Pam y byddai Llion yn fentor effeithiol
- Mae Llion, sy’n gyn-ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio, yn berchen ar fferm ucheldir 850 erw yng Nghonwy, lle mae'n ffermio bîff a defaid yn bennaf. Yn eiriolwr brwd dros ddysgu gydol oes, nid yw byth yn gwrthod unrhyw gyfle i ddysgu a gwella ei sgiliau trwy weithdai, gweminarau, podlediadau, grwpiau trafod yn ogystal â mynychu diwrnodau agored perthnasol ac ati.
- Mae Llion, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn hapus i rannu ei wybodaeth a'i brofiad gydag eraill, ac mae ganddo ddigon o brofiadau 'bywyd go iawn' ar y fferm y mae'n hapus i'w rhannu, nid yn unig ar systemau a phrosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus, ond bydd yn rhoi cipolwg gonest i chi o unrhyw rai sydd heb weithio'n dda hefyd.
- Yn angerddol ac yn frwdfrydig dros ffermio, mae Llion bob amser yn awyddus i gyflwyno ffyrdd arloesol o wella effeithlonrwydd trwy ddefnyddio technoleg, data, genomeg ac ati. Trwy fod yn rhan o brosiectau amrywiol gyda Cyswllt Ffermio, Hybu Cig Cymru a thrwy fynychu digwyddiadau a chynadleddau, mae ganddo lawer o gysylltiadau o fewn y diwydiant, a bydd yn hapus i chi fanteisio ar y rhwydwaith gwybodaeth hwn hefyd.
- Mae gan holl wartheg Llion gysylltiadau EID â Bluetooth â'r ffon-ddarllenydd, bariau pwyso ac ap meddalwedd ar ddyfeisiau symudol sy'n golygu y gellir mewnbynnu data pwyso a’r holl ddata arall yn gyflym ac yn effeithlon. Gall y meddalwedd gyfrifo ar unwaith yr enillion pwysau marw/pwysau byw; neu os oes angen gwneud newidiadau rheoli neu faethol yna gellir gweithredu'r rhain yn brydlon.
- Mae'n gweithredu system bori cylchdro ar y rhan fwyaf o'r fferm ar gyfer gwartheg a defaid. Yn rhan o brosiect Grasscheck, mae'n cymryd mesuriadau glaswellt yn wythnosol sy'n cael eu rhoi ar Agrinet, gan ddarparu data sy'n cynorthwyo rheoli glaswelltir i wneud y defnydd gorau o laswellt. Gellir samplu ansawdd glaswellt hefyd drwy'r prosiect. Mae hyn hefyd wedi ei alluogi i leihau costau tra'n elwa ar berfformiad y stoc.
Busnes fferm presennol
- Fferm ucheldir yw Moelogan sy'n cynnwys priddoedd mawn a chlai trwm. Saif iard y fferm ar 1,000 troedfedd ac mae'n ymestyn hyd at 1,500 troedfedd ar y brig, sy'n rhan o fynyddoedd Hiraethog. Yr heriau yw glawiad uchel, natur agored y lleoliad a'r tymor tyfu byr.
- Rydym yn cadw diadell o famogiaid Abberfield croesfrid sydd ar hyn o bryd yn wyna dan do a mamogiaid Cymreig pedigri sy'n wyna y tu allan. Ein nod yn y pen draw yw cael diadell Bedigri Gymreig i leihau costau llafur, milfeddyg a meddyginiaeth, a mewnbwn cyffredinol. Er mwyn gwella'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfnewid ŵyn benyw, un o'r prosiectau a wnaethom pan oeddent yn fferm arddangos Cyswllt Ffermio, oedd cofnodi mwy o ddata o'r ddiadell. Fe wnaethom hefyd gymryd rhan ym mhrosiect hyrddod mynydd Hybu Cig Cymru a'n galluogodd i samplu DNA 300 o'r mamogiaid Cymreig a'u hepil. Roedd cael y data am y rhieni a'r wybodaeth enetig yn ein galluogi i ddewis ein diadell yn y dyfodol yn well.
- Mae'r fuches wartheg yn cynnwys 110 o wartheg a 42 o heffrod. Mae'r epil gwrywaidd pur gorau o'n buches bîff Stabiliser sy'n lloia yn y gwanwyn yn cael eu gwerthu fel teirw bridio, mae'r gweddill yn cael eu gwerthu fel teirw stôr yn 9/10 mis oed. Mae'r epil benywaidd yn cael eu cadw fel gwartheg cyfnewid neu eu gwerthu ar gyfer bridio. Defnyddir AI i fanteisio ar yr eneteg orau sydd ar gael.
- Mae'r rhan fwyaf o'r fferm wedi'i rhannu'n badogau, a fesurir yn wythnosol fel rhan o brosiect GrassCheckGB. Dywed Llion ei fod wedi cael cymaint o wybodaeth o'r prosiect, yn enwedig deall pa rai yw'r padogau sy'n perfformio orau a nodi'r rhai sydd angen eu gwella. Mae'n mwynhau dysgu barn pobl eraill trwy sgyrsiau ar grŵp WhatsApp y prosiect ac mae'n credu bod rhannu awgrymiadau a phrofiadau yn fuddiol iawn. Mae rhagolygon a chyfartaleddau tywydd a thwf wythnosol dros y blynyddoedd hefyd yn ei helpu i reoli'r pori yn fwy effeithiol.
Cymwysterau/cyflawniadau/profiad
- HND mewn Amaethyddiaeth o Goleg Llysfasi
- Wedi gweithio'n llawn amser ar fferm laeth am 18 mlynedd
- Dechreuodd ffermio iddo'i hun yn 2013 ar un o ffermydd tenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn symud i Foelogan yn 2018.
Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes
"Buddsoddwch mewn technoleg cofnodi data i gynorthwyo gwneud penderfyniadau a nodi effeithlonrwydd."
"Nodwch berfformwyr gwael a'u tynnu o'r ddiadell neu'r fuches."
"Gwnewch amser i ymweld â diwrnodau agored ar y fferm, ymunwch â grwpiau trafod. Chwiliwch y tu allan i'ch busnes eich hun bob amser am gymhelliant ac ysbrydoliaeth!"