Gwneud y gorau o loia tymhorol er mwyn iechyd, effeithlonrwydd ac ehangiad y fuches laeth yn gynaliadwy

Mae ffrwythlondeb buchod llaeth yn ddangosydd allweddol i ysgogi proffidioldeb buches, cyrraedd targedau cynhyrchu, gwella hirhoedledd buchod, lles a bod o fudd i'r amgylchedd o ran llai o allyriadau carbon. Mae'n bwysig sylweddoli bod geneteg a rheolaeth yn mynd law yn llaw ac mae cael nodau bridio yn bwysig i'ch buches.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr llaeth newydd yng Nghymru wedi dechrau gyda lloia mewn un bloc er mwyn symlrwydd, gwell effeithlonrwydd a rhwyddineb wrth reoli’r fuches. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r cyfleoedd o newid i fuches sy’n lloia mewn dau floc o ran cynnydd posibl ym mhris llaeth wrth giât y fferm, allbwn y fferm, cyflenwad llaeth a gwneud gwell defnydd o lafur ac isadeiledd sydd ar y fferm drwy gydol y flwyddyn.

Bwriad y prosiect ar y fferm yw ateb os gall Tyddyn Cae ehangu drwy ychwanegu 15-20% o wartheg ychwanegol sy’n lloia yn y gwanwyn at eu buches bresennol sy’n lloia yn yr hydref heb unrhyw newidiadau mawr yn yr isadeiledd na’r llafur ar y fferm. Bydd y prosiect hefyd yn asesu DPA ffrwythlondeb presennol, ac yn anelu at:

  • Leihau bloc yr hydref i lai na 10 wythnos
  • Gwella cyfradd lloi 6 wythnos a chyfradd wag 12 wythnos
  • Cynnal iechyd a pherfformiad presennol wrth ehangu’r fuches
  • Nodi nodau bridio priodol yn y dyfodol ar gyfer y ddau floc yn y fuches

Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y canlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Cyfrannu at iechyd a lles uchel y fuches