Langtons Farm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024

  • Bydd y prosiect yn defnyddio dyddiadau plannu fesul cam ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin i gynhyrchu cyflenwad dibynadwy drwy gydol yr Haf ac i wthio cynhyrchiant cyn belled â phosibl i mewn i’r tymor i gyd-fynd â thymor ysgol yr Hydref. Bydd tymereddau diwedd y tymor yn effeithio’n rhannol ar lwyddiant y cnwd a bydd angen rhoi sylw i ystyriaethau eraill, gan gynnwys risg o falltod.
  • Mae dyddiadau plannu ar gyfer y prosiect fel a ganlyn:

Wythnos yn dechrau 22/4 
200x Sakura (ceirios) (cnwd rheoli yn erbyn blynyddoedd blaenorol) 
90x rondobella (salad)
90x pozzano (eirin)

Wythnos yn dechrau 5/5
160x ciwcymbr (passandra)

Wythnos yn dechrau 13/5 
40x o rondobella (salad), 
ynghyd â 170x o pozzano (eirin). (130x coesyn dwbl, 40x sengl) 
20x vivagrande (bîff)

Wythnos yn dechrau 10/6
70x rondobella, coesyn dwbl 
70x pozzano, coesyn dwbl

Wythnos yn dechrau 24/6
100x ciwcymbr (passandra)
130x crimson crush (salad) sy'n gallu gwrthsefyll malltod 
 

  • Erbyn diwedd Mehefin 2024 mae'r cnwd i gyd yn y ddaear.
  • Ar ddechrau'r arbrawf, nid oedd y tyfwyr wedi penderfynu a ddylid codi twneli polythen parhaol ar y safle newydd yn y tymor cychwynnol neu dwneli lindys. Gwnaethpwyd y penderfyniad i ddefnyddio twneli lindys i fod yn hyblyg (gweler y llun)