Gwenllian Lloyd Davies

Pwllheli, Gwynedd

Mae Gwenllian Davies yn ferch ymroddedig 17 mlwydd oed o Ben Llŷn, sydd yn astudio Amaethyddiaeth Lefel 3 yng Ngholeg Glynllifon ar ei blwyddyn gyntaf ar hyn o bryd.

Wedi ei magu ar fferm odro ei theulu, lle mae tua 340 o fuchod sy’n lloea yn yr hydref yn cael eu godro yn ddyddiol, a thrwy leoliadau gwaith ar ffermydd llaeth eraill, mae wedi datblygu sgiliau ymarferol cryf a dealltwriaeth ddofn o ofal anifeiliaid a gweithrediadau fferm. Gyda phrofiad ymarferol o odro, porthi, rhoi deunydd dan yr anifeiliaid a gofal cyffredinol ar anifeiliaid, mae Gwenllian yn chwarae rhan weithredol ar ei fferm gartref ac yn cadw cydbwysedd gyda’i hastudiaethau academaidd.

Mae Gwenllian wedi cyflawni gwahanol gyrsiau hyfforddiant yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth gan gynnwys beiciau pedair olwyn, gyrru tractorau a chymorth cyntaf. Mae’n chwaraewr tîm dibynadwy, prydlon gyda sgiliau cyfathrebu cryf, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac mae’n mwynhau defnyddio ei blaengarwch ei hun wrth ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd ar y fferm.
Yn aelod gweithgar o’i Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol, mae Gwenllian yn mwynhau cefnogi ei chymuned leol trwy weithgareddau’r clwb a chynyddu ei gwybodaeth trwy ymweliadau fferm.

Wedi cyffroi am fod yn rhan o ddyfodol y diwydiant, mae Gwenllian yn frwd dros ddatblygu sgiliau newydd ac archwilio cyfleoedd gyrfa ar gyfer y dyfodol. 

“Bydd cael fy newis ar gyfer yr Academi Amaeth yn fy ngalluogi i ddysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol blaengar a gwybodus a llunio cysylltiadau a chyfeillgarwch a gweld y syniadau arloesol diweddaraf ar waith.”