Isadeiledd - diogelu'r busnes ar gyfer y dyfodol

Mis Mai 2025 i fis Hydref 2025 (Fodd bynnag, cynllun 3 blynedd ar gyfer Rhyd Y Gofaint yw hwn)

Mae Deryl a Frances yn cynllunio'n rhagweithiol ar gyfer dyfodol eu fferm, gan fuddsoddi mewn isadeiledd a fydd yn creu amgylchedd gwaith mwy effeithlon a chynaliadwy. Maent eisoes wedi cwblhau pwll slyri newydd i fodloni rheoliadau diwygiedig. Eu prosiect nesaf yw adeiladu sied gyda slatiau dros y pwll newydd hwn. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o le ar gyfer bwydo sydd yn y sied giwbicl, sy'n cyfyngu ar gymeriant bwyd y buchod yn ystod misoedd y gaeaf. Mae ganddynt hefyd y nifer lleiaf o giwbiclau, a byddai uwchraddio i giwbiclau mwy, sy’n fwy addas o fudd mawr i'r fuches. Bydd Tom Greenham o Advanced Milking yn cynghori Deryl a Frances ar y maint ciwbicl gorau posibl, deunydd gorwedd, rhwystrau bwydo, a gwelliannau eraill ar gyfer y sied giwbicl. Wrth edrych ymlaen, eu nod yw ailgynllunio cynllun y fferm i wella'r system gyffredinol. Mae eu parlwr presennol yn agosáu at ddiwedd ei oes ac mae angen bron i dair awr i odro 140 o fuchod. Bydd Tom yn cynnig arweiniad ar ddylunio system a chynllun godro gwell, gan ganolbwyntio ar lif gwell ar gyfer y buchod, system drin effeithlon, a rhwyddineb rheoli cyffredinol.