Llysiau Menai Diweddariad ar y prosiect – Terfynol
Lleihau difrod chwilod naid wrth gynhyrchu cnydau bresych uchel eu gwerth
Prif ganlyniadau
- Rhwyll amddiffynnol oedd y ffordd fwyaf effeithiol o warchod rhag difrod gan chwilod naid
- Mae plannu cnwd ar y cyd â’r prif gnwd yn ddewis hyfyw ar gyfer rheoli chwilod naid a gallant gynhyrchu cnwd ychwanegol ar gyfer y farchnad
- Gall stribedi blodau gwyllt a bioamrywiaeth helpu i reoli plâu yn effeithiol, ond mae angen iddynt fod wedi sefydlu’n dda cyn plannu’r cnwd
- Pak Choi a Bresych Tsieineaidd oedd y cnydau mwyaf llwyddiannus ac amlbwrpas, a oedd yn addas i’r tyfwr a’r cwsmer.
Cefndir
Gardd farchnad 1.5 erw ger Llanfairpwllgwyngyll ar Ynys Môn yw Llysiau Menai, sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu llysiau tymhorol a lleol. Er nad yw wedi’i ardystio’n organig, mae’r tyfwr, Sam Hollick, yn ymarfer dulliau amaeth-ecolegol, gan adeiladu iechyd y pridd a chefnogi bioamrywiaeth i ddarparu cynnyrch ffres i’r gymuned leol trwy gynllun bocsys llysiau.
Llwyddodd y fferm i gynhyrchu cnydau bresych yn ystod ei thymor gyntaf, ac roeddent eisiau gwella a datblygu eu cynhyrchiant, gan nodi amrywiaethau newydd a fyddai’n gweddu i’r farchnad a ddewiswyd.
Un her wrth gynhyrchu cnydau bresych yw atal a diogelu rhag chwilod naid. Mae’r pla’n targedu cnydau bresych yn bennaf, gan ddifrodi dail y planhigion yn ogystal â’r gwreiddiau ar adegau. Gall y dail sydd wedi’u difrodi olygu nad yw’r cnwd yn addas ar gyfer y farchnad, felly mae’n rhaid rhoi cynllun rheoli ar waith. Gall hyn gynnwys dulliau rheoli cemegol, biolegol a/neu ddiwylliannol. Penderfynodd Llysiau Menai dreialu dulliau amaeth-ecolegol gan gynnwys plannu cnwd arall ar y cyd â’r prif gnwd, cnydau trapio, stribedi bioamrywiaeth a rhwyll arddwriaethol.
Diben y gwaith
- Treialu dulliau amaeth-ecolegol i leihau niferoedd chwilod naid ar gnydau bresych ar raddfa gardd farchnad, gan gynnwys plannu cnydau ar y cyd, defnyddio rhwyll amaethyddol, cnydau trap mwstard a stribedi blodau gwyllt
- Treialu ystod o gnydau bresych i gynyddu amrywiaeth o ran y cynhyrchion sydd ar gael i’r cwsmer
Manylion yr arbrawf
Ardal
Roedd yr arbrawf yn gorchuddio 250m2 o’r safle 15 erw gyda gwelyau 30m o hyd mewn 4 bloc.
Paratoi’r tir
Cafodd y pridd ei drin gan ddefnyddio peiriant palu a chrëwyd gwely hadau ffug cyn y gwaith plannu cychwynnol. Defnyddiwyd y peiriant palu rhwng y gwaith plannu i leihau chwyn.
Amrywiaethau a ddefnyddiwyd yn yr arbrawf
Bresych Tsieineaidd: Questar, Enduro, Michihili, Kaboko
Pak Choi: Goku, Joi Choi, Prize Choi. Shanghai Green, Dwarf Canton White, Santoh Yellow
Bresych meddal eraill: Komatsuna, Komatsuna Shonganyan, Texsel Greens, Namenia, Calabrese Belstar, Calabrese Covina, Kailaan
Cnydau cydymaith: Llysiau’r gwewyr, sibols, mintys y gath, mwstard Green Giant
Cymysgedd blodau gwyllt: Marigold Spanish Brocade, milddail, camri’r ŷd, glas yr ŷd, meillion coch, gwenith yr hydd
Hau a phlannu
Heuwyd hadau cychwynnol yn y twnnel polythen i dreialu cnwd cynnar cyn i’r chwilod naid ymddangos.
Plannwyd y prif gnwd cyntaf ochr yn ochr â chnwd cydymaith, gyda thriniaethau ar hyd y gwely:
Bloc 1: Cnwd wedi’i ryngblannu gyda mintys y gath
Bloc 2: Cnwd wedi’i ryngblannu gyda sibols (ffig. 1)
Bloc 3: Cnwd wedi’i blannu ochr yn ochr â thrap mwstard
Bloc 4: Cnwd wedi’i blannu gyda chymysgedd blodau gwyllt mewn gwely cyfagos
Cafodd y cnydau dilynol eu gorchuddio gyda rhwyll garddwriaeth i rwystro chwilod ar ôl eu plannu.
Ffig 1. Cnwd wedi’i blannu ar y cyd â sibols
Cnwd | Dyddiad Hau | Dyddiad Plannu | Dyddiad Cynaeafu | Nodiadau |
Cnwd cynnar mewn twnnel polythen: Pak Choi, bresych Tsieineaidd a Komatsuna |
21 Mawrth (wythnos 12) |
26 Ebrill (wythnos 17) |
22 Mai ymlaen (wythnos 21 a 22) |
Plannu hwyrach ar y gweill i egino ganol yr haf i osgoi mynd i had |
Prif gnwd:
Pak Choi, bresych Tsieineaidd a Komatsuna | Bob pythefnos o 24 Mehefin
(wythnosau 26, 28, 30, 32, 34, 36) | 4 wythnos ar ôl y dyddiad hau | Pak choi: oddeutu 4 wythnos ar ôl plannu bresych Tsieineaidd; oddeutu 6 wythnos ar ôl plannu
| Llwyddodd pob cnwd i sefydlu’n dda gydag argaeledd yn parhau o ddiwedd mis Awst ymlaen
Dim ond ychydig o weithiau yr heuwyd komatsuna gan ei fod yn llai o flaenoriaeth ar ddechrau’r arbrawf, ond yn y diwedd, roedd yn fwy addawol na’r disgwyl
|
Calabrese a Kailaan |
Bob 5 wythnos o 8 Ebrill
(wythnosau 15, 20, 25, 30) |
O fis Mai ymlaen, 4 wythnos ar ôl y dyddiad hau |
Dim ond un olyniaeth a lwyddodd i gyrraedd y cam cnydio |
Roedd y kailaan yn addawol, gan gnydio dros gyfnod hwy |
Cnwd cynnar mewn twnnel polythen: Dail salad (Texsel Greens, Namenia, yn ogystal â bresych salad safonol) |
Hau ym mis Mawrth fel cnwd rheoli ar gyfer y twnnel |
Plannu ar ddechrau mis Ebrill |
|
|
Prif gnwd: Dail Salad (Texsel Greens, Namenia, yn ogystal â bresych salad safonol) |
5 Awst (Wythnos 32) ar gyfer cymysgedd Salad yr Hydref |
26 Awst (Wythnos 35) |
O ddiwedd mis Medi ymlaen |
|
Blodau gwyllt cymysg | Dechrau Gorffennaf | Amherthnasol | Wedi blodeuo ar ôl cynaeafu am y tro cyntaf | Yn ddelfrydol angen eu hau cyn y modiwlau ar gyfer y plannu cyntaf i flodeuo cyn y cynhaeaf cyntaf h.y. ar ddechrau mis Mehefin |
Ffactorau allanol a ddylanwadodd ar yr arbrawf
Tywydd – blwyddyn oer a llaith ar y cyfan. Ddim yn amodau tyfu delfrydol ar gyfer cnydau, ac mae’n bosibl bod y tywydd wedi lleihau presenoldeb chwilod naid sy’n ffafrio amodau cynnes a sych
Tir newydd – dyma ail dymor y tyfwr ar y safle ac mae cyflwr y pridd yn dal i wella. Mae lefelau P a K y pridd yn isel ac mae glaswellt yn bresennol gyda’r chwyn. Gallai diffyg maeth fod wedi cyfrannu at gynnyrch isel a chafwyd rhai colledion o ganlyniad i heriau o ran rheoli chwyn.
Plâu – O ganlyniad i’r hinsawdd oer a llaith, roedd gwlithod yn broblem sylweddol gan ddifrodi rhai o’r cnydau a heuwyd ac a blannwyd.
Canlyniadau’r arbrawf:
Cafwyd difrod cosmetig amlwg i’r cnydau a blannwyd gyda chnydau cydymaith, i lefel a allai effeithio ar eu gallu i gael eu gwerthu, gan ddibynnu ar y farchnad.
Ni welwyd unrhyw wahaniaeth amlwg o ran difrod gan chwilod naid rhwng y ddau wahanol opsiwn rhyngblannu (mintys y gath a sibols), ond roedd y ddau’n well na’r hadau a blannwyd mewn bloc ger y cnwd trap mwstard. Gan mai gwerthu’n uniongyrchol i’r cwsmer yw prif farchnad y tyfwr, roedd lefel y difrod yn dderbyniol gyda’r triniaethau rhyngblannu, ond nid gyda’r driniaeth blannu mewn bloc.
Gall plannu cnwd ar y cyd â sibols leihau difrod ar yr amrywiaethau gorau, ond mae presenoldeb blodau sy’n annog ysglyfaethwyr gerllaw yn gallu bod yn fwy effeithiol.
Ni lwyddodd llysiau’r gwewyr i ddatblygu’n llwyddiannus fel modiwlau, felly ni ddefnyddiwyd y rhain ar gyfer plannu ar y cyd.
Roedd yn ymddangos bod pwysau chwilod naid yn lleihau wrth i’r gymysgedd blodau gwyllt ddechrau blodeuo.
Mae’r cnwd komatsuna yn fwy addas ar gyfer cynaeafu dail allanol dro ar ôl tro (cafodd ei gynnwys fel cynnyrch gwyrdd ar gyfer tro-ffrio). Roedd arsylwadau cychwynnol yn dangos ei fod wedi’i ddifrodi gormod gan chwilod naid i gael ei ddefnyddio, fodd bynnag, nid oedd llawer o dyllau wrth iddo aildyfu.
Roedd y rhwyll atal chwilod yn gymharol lwyddiannus. Roedd arsylwadau ar ôl dadorchuddio yn dangos bron i ddim difrod o gwbl o ganlyniad i chwilod naid (llai na 10 twll fesul deilen a samplwyd). Gwelwyd chwilod naid ar y cnwd yn ystod y cyfnod samplu, yn debygol o fod yn bresennol ar blanhigion blaenorol ac wedi mudo wrth ddadorchuddio.
Wythnos i bythefnos ar ôl tynnu’r rhwyll, dangosodd gwaith samplu rywfaint o ddifrod gan chwilod naid ar bob un o’r amrywiaethau heblaw am kaboko a Prize Choi – i lefel sy’n dal i fod yn dderbyniol ar y farchnad, yn enwedig wrth dynnu’r dail allanol.
Mae’n bosibl bod effaith tŷ gwydr y rhwyll ar ddyddiau heulog wedi cyfrannu at y ffaith bod rhai amrywiaethau wedi mynd i had. Mae’n bosibl y byddai modd rheoli hyn drwy ddyfrhau.
Roedd y cnwd trap mwstard yn aneffeithiol i bob pwrpas, ond llwyddodd i ddarparu cynnyrch annisgwyl a werthwyd i gogydd lleol.
Arweiniodd baich sylweddol gan wlithod at ddinistrio planhigion a blannwyd yn gynnar ac yn hwyrach. Roedd y cnydau llwyddiannus wedi cael eu trin sawl gwaith cyn eu plannu gan leihau poblogaeth gwlithod.
Mae rhwyll atal chwilod naid yn gallu atal difrod gan chwilod naid bron yn llwyr, ond mae angen ystyried tymheredd a chysgod.
Adborth ar amrywiaethau ac argymhellion ar gyfer y tymor nesaf
Mae cnydau bresych deiliog meddal a dyfir yn yr awyr agored (pak choi, bresych Tsieineaidd a komatsuna) yn darparu amrywiaeth ddiddorol o ran cyflenwad o lysiau gwyrdd ar gyfer cynllun bocs llysiau.
Er bod y tywydd yn anarferol o oer a gwlyb, roedd hyn yn ffafriol ar gyfer y pak choi a’r Bresych Tsieineaidd ac felly cafwyd cnwd da. Yn ystod y tymor nesaf, bydd y tyfwr yn plannu un swp yn yr awyr agored, ac yna un swp yn y twnnel plastig i ddarparu cnydau ar gyfer diwedd yr haf/dechrau’r hydref. Bydd hyn yn darparu mwy o ddiddordeb ac amrywiaeth ar gyfer y cynllun bocs llysiau.
Mae angen plannu calabrese allan mewn amodau cynhesach nag a welwyd ar ddechrau’r tymor os ydynt am gael tyfu cyn y gwlithod. Mae angen llawer o ddŵr wrth i’r cnwd ddatblygu.
Mae komatsuna yn gnwd blasus iawn a bydd y tyfwr yn datblygu’r amseroedd hau ar gyfer y tymor nesaf i ddarparu cnwd gwyrdd deiliog gwahanol. Bydd yn cael ei dreialu ochr yn ochr â chêl cynnar ac eto ar ddiwedd yr haf i gynhyrchu cyn cêl yr hydref/gaeaf.
Mae pak choi yn datblygu’n gynt na bresych Tsieineaidd, sy’n fwy agored i risg o ddifrod gan wlithod. Y tymor nesaf, mae’r tyfwr yn bwriadu rhyngblannu’r cnydau hyn a’u tyfu o dan rwyll. Gellir tynnu’r rhwyll er mwyn cynaeafu’r pak choi, gan adael lle i chwynnu a lleihau’r boblogaeth o wlithod i alluogi’r bresych Tsieineaidd i ddatblygu.