Gwella effeithlonrwydd y fuches sugno – Adroddiad terfynol 2025
Prif ganlyniadau
- Casgliad allweddol: Roedd y canlyniadau sganio’n dangos bod 33% o’r heffrod yn wag er gwaethaf bodloni targedau corfforol.
- Mesuriadau’r pelfis: Mae mesur y pelfis yn sicrhau bod yr heffrod sy’n cael eu cadw’n mesur 100cm² o leiaf erbyn iddynt fod yn 12 mis oed. Roedd mesuriadau’r heffrod yn y fuches hon yn amrywio rhwng 116cm² a 166cm².
- Elw ar fuddsoddiad: Mae gwaredu 12 o anifeiliaid anghynhyrchiol yn arbed oddeutu £3,120 mewn costau gaeafu (mae AHDB yn amcangyfrif cost o £260-£300 y pen).
Cefndir
Mae fferm Cornwal Uchaf yn fferm fynydd bîff a defaid masnachol sy’n cael ei ffermio gan y teulu Roberts. Mae’r fferm yn gweithredu system fewnbwn isel, gyda’r fuches sugno’n pori rhannau uchaf y fferm er mwyn cadw’r tir is ar gyfer defaid a silwair. Yn 2025, bu’r fferm yn parhau gyda’r gwaith o wella effeithlonrwydd y fuches bîff. Roedd y prosiect yn edrych yn benodol ar sicrhau eu bod yn dethol yr heffrod gorau posibl a sgrinio ar gyfer clefydau. Trwy gynnal gwiriadau llym cyn bridio a rheoli’n seiliedig ar ddata, nod y prosiect oedd gwella ffrwythlondeb hirdymor y fuches a lleihau’r arfer o gadw stoc bridio aneffeithlon.
Diben y gwaith
- Dethol yr heffrod gorau posibl: Gweithredu meini prawf llym yn seiliedig ar ddata – yn enwedig targedau pwysau a mesuriadau’r pelfis (gan anelu at >100cm² yn 12 mis oed) — er mwyn sicrhau mai dim ond heffrod addas yn gorfforol sy’n cael eu bridio.
- Sgrinio ar gyfer clefydau: Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw glefydau’n effeithio ar berfformiad a ffrwythlondeb y fuches.
- Gwella ffrwythlondeb y fuches: Gwneud defnydd o sganio’n gynnar i nodi a difa stoc anffrwythlon neu wag, gan sicrhau bloc lloia tynn a buches iau, fwy effeithlon.
Yr hyn a wnaed:
Ar 24 Ebrill, dewiswyd 11 heffer gyfnewid bosibl o’r grŵp lloi a anwyd yn 2024. Cafodd pob heffer ei phwyso er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni’r targed o fod yn 60% o’i phwysau llawn dwf o leiaf. Bu’r milfeddyg yn mesur y pelfis er mwyn amcangyfrif ardal y pelfis, gan chwilio am ardal o 100cm² o leiaf (yn 12 mis oed) er mwyn i’r anifail gael ei ystyried yn addas ar gyfer bridio. Yn dilyn y broses ddethol, cyflwynwyd tarw at y fuches ar 10 Mehefin am gyfnod penodol o 12 wythnos yn unig. Yn olaf, ar 23 Medi cynhaliwyd sgan uwchsain ar y fuches gyfan i gadarnhau statws beichiogrwydd.
Canlyniadau:
Roedd yr asesiadau corfforol cyn bridio yn llwyddiannus iawn, gyda 100% o’r 11 heffer a ddewiswyd yn bodloni’r targedau pwysau a maint pelfis gofynnol (yn amrywio o 116cm² i 166cm²).
Fodd bynnag, datgelodd data sganio’r fuches gyfan wybodaeth hanfodol na fyddai mesuriadau corfforol yn unig yn gallu eu rhagweld:
- Effeithlonrwydd y fuches: Datgelodd canlyniadau sganio’r fuches gyfan gyfradd wag o 19.6% (12 o’r 61 anifail).
- Perfformiad y fuches: Dangosodd y data gyfradd fethiant anghymesur yn y stoc ifanc. O’r 12 anifail gwag, roedd 10 ohonynt yn heffrod. O ganlyniad, roedd canlyniadau sganio’n dangos bod 33% o’r heffrod yn wag er gwaetha’r ffaith eu bod yn edrych yn berffaith o safbwynt corfforol ar gyfer bridio.
Ffigur 1: Canlyniadau sganio’r fuches ar gyfer 2025
At y dyfodol, mae’r milfeddyg yn argymell y dylid parhau i reoli’r fuches yn rhagweithiol er mwyn gwella effeithlonrwydd a ffrwythlondeb. Mae’r prif gamau gweithredu’n cynnwys:
- Parhau gyda’r mesuriadau pelfis a chynnal samplau elfennau hybrin i sicrhau bod heffrod yn addas ar gyfer bridio o safbwynt corfforol a’u bod yn derbyn maeth cytbwys.
- Cynnal protocolau sgrinio ar gyfer clefydau a thynhau’r bloc lloia trwy gyfyngu cyfnod gyda’r tarw i 12 wythnos, gan ostwng nifer y genedigaethau hwyr.
- Canolbwyntio ar gadw anifeiliaid cyfnewid gan fuchod sy’n lloia’n gynnar yn y bloc, gan fod yr anifeiliaid hyn yn fwy tebygol o fod yn ffrwythlon ac yn gynhyrchiol yn yr hirdymor.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm
- Pwysau targed: Pwyswch heffrod cyn bridio i sicrhau eu bod wedi cyrraedd 60% o’u pwysau llawn dwf o leiaf.
- Mesur y pelfis: Milfeddyg i wirio heffrod i sicrhau bod ardal y pelfis yn >100cm² (yn 12 mis oed) i leihau problemau lloia.
- Bloc bridio llym: Cyfyngu’r tarw i gyfnod o 12 wythnos i atal drift lloi a sicrhau patrwm lloia tynn.
- Sganio ar unwaith: Sganio’r gwartheg a’r heffrod cyn gynted â phosibl ar ôl symud y tarw i ganfod anifeiliaid gwag.
- Difa anifeiliaid gwag: Dylid difa heffrod gwag neu’r rhai gyda data pelfis gwael ar unwaith er mwyn arbed costau porthi dros y gaeaf.
Ffigur 2. Heffrod ar fferm Cornwal Uchaf