Enw

Helen Ovens

Lleoliad

Aberystwyth

Prif Arbenigedd

Sgiliau hwyluso, meincnodi busnes, rheoli allyriadau carbon

Sector

  • Da byw

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Pam fyddech chi’n Gynghorydd effeithiol?    •    Mae gan Helen 25 mlynedd o brofiad eang ym maes amaethyddiaeth a datblygu gwledig, gan ganolbwyntio ar ddatblygu busnes a chynorthwyo busnesau amaethyddol drwy gyfnodau o newid.
  • Rheolwr a gweithiwr tîm profiadol, sy’n gweithredu mewn dull manwl yn seiliedig ar ganlyniadau.
  • Mae sgiliau amlddisgyblaethol Helen yn ei gwneud yn addas ar gyfer darparu cyngor i ffermwyr ar sail un i un ac ar sail grŵp, gan weithredu’n systematig i ymateb i faterion sy’n wynebu’r diwydiant ffermio a rheoli cyfalaf naturiol.
  • Siaradwr Cymraeg rhugl.
  • Mae gan Helen sgiliau hwyluso, casglu data a chynghori da, gan ganolbwyntio ar waith un i un a gwaith grŵp gyda ffermwyr
  • Mae ganddi brofiad helaeth ym maes gwella busnesau fferm, ac arbenigedd mewn meincnodi ar draws ystod o fentrau
  • Mae ganddi gymwysterau proffesiynol a phrofiad mewn archwilio carbon a chynlluniau gweithredu allyriadau fferm
  • Mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau’n gynaliadwy mewn perthynas â chynhyrchu bwyd a rheoli tir, cydymffurfiaeth ac egwyddorion arferion fferm da, gan gynnwys materion iechyd a lles
  • Mae enghreifftiau o’r arbenigedd hwn yn cynnwys cyflawni archwiliadau carbon ledled Cymru i grwpiau Cyswllt Ffermio yn ystod 2022. Mae ganddi brofiad o ddefnyddio Agrecalc ac adnodd Cool Farm Tool i gyfrifo ôl troed carbon a chreu cynlluniau lliniaru gyda ffermwyr.
  • Mae tystiolaeth ddiweddar o arbenigedd Helen yn cynnwys cefnogi Rhaglen Ffermydd Strategol AHDB. Bu’n gyfrifol am feincnodi busnesau fferm yn erbyn ystod o ddangosyddion perfformiad allweddol, ar gyfer ystod o fusnesau anifeiliaid cnoi cil ledled y DU, ac yna’n cydlynu cyngor technegol ar gyfer y fenter, a sicrhau trosglwyddiad gwybodaeth effeithiol i’r diwydiant o ran egwyddorion gwella busnesau.
  • Mae Helen yn frocer prosiect ar y rhaglen Partneriaeth Arloesi Ewrop ar gyfer cyfres o brosiectau iechyd anifeiliaid sy’n cael eu harwain gan ffermwyr, gan gynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddatblygu cysyniad, ymgeisio am gyllid a chyflawni’r prosiectau. 
  • Mae Helen yn hwyluso cyfarfodydd clybiau busnes ar gyfer y Gymdeithas Ffermio Gwenyn (BFA), yn casglu manylion dangosyddion perfformiad allweddol ac yn gweithio gyda ffermwyr gwenyn masnachol yn y DU i feincnodi, trafod a gwneud gwelliannau o ran perfformiad busnes.  

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • 1995    BSc Datblygu Gwledig, Prifysgol East Anglia
  • 1998    MSc Diogelu Cnydau, SAC Aberdeen
  • 2021    Basis Pridd a Dŵr
  • 2023    Tystysgrif BASIS mewn Nwyon Tŷ Gwydr, Newid yn yr Hinsawdd a Lliniaru Carbon 

Awgrym /Dyfyniad

“Cyngor da / Dyfyniad    Byddwch yn chwilfrydig a dysgwch beth sy’n cymell y cleient, ac yna gweithiwch gyda’r wybodaeth honno, gan ddefnyddio manylion perfformiad busnes, sy’n golygu rhywbeth iddynt. Yn bennaf oll, byddwch yn gyfeillgar, yn ddefnyddiol ac yn broffesiynol.”