Jeremy Bowen Rees

Enw

Jeremy Bowen Rees

Lleoliad

Cymru gyfan ( h.y yr ardal y mae Cyswllt Ffermio yn ei chwmpasu)

Prif Arbenigedd

Arallgyfeirio ar Ffermydd ac Ystadau, Llunio Strategaeth, Cynllunio Busnes, a Gweithredu, Cynllunio Olyniaeth, Mentrau ar y Cyd a Hwyluso

Sector

  •  Twristiaeth/Lletygarwch/Hamdden/ Gweithgareddau
  • Bwyd-amaeth
  • Manwerthu/(siopau fferm/gwerthiannau ar-lein)
  • Datblygu Eiddo
  • Prosiectau “unigryw ac anghyffredin”.

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

Mae Jeremy yn ymgynghorydd effeithiol am y rhesymau canlynol:

 

  • Mae’n fab fferm a gafodd ei fagu yng nghefn gwlad Cymru ac mae’n deall y cyd-destun sy’n newid yn gyflym ac sy’n wynebu ffermwyr Cymru a’r economi wledig.
  • Cafodd yrfa lwyddiannus yn Llundain am 20 mlynedd cyn dychwelyd i Gymru pan fu i ddyfodiad y rhyngrwyd olygu ei fod yn gallu gweithio ar ochr dde Pont Hafren! Mae ei brofiad, y tu hwnt i Gymru, yn rhoi persbectif eang, masnachol iawn iddo sy’n caniatáu iddo siarad yn wybodus am yr hyn sy’n rhaid ei wneud ac sydd ar waith i lwyddo.
  • Mae’n un o brif ymgynghorwyr Busnes annibynnol Cymru ac mae wedi cynghori miloedd o fusnesau yn ei yrfa, gan gynnwys dros 1,000 o ffermwyr. Mae ganddo'r creithiau a'r gwobrau i brofi hynny!
  • Ei nod personol, sydd hefyd yn genhadaeth Landsker, yw “eich helpu i wneud y penderfyniad gorau o ran y busnes ”. Weithiau, mae'n well peidio â gwneud rhywbeth. Mae’n bwysig iddo fod yr hyn yr ydych yn ei wneud yn iawn i chi, eich teulu a'ch fferm.
  •  Mae'n ddymunol ac yn agored ond nid yw'n was bach - bydd yn eich cynghori ar  “yr hyn sydd angen i chi ei wybod” yn hytrach na “yr hyn yr ydych am ei glywed ”.
  • Mae ganddo feddwl dadansoddol ac mae wedi cael ei eni i ddatrys problemau a bydd yn eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd ymlaen. Gall hyn fod trwy drafodaethau un i un, hwyluso cyfarfodydd teulu ac yna llunio cynlluniau gweithredu, busnes ac ariannol.
  • Mae'n frwdfrydig, yn hyderus ac yn meithrin empathi gwirioneddol gyda chleientiaid. Mae'n fedrus iawn wrth ddatblygu “ had ” syniad yn rhywbeth sy'n dod yn real a phroffidiol.
  • Mae wedi llwyddo i arallgyfeirio ei dyddyn ei hun drwy droi parlwr godro segur yn ganolfan fusnes llwyddiannus gyda thenantiaid.
  • Mae ei fusnes yn cyflogi 12 o staff a dechreuodd ar ei ben ei hun; felly, mae'n gwybod sut i ddatblygu busnes proffidiol a pharhau i'w ddatblygu.

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • MBA
  • BSc Anrh
  • Hyfforddwr / Mentor
  • Busnes Gwasanaethau Proffesiynol Gwledig gorau Landsker yn 2021 a 2022 yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yng Ngwobrau Busnesau Gwledig a Noddir gan Amazon
  • Helpu ffermwyr Cymru i lansio dros 100 o fusnesau newydd arallgyfeirio

Awgrym /Dyfyniad

“Wrth geisio arallgyfeirio neu newid eich gweithgareddau ffermio yn sylweddol, cwblhewch waith ymchwil yn gyntaf. (Bydd rhywun arall bron yn sicr wedi gwneud yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud. Dysgwch ganddynt yn gyntaf i osgoi'r camgymeriadau a wnaethant.) Yna, lluniwch gynllun clir, realistig, rhoi’r cynllun ar waith a byddwch yn ddigynnwrf am y cyfnod masnachu cychwynnol wrth i chi ddilyn eich nodau sydd wedi’u pennu.”