Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Feincnodi Cyswllt Ffermio

Cyflwyniad/Cefndir

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu pecyn cymorth ar gyfer meincnodi sy'n cynnwys cyfres o offer hawdd eu defnyddio, wedi'u teilwra yn ôl y sector ac sy'n galluogi dull blaengar o ymgorffori meincnodi mewn arferion rheoli fferm ac a fydd yn galluogi mesur, cofnodi a rheoli data ffisegol, amgylcheddol ac ariannol. Dylai'r offeryn ganiatáu i fusnesau adolygu cryfderau a gwendidau eu busnes dros amser, yn aml wrth mewn cymhariaeth â busnesau tebyg.

Er mwyn derbyn cymorth gan Cyswllt Ffermio, bydd angen i chi roi rhywfaint o ddata personol i ni. Gallwch gymryd rhan yn rhaglen Feincnodi Cyswllt Ffermio fel y mynnoch. Bydd y data fferm y byddwch yn ei fewnbynnu i'r offeryn yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio i gymharu a meincnodi perfformiad eich busnes yn erbyn ffermydd eraill. Dim ond trwy blatfform Rhaglen Feincnodi Cyswllt Ffermio y gellir cael mynediad i'r offeryn. Bydd yr holl ddata a gofnodir ar Raglen Feincnodi Cyswllt Ffermio yn cael ei gadw ar eich cyfrif unigol. Byddwch yn gallu cymryd rhan yn Rhaglen Feincnodi Cyswllt Ffermio ar unrhyw adeg o'ch dewis yn ystod oes y rhaglen Cyswllt Ffermio bresennol.

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a ddarparwch ar offeryn Rhaglen Feincnodi Cyswllt Ffermio. 

Y Proseswyr Data yw Menter a Busnes, contractwyr trydydd parti sy'n darparu'r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Beth yw'r Sail Gyfreithlon ar gyfer prosesu?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol a gesglir yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad tasg a gyflawnir wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.

 

Pa wybodaeth bersonol sydd angen i ni ei phrosesu?

Bydd angen i ni gasglu a phrosesu eich enw llawn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn i sefydlu'r data sylfaenol meincnodi.

 

Pam mae angen i ni brosesu eich data personol?

Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion:

  • Cysylltu â chi i gynnig cymorth pellach y gallai fod ei angen arnoch ar ôl cofrestru gyda Rhaglen Meincnodi Cyswllt Ffermio
  • Monitro ac Adrodd ar Raglenni. 

O bryd i'w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn penodi gwerthuswyr ac ymchwilwyr i'n helpu i asesu perfformiad rhaglen Cyswllt Ffermio. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu data personol yn ddiogel gyda'r contractwyr hyn i'w galluogi i gynnal cyfweliadau neu arolygon o gyfranogwyr presennol a chyn-gyfranogwyr fel rhan o'r gwerthusiadau ffurfiol hyn. Efallai y cysylltir â chi i’ch gofyn i gymryd rhan mewn gwerthusiad o'ch profiad personol o weithgaredd dysgu. Os cysylltir â chi, bydd pwrpas y cyfweliad neu'r arolwg yn cael ei egluro i chi a byddwch yn cael yr opsiwn i ddweud ie neu na dros gymryd rhan. Bydd contractwyr yn defnyddio'ch manylion at ddibenion cynnal y gwerthusiad yn unig ac yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR). Yna, bydd eich manylion yn cael eu dileu unwaith y bydd y contract gwerthuso wedi'i gwblhau.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â'r cofrestriad/cais am 7 mlynedd, ac ar ôl hynny byddwn yn sicrhau ei bod yn cael ei gwaredu'n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i raglen Cyswllt Ffermio gael ei hadolygu yn 2025. Os caiff ei disodli gan raglen arall gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu gwasanaethau cymorth i'r diwydiant ffermio, byddwn yn parhau i brosesu eich data personol yn y ffordd a sefydlwyd yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn (lle mae'n briodol gwneud hynny) i'n galluogi i barhau i'ch cefnogi chi a'ch busnes. 

 

A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu?

Bydd y data personol ar y ffurflen hon yn cael ei rannu gyda Menter a Busnes sydd wedi'u contractio gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gofynion Rhaglen Feincnodi Cyswllt Ffermio yn unig. 

Bydd gan Isgontractwyr dethol fynediad at ddata dienw yn unig at ddibenion gwirio'r data rydych yn ei gyflwyno a pharatoi adroddiad terfynol ar lefel diwydiant. Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei rannu gyda nhw.

Gall timau archwilio, archwiliad mewnol Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru gael mynediad at y data; bydd y wybodaeth hon ond yn cael ei defnyddio i wirio gweinyddiaeth rhaglen Cyswllt Ffermio.

Bydd gan sefydliadau sy'n gweithio ar ran, neu ar y cyd â, Llywodraeth Cymru fynediad at ddata dienw, at ddibenion cefnogi a/neu ddarparu ymyriadau a gwasanaethau Cyswllt Ffermio perthnasol. 

Bydd y data personol ar y ffurflen hon yn hygyrch i Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (KAS) er mwyn i ymchwil, dadansoddi ystadegol, monitro cyfleoedd cyfartal a chwblhau adroddiadau o ddata cyfanredol fod ar gael i'r cyhoedd, drwy dudalennau rhyngrwyd Llywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw wybodaeth gyhoeddus yn caniatáu i unigolion gael eu hadnabod.

 

Eich hawliau:

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun; 
  • I ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • I ‘ddileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau); a
  • Chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion Cyswllt

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghymru: 
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth — Cymru, 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH. Rhif Ffôn 0330 414 6421. E-bost: wales@ico.org.uk Gwefan: www.ico.gov.uk

Mae Menter a Busnes yn prosesu'r data meincnodi ar ran Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth am sut mae Menter a Busnes yn prosesu eich data, gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol:

Menter a Busnes                                   
Uned 3                                                  
Parc Gwyddoniaeth                              
Aberystwyth                      
Ceredigion                                             
SY23 3AH                                              

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru yn trin eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data: 

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, 

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales