Gwndwn pori mewnbwn isel – Adroddiad Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Buddion ail-hadu: Llwyddodd pob un o’r lleiniau a gafodd eu hail-hadu i dyfu o leiaf 50% yn fwy o borthiant na’r grŵp rheoli yn 2025.
  • Gallu i wrthsefyll sychder: Llwyddodd y gymysgedd amlrywogaeth i berfformio’n well na’r gymysgedd glaswellt amrywiol a meillion gwyn a’r gymysgedd rhygwellt a meillion safonol yn ystod y tywydd sychach yn 2025.
  • Ansawdd y porthiant: Ni welwyd unrhyw effeithiau negyddol ar ansawdd y porthiant trwy ddewis cymysgeddau mwy amrywiol o’i gymharu â chymysgeddau safonol.
  • Heriau sefydlu: Methodd asesiadau ailadroddus o’r gwndwn i ganfod lefelau sylweddol o beiswellt tal, peiswellt y waun na festulolium yn y cymysgeddau amrywiol, hyd yn oed yn ystod y cyfnodau cynnar.

Cefndir:

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd gwelliannau llwyddiannus ar fferm Brynllech Uchaf o ran gwella tir y fferm, yn enwedig trwy gyflwyno gwndwn meillion coch o ansawdd uchel. Er mwyn sicrhau’r rheolaeth orau bosibl ar draws y fferm gyfan, mae’r sylw bellach wedi symud tuag at wella caeau pori salach.

Mae gwndwn presennol yn yr ardaloedd hyn yn cael trafferthion gyda phatrymau tywydd cyfnewidiol, yn enwedig hafau poethach a sychach. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae prinder twf gwael wedi golygu bod y caeau hyn wedi cael eu tanbori am gyfnodau hir, gan roi pwysau anghynaladwy ar y blociau sydd wedi profi’r gwelliant mwyaf ar y fferm. Nod y prosiect hwn yw canfod cymysgeddau hadau sy’n gweddu i amodau nodweddiadol bryniau Meirionnydd, i ffynnu mewn system gyda lefel isel o nitrogen gan hefyd gynnig gwytnwch yn erbyn heriau hinsoddol yn y dyfodol.

Diben y gwaith:

Prif nod y prosiect hwn yw canfod y cymysgeddau hadau sy’n gweddu orau i gaeau ymylol y fferm, system mewnbwn isel, ac amodau hinsoddol penodol. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar y canlynol:

  •  Gwerthuso’r gallu i wrthsefyll sychder: Asesu sut mae gwahanol gymysgeddau’n perfformio gydag  ychydig iawn o leithder yn y pridd, yn enwedig drwy gymharu sefydlogrwydd eu twf yn erbyn gwndwn rhygwellt confensiynol yn ystod cyfnodau hir o sychder.
  • Gwneud y gorau o gynhyrchiant porthiant: Gwella cyfaint ac ansawdd y porthiant a dyfir gartref er mwyn cynyddu argaeledd y borfa yn ystod y cyfnod brig o ran galw yn yr haf. Mae’r strategaeth hon yn caniatáu gwndwn ansawdd uchel eraill mewn ardaloedd eraill i orffwys, gan wella effeithlonrwydd adnoddau’r fferm yn gyffredinol.
  • Meincnodi mathau o wndwn: Cymharu perfformiad gwndwn glaswellt amrywiol, gwndwn amlrywogaeth, rhygwellt parhaol a meillion gwyn yn erbyn porfeydd parhaol presennol i bennu eu potensial ar gyfer cynyddu cynhyrchiant deunydd sych a chynnwys protein crai.

Yr hyn a wnaed:

Sefydlwyd yr arbrawf ar fferm Brynllech Uchaf i werthuso perfformiad gwndwn amrywiol yn erbyn cymysgeddau safonol y diwydiant a phorfa barhaol. Cafodd system leiniau ar hap ei rhoi ar waith, gan brofi pedwar ffactor amrywiol penodol: cymysgedd amlrywogaeth, cymysgedd o laswellt amrywiol a meillion gwyn (wedi’i lunio ar gyfer gwytnwch), cymysgedd rhygwellt a meillion safonol, a llain reoli gyda’r borfa barhaol bresennol.

Er mwyn sicrhau cymhariaeth deg, gwasgarwyd Nitrogen ar gyfradd o 50kg fesul hectar ar ddiwedd tymor y gwanwyn 2025 ar y tair llain a gafodd eu hail-hadu, ac ni roddwyd Nitrogen ar y llain arbrofol, gan adlewyrchu llinell sylfaen mewnbwn isel o’i gymharu â sefyllfa wedi’i ail-hadu.

Dros gyfnod o ddwy flynedd (2024 a 2025), cafodd perfformiad y gwndwn ei fonitro’n agos. Roedd hyn yn cynnwys mesur cynhyrchiant glaswellt ar gyfer y tymor cyfan trwy gynnal pedwar toriad penodol bob blwyddyn (Mai, Mehefin, Awst a Hydref). Yn ogystal, cynhaliwyd arolygon botanegol ailadroddus – gan ddefnyddio technegau asesu gweledol a gwahanu â llaw – i gadw golwg ar ddyfalbarhad rhywogaethau penodol a heuwyd, a dadansoddwyd ansawdd y porthiant i ganfod unrhyw effaith ar faeth o ganlyniad i fwy o amrywiaeth.

Canlyniadau:

Cynhyrchodd yr arbrawf ddigon o ddata yn ymwneud â chynnyrch, gwytnwch a chyfansoddiad y gwndwn dros y cyfnod o ddwy flynedd.

Cyfanswm cynnyrch porthiant a buddion ail-hadu: Y canfyddiad a ddaeth i’r amlwg gyntaf oedd budd sylweddol ail-hadu o’i gymharu â gwasgaru gwrtaith. Cynhyrchodd y tair llain fwy o fiomas – o leiaf 50% yn fwy – na’r llain reoli heb ei hail-hadu (Ffigur 1). Er na dderbyniodd y llain reoli unrhyw wrtaith, mae’r bwlch yn pwysleisio potensial sylweddol i adfywio gwndwn. Ymysg y lleiniau a gafodd eu hail-hadu, roedd perfformiad yn gymharol gyson, er bod y gymysgedd amlrywogaeth yn dangos rhywfaint o fantais o ran cynnyrch yn gyffredinol. 
 

 

Ffigur 1.  Cyfanswm twf biomas llysieuol porthiant (Kg DM / ha) o fis Mai 2025 hyd at fis Hydref 2025 ar gyfer pob un o’r lleiniau arbrofol 

Y gallu i wrthsefyll i sychder (2024 o’i gymharu â 2025):

Roedd yr arbrawf yn anelu’n benodol at brofi perfformiad dan straen dŵr. Roedd 2025 yn flwyddyn sychach na 2024, gan ddarparu amodau cymharu ardderchog.

  • Perfformiad 2024: Yn ystod y flwyddyn wlypach, y glaswellt amrywiol a’r gymysgedd meillion coch a berfformiodd orau.
  • Perfformiad 2025: Llwyddodd pob llain i dyfu mwy o lystyfiant yn ystod amodau sychach 2025 nag yn 2024, ond y gymysgedd amlrywogaeth a ddarparodd y budd mwyaf, gan berfformio’n well na’r gweddill. Mae hyn yn cadarnhau bod rhywogaethau amrywiol yn cynnig rhywfaint o “glustogi” rhag diffyg lleithder, gan gynnal twf lle byddai gwndwn safonol yn arafu o bosibl, fel y dangosir yn Ffigur 2.

 

Ffigur 2. Twf biomas llysieuol porthiant cyfartalog (Kg DM / ha) yn ystod tymor yr haf 2024 a 2025

Ansawdd porthiant:
Pryder cyffredin gyda gwndwn amrywiol yw gostyngiad posibl mewn gwerth maethol o’i gymharu â gwndwn Rhygwellt pur. Nid oedd y canlyniadau’n dangos unrhyw dueddiadau cyson i awgrymu hyn; nid oedd cynnwys amrywiaeth ehangach o rywogaethau glaswellt yn effeithio’n negyddol ar ansawdd y porthiant. Fodd bynnag, nodwyd y gallai dadansoddiad NIR (Sbectrosgopi Isgoch agos) safonol gael trafferth i asesu gwndwn amrywiol yn gywir, gan awgrymu bod cemeg gwlyb yn fwy diogel ar gyfer arbrofion yn y dyfodol.

Sefydliad rhywogaethau:
Er gwaetha’r llwyddiant o ran cynnyrch, roedd sefydlu glaswelltau cymhleth penodol yn anodd. Ni lwyddodd sawl asesiad i ganfod lefelau arwyddocaol o beiswellt hir, peiswellt y waun na festulolium, hyd yn oed yn gynnar yn y broses. Yn ogystal, roedd lefelau meillion yn dal i fod yn isel (<10%) yn y cymysgeddau amrywiol, ond cyrhaeddodd y lefelau 10-20% yn y gymysgedd rhygwellt a meillion safonol. Mae hyn yn awgrymu, er bod cysyniad amrywiaeth yn llwyddiannus o safbwynt cynnyrch, mae angen rheolaeth dda er mwyn sefydlu’r rhywogaethau cystadleuol hyn yn llwyddiannus.

Elw ar fuddsoddiad

Mae Tabl 1 yn dangos elw ar fuddsoddiad pob un o’r tair llain a gafodd eu hail hadu o’i gymharu â’r borfa barhaol, sef y llain reoli. Mae costau gwasgaru 50kg/ha o N bob blwyddyn ar y tair llain a gafodd eu hail hadu o’i gymharu â pheidio â gwasgaru N ar y llain reoli wedi cael eu cynnwys, yn seiliedig ar brisiau Mai 2025 ar gyfer Amoniwm Nitrad, sef £380 fesul tunnell.

Tabl 1. Elw ar fuddsoddiad 

Meincnodi

 

Rheolaeth – porfa barhaol

Glaswellt amrywiol a meillion

Amlrywogaeth

Rhygwellt parhaol a meillion gwyn

Cyfanswm costau sefydlu £/ha

 

£817.59

£813.76

£795.36

Costau mewnbwn ychwanegol £/ha

 

£55.07

£55.07

£55.07

Twf porthiant T DM/ha rhwng mis Mai a mis Hydref 2025

6.33

10.67

12.68

9.74

Cyfanswm gwerth y porthiant a dyfwyd (fesul ha) rhwng mis Mai a mis Hydref 2025

£780.27

£1,307.47

£1,556.37

£1,181.73

Gwerth y porthiant ychwanegol a dyfwyd o’i gymharu â’r llain reoli

 

£527.21

£776.11

£401.46

Elw ar fuddsoddiad ar ôl blwyddyn

 

-42.25%

-11.39%

-56.45%

Elw ar fuddsoddiad ar ôl  2 flynedd

 

15.49%

77.21%

-12.90%

Elw ar fuddsoddiad ar ôl 3 blynedd

 

73.24%

165.82%

30.66%

Elw ar fuddsoddiad ar ôl 4 blynedd

 

130.99%

254.42%

74.21%

*Defnyddiwyd cyfrifiannell gwerth porthiant AHDB i gyfrifo gwerth porthiant, yn seiliedig ar ddadansoddiad maethol NIRS a data torri a phwyso o fis Mai 2025 hyd at fis Hydref 2025

Mae’r data meincnodi’n datgelu mai’r gymysgedd amlrywogaeth yw’r opsiwn mwyaf hyfyw yn seiliedig ar ddata 2025. Mae’n cynhyrchu’r twf porthiant uchaf (12.68 T DM/ha) a’r cyfanswm gwerth uchaf (£1,556.37/ha), gan gynhyrchu bron i ddwywaith allbynnau’r borfa reoli.

Er bod yr holl opsiynau ail-hadu wedi methu â sicrhau elw ar y buddsoddiad cychwynnol (costau sefydlu; £795-£818/ha), y gymysgedd amlrywogaeth sy’n adfer gyflymaf, gan gyflawni elw ar fuddsoddiad o 77.21% erbyn yr ail flwyddyn a ffigwr sylweddol o 254.42% erbyn Blwyddyn 4.

I’r gwrthwyneb, y gymysgedd rhygwellt parhaol a meillion gwyn sy’n cynnig yr elw isaf ymysg y cymysgeddau a brofwyd, gan gymryd tair blynedd i wneud elw. Mae’r gymysgedd glaswellt amrywiol a meillion gwyn yn cynnig perfformiad canolig cadarn. Mae’r tair cymysgedd hadau’n dangos elw da ar fuddsoddiad trwy gynyddu’r porthiant sydd ar gael yn ystod cyfnodau brig.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  1. Aseswch eich risg o sychder yn y lle cyntaf: Os yw’r fferm yn dioddef prinder twf yn ystod hafau sych, rhowch flaenoriaeth i gymysgeddau amlrywogaeth. Mae’r data yn cadarnhau eu bod yn cynnig mwy o wytnwch a thwf yn ystod blynyddoedd sychach (fel 2025) o’i gymharu â chymysgeddau safonol.
  2. Peidiwch â bod ofn colli ansawdd: Gall ffermydd gamu’n hyderus oddi wrth wndwn rhygwellt pur heb golli ansawdd y porthiant mewn systemau mewnbwn isel. Ni ddangosodd yr arbrawf unrhyw effaith negyddol ar ansawdd y porthiant wrth ddefnyddio cymysgeddau amrywiol, gan ganiatáu ar gyfer enillion o safbwynt gwytnwch heb leihau perfformiad.
  3. Cefnogi ffrwythlondeb er mwyn gweld canlyniadau: Dangosodd yr arbrawf gynnydd o 50% mewn cynnyrch ar leiniau wedi’u trin a dderbyniodd 50kg o Nitrogen. Nid yw ail hadu’n ddigon ar ei ben ei hun; sicrhewch fod y gwndwn newydd yn derbyn digon o faeth (N, P, K a chalch) i gyflawni ei botensial.
  4. Rheoli’r broses sefydlu yn ofalus: Mae glaswelltau cymhleth grasses (Peiswellt/Festulolium) yn fwy anodd eu sefydlu na rhygwellt. Os byddwch yn eu defnyddio, sicrhewch fod y cyswllt rhwng yr hadau a’r pridd yn berffaith a bod unrhyw gystadleuaeth yn cael ei reoli’n llym, gan fod y rhywogaethau hyn wedi cael trafferth i sefydlu’n sylweddol.