Jessica Rhian Jones
Llanwrda, Sir Gaerfyrddin
Mae Jessica Jones yn fenyw ifanc abl a phenderfynol o’r bumed genhedlaeth o fferm bîff a defaid yn Llanwrda, Sir Gaerfyrddin. Yn astudio Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd, mae’n cydbwyso ei gwaith academaidd gyda swyddi ymarferol yn y diwydiant yn cynnwys godro’n rhan-amser, trin gwlân yn y tymor cneifio a gweithio ar y fferm gartref.
Mae ei phrofiad ymarferol yn amrywio o ŵyna, iechyd gwartheg, cneifio a phacio gwlân i weini bwyd a phrosesu cig – ac mae’r cyfan wedi datblygu ei sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a gwytnwch mewn amgylchedd prysur gweithgar.
Yn aelod balch o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Cothi, mae Jessica yn ffynnu ar ddysgu trwy gystadlaethau, barnu stoc a siarad cyhoeddus. Mae ei hymrwymiad i’r sector amaeth yn amlwg yn ei hastudiaethau a’i chyfraniadau yn y gymuned, o gefnogi sioeau lleol i helpu cymdogion yn ystod dyddiau prysur.
Gobaith Jessica yw y bydd yr Academi Amaeth Iau yn ehangu ei gorwelion, gan gynnig dealltwriaeth o’r diwydiant, cysylltiadau gwerthfawr ac ysbrydoliaeth i arallgyfeirio’r fferm gartref.
“Yn yr hirdymor, rwy’n gobeithio chwarae rhan yn datblygu iechyd anifeiliaid a rheoli afiechyd tra byddaf yn dal i redeg a datblygu busnes fferm ein teulu.”
“Rwy’n siŵr bod Rhaglen yr Ifanc yn agor drws at ffrindiau newydd, profiadau a syniadau newydd y gallaf fynd â nhw gartref i’r fferm deuluol a’u defnyddio yn fy mywyd proffesiynol