth i dda byw trwy flaenborri a “gwair coed”, gan hefyd ystyried eu heffaith ar fioamrwyiaeth. Yn ogystal, bydd y prosiect yn archwilio rôl hanfodol ffyngau mycorhisol o ran iechyd y pridd a chymeriant maetholion, ochr yn ochr ag asesu biomas pryfed a chyfraniad hynny at swyddogaeth ecosystemau a ffrwythlondeb y pridd. Nod yr arbrawf hwn ar y fferm yw creu dealltwriaeth ymarferol er gyfer rheoli Pencedni ac amaeth-goedwigaeth adfywiol.

Diben y gwaith:

Mae’n canolbwyntio ar y tri maes allweddol canlynol i hybu bioamrywiaeth a hyfywedd hirdymor:

  1. Buddion maethol ar gyfer da byw o rywogaethau coed a llwyni amrywiol, gan gynnwys “gwair coed”, gan sicrhau bod maetholion yn cael eu cylchynu’n effeithlon.
  2. Rôl ffwng mycorhisol wrth ffurfio perthnasoedd symbiotig gyda’r gwreiddiau i wella iechyd y pridd a chymeriant maetholion.
  3. Asesu biomas pryfed a’i gyfraniad tuag at ffrwythlondeb y pridd a gwytnwch ehangach yr ecosystem.

Yr hyn a wnaed:

  1. Er mwyn deall potensial maethol rhywogaethau amrywiol, cynhaliwyd dadansoddiad o feinwe’r dail ar chwe rhywogaeth o goed a llwyni anfrodol. Roedd hyn yn canolbwyntio ar nodi opsiynau porthiant amgen a allai wella iechyd anifeiliaid, gostwng costau porthiant, a chynnig gwytnwch i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys amodau sychder. Bydd hyn yn cynorthwyo i lywio penderfyniadau’n ymwneud â phlannu at y dyfodol a sicrhau bod coed yn cael eu hintegreiddio er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer blaenborri naturiol, hunan-feddyginiaeth i dda byw, a phorthiant wedi’i gynaeafu.
  2. Cynhaliwyd profion pridd cynhwysfawr i ddadansoddi a nodi DNA ffwng mycorhisol, gan ddefnyddio prosesau biolegol naturiol i wella ffrwythlondeb y pridd a lleihau’r angen am wrteithiau synthetig.
  3. Defnyddiwyd pyllau pryfed a thrapiau gwyfynod i fesur biomas pryfed. Roedd hyn yn dangos pwysigrwydd pryfed y tu hwnt i’w rolau peillio a rheoli plâu, gan ein cynorthwyo i ddeall eu cyfraniad at swyddogaethau ecosystem, cylchynu maetholion a ffrwythlondeb y pridd.

Canlyniadau:

  • Gwerth protein crai (CP): Roedd dadansoddiad o’r porthiant yn dangos mantais gystadleuol sylweddol o ran ansawdd y ddau borthiant gorau yn erbyn meincnod o wair nodweddiadol a phorthiant masnachol (Black locust - 27.85% Protein Crai a Virginia fanpetals - 24.70% Protein Crai, hyd at deirgwaith y Protein Crai a geir mewn gwair safonol). Mae’r lefel uchel hon o brotein naturiol yn cynnig opsiwn amgen uniongyrchol yn hytrach nag ychwanegion protein a brynir i mewn, gan arbed costau.
  • Iechyd y pridd: Llwyddodd 100% o’r caeau a arolygwyd i gyflawni’r sgôr uchaf posibl yn yr Asesiad Gweledol o Strwythur y Pridd, sef 1, gan ddangos strwythur pridd heb ddirywio. Canfuwyd hefyd 16 o ffyngau allweddol CHEGD.
  • Gwasanaethau ecosystem a lleihau mewnbynnau: Dangosodd asesiad bioamrywiaeth bresenoldeb 40 rhywogaeth unigryw o wyfynod a 4 rhywogaeth o chwilod y dom (17 unigolyn). Mae hyn yn dangos bod maetholion yn cael eu cylchynu’n weithredol a bod plâu’n cael eu rheoli’n naturiol. Mae prosesau naturiol effeithiol yn lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau costus megis gwrteithiau cemegol ac anthelminitigau, gan greu arbedion cost uniongyrchol a chynyddu apêl y fferm ar y farchnad ardystiad ecolegol.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  1. Dechrau eich yswiriant porthiant: Plannu coed mewn modd strategol
    o    Gweithredu: Neilltuwch ardal fach ar gyfer plannu rhywogaethau coed/llwyni amrywiol, anfrodorol a brodorol, sy’n cynnig gwerth maethol uchel (fel y rhai a nodwyd yn nadansoddiad LEAF Pencedni).
    o    Newid meddylfryd: Ystyriwch goed fel cnwd porthiant sy’n arbed costau ac yn gallu gwrthsefyll sychder, ac fel ffynhonnell maetholion naturiol i’w flaenborri gan dda byw ac fel hunan-feddyginiaeth i dda byw, nid fel cysgod yn unig.
  2.  Gwarchod ffwng Mycorhisol
    o    Gweithredu: Rhowch arferion amaethu ar waith sy’n golygu cyn lleied o drin â phosibl, neu ddim trin o gwbl, a mabwysiadwch strategaethau pori cylchdro neu bori wedi’i gynllunio er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar y pridd.
    o    Newid meddylfryd: Dylech gydnabod bod pridd iach yn llawn bywyd buddiol ac anweledig (ffyngau mycorhisol). Trwy leihau aflonyddu mecanyddol a mewnbynnau cemegol, mae’r “ffatri” hwn i gynyddu cymeriant maetholion yn naturiol a lleihau eich angen ar gyfer gwrtaith synthetig yn cael ei feithrin.
  3.  Cynnal asesiad o sylfaen “Pryfed fel Biolegwyr” ar eich fferm
    o    Gweithredu: Defnyddiwch ddulliau syml, megis gosod trapiau pwll syml neu arsylwi gweithgarwch gwyfynod i ganfod gwaelodlin o ran biomas ac amrywiaeth pryfed mewn gwahanol gaeau.
    o    Newid meddylfryd: Ystyriwch bryfed fel gweithwyr hanfodol er mwyn cylchynu maetholion, yn hytrach na phlâu yn unig. Mae deall eich llinell sylfaen yn eich galluogi i reoli’r pori a dewis planhigion i gefnogi’r poblogaethau buddiol hyn yn weithredol, gan wella ffrwythlondeb naturiol y pridd.
  4. Mabwysiadu arferion Pori Manwl Gywir er budd Iechyd y Pridd a’r Coed
    o    Gweithredu: Addaswch eich cylchdro da byw i atal gorbori, sicrhewch gyfnodau gorffwys digonol er mwyn adfer y borfa, a defnyddiwch ffensys dros dro i reoli pwysau pori ar y coed sydd newydd eu sefydlu neu goed sensitif.
    o    Newid meddylfryd: Symud o bori parhaus i ddefnyddio da byw fel adnodd i wella iechyd y pridd a symbyliad biolegol. Mae hyn yn gwella symbiosis rhwng glaswellt, coed a ffwng.
  5. Monitro a mesur (Mesuriadau syml)
    o    Gweithredu: Arsylwch a chadwch gofnod o fesuriadau syml: iechyd da byw (llai o ddosio o ganlyniad i lai o faich llyngyr), gwella strwythur gweledol y pridd, a chyfradd twf eich coed porthiant newydd.
    o    Newid meddylfryd: Croesawu dull arbrofol o ffermio sy’n seiliedig ar ddata. Defnyddiwch arsylwadau eich fferm eich hun i fireinio arferion yn barhaus a gwneud y gorau o gynhyrchiant a hyfywedd hirdymor.

Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.