Mae meillion blynyddol sy’n gallu gwrthsefyll sychder yn rhoi cyfle i gynhyrchwr cig oen arbed arian ar gostau porthiant i’r mamogiaid cyn ŵyna

Heuodd Pearce Hughes blot treialu chwe erw o Balansa – meillion blynyddol sy’n gynhenid i ranbarthau gogledd-ddwyrain Môr y Canoldir – fel cynllun treialu gan Cyswllt Ffermio i weld sut y byddai’n tyfu dan amodau’r Deyrnas Unedig.

Heuwyd yr hadau, math o’r enw ‘Fixation’ a fagwyd yn America i fedru gwrthsefyll oerfel, gyda rhygwellt Eidalaidd ar ddechrau Mehefin 2016; heuwyd 5kg/ha o Balansa (2kg yr erw) a 22kg/ha o Rygwellt Eidalaidd (9kg/erw).

Torrwyd y cnwd ar 10 Awst, gan gynhyrchu 33 o fyrnau ar 630kg yr un – sy’n cyfateb i bedair tunnell yr hectar. “Roedd yn cyrraedd fy nghanol pan wnaethon ni ei dorri,” dywedodd Mr Hughes.

Roedd dadansoddiad y silwair yn dangos protein craidd o 14.5%, 11.5MJ/kg o egni y gellir ei fetaboleiddio, a gwerth D o 72 a 46% o gynnwys sych (DM).

Mewn cymhariaeth, roedd silwair gwair a gynaeafwyd yn Llyn Rhys wedi cyrraedd protein crai o 11.7%, 11.6 MJ/kg ME a 81.9% DM.

Mae Mr Hughes yn un o luosogwyr Innovis ac mae’n cadw diadell o 1,250 o famogiaid Lleyn, AberField, AberMax ac AberVale yn Llyn Rhys, Safle Ffocws Cyswllt Ffermio ger Wrecsam.

Porthodd y silwair Balansa i’r mamogiaid oedd yn cario gefeilliaid a thripledi yn hwyr ym mis Chwefror, bum wythnos cyn ŵyna.

Mae’r ddiadell yn dechrau ŵyna ar 25 Mawrth ac fel arfer bydd dwysfwyd protein 18% yn cael ei roi bum wythnos cyn ŵyna. Ond roedd perfformiad y mamogiaid ar y silwair balansa mor dda fel bod Mr Hughes wedi atal y dwysfwyd am bythefnos.

Mae’n amcangyfrif bod hyn wedi arwain at arbediad o £1.68 y pen yn y mamogiaid oedd yn cario gefeilliaid. “Roedd ansawdd y silwair mor dda fel ei fod wedi disodli’r dwysfwyd. Mae’n debyg y bydden ni wedi gallu peidio rhoi dwysfwyd am wythnos arall ond doedden ni ddim am fentro.

“Roedden ni wedi bod yn gobeithio y byddai’r silwair balansa yn cyrraedd lefel protein o 16% yn hytrach na 14.5% ond trwy ei dorri ychydig ynghynt dwi’n siŵr y bydden ni wedi gallu cyflawni hyn.

“Ein nod yw ceisio cynhyrchu silwair nerthol i’w roi i’r mamogiaid cyn ŵyna i leihau’r dwysfwyd y bydd yn rhaid i ni ei roi iddyn nhw.’’

Ond nid fel modd o leihau costau porthiant yn unig y mae Mr Hughes yn gweld y Balansa.

Dywed bod ei nodweddion sefydlogi nitrogen yn gwella ffrwythlondeb y pridd ac yn lleihau mewnbwn o ran gwrtaith cemegol – chwalwyd gwrtaith 5:24:24 ar 246kg/ha wrth hau ac yna 123kg/ha o wrea bedair wythnos yn ddiweddarach.

Mae Balansa hefyd yn effeithiol iawn o ran atal chwyn. “Doedd gan ddim byd obaith mewn cymhariaeth ag o, roedd y rhygwellt Eidalaidd hyd yn oed yn ei chael yn anodd cystadlu. Gan ei bod yn debygol y bydd rhai chwynladdwyr yn cael eu hatal yn y dyfodol mae hyn yn ystyriaeth yn bendant,” meddai Mr Hughes.

Gan mai planhigyn blynyddol sy’n cael ei hau yn y gwanwyn yw Balansa ni wnaeth dyfu yn ôl ar ôl ei dorri yn 2016. Dywed yr arbenigwr glaswelltir a phorthiant annibynnol Charlie Morgan, trwy ei hau yn yr hydref, y dylai fod yn bosibl cynhyrchu tri thoriad o silwair a phorfa i besgi ŵyn.

“Yr amser gorau i’w hau yw canol i ddiwedd yr hydref oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i’r planhigyn ymsefydlu cyn y gaeaf ac i ddatblygu system wreiddiau gref,” dywedodd Mr Morgan wrth ffermwyr a aeth i ddiwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Llyn Rhys.

“Gellir ei dorri yn hwyrach yn UDA ar ôl blodeuo a bydd yn chwalu hadau caled a fydd yn ail dyfu am ddwy neu dair blynedd arall. Rhaid i ni ddysgu a all hinsawdd y Deyrnas Unedig adael i ni ei reoli yn yr un ffordd a chael yr un canlyniadau.”

Er mwyn cau’r bwlch a adawyd gan y balansa, heuwyd rhagor o feillion balansa i’r gwndwn yn hanner y cae yn fuan ar ôl i’r silwair gael ei dorri a heuwyd meillion berseem i’r hanner arall. Rhoddwyd hwb i’r rhygwellt Eidalaidd gan fod y meillion oedd yn pydru o’r cnwd blaenorol yn rhyddhau nitrogen i’r pridd.

Roedd y Berseem wedi sefydlu yn dda erbyn y gwanwyn – a thyfodd ar gyfradd gyfartalog o 31kg/DM/ha/dydd o 20 Mawrth ymlaen. Ni chwalwyd gwrtaith yr hydref diwethaf a dim ond unwaith y chwalodd Mr Hughes wrtaith 23:4:13 ar gyfradd o 187kg/ha (75kg yr erw) yn gynnar ym mis Ebrill.

Yn wahanol i rai mathau o borthiant, bydd balansa yn gwneud yn dda mewn pridd gyda pH llai na delfrydol. Bydd yn tyfu’n dda ar pH o 5.7 i 5.8 a chlywyd am ffermwyr yn ei dyfu yn llwyddiannus ar lefelau pH mor isel â 4.8 yn America,” meddai Mr Morgan.

Cred y dylai ffermwyr edrych ar y dewisiadau o ran tyfu planhigion gwahanol os yw’r Deyrnas Unedig am gael tywydd sychach yn y dyfodol.

“Mae meillion blynyddol yn gynhyrchiol iawn ac mae ganddynt nodweddion sy’n gwrthsefyll sychder felly gellid eu hystyried ymhlith ystod o ddewisiadau i ffermwyr gael wrth law os bydd y Deyrnas Unedig yn gweld ei hinsawdd yn newid.

“Gyda thywydd mor sych mewn rhannau o America, mae lliaws o rywogaethau yn cael eu hau mewn un gymysgedd a’u tyfu i gael y biomas mwyaf. Gall y cnydau yma dyfu i bump neu chwe throedfedd ac ar ôl iddynt gael eu torri maent yn cael eu pori i gael y potensial gorau o anifeiliaid mewn amodau anodd.’’

Maent hefyd yn darparu cynnwys organig i briddoedd gwan, gan gynorthwyo i gadw dŵr a sicrhau bod maetholion ar gael. Mae gan rai o’r rhywogaethau hyn allu gwahanol iawn o ran gwreiddio.

Rhoddodd Mr Hughes gynnig ar y system yma ar gae arall gyda chymysgedd yn cynnwys 12 rhywogaeth wahanol, un ohonynt yn rhuddygl Daikon, oedd yn gwreiddio mor ddwfn â 30-40cm.

“Mae’r math yma o gnwd yn ffynhonnell fwyd i’r planhigion a’r bywyd gwyllt yn y pridd,” dywedodd Mr Morgan. “Mae’r cyfuniad hwn o blanhigion wedi gwella cyflwr y pridd yn y cae yn fawr. Byddai’n ddiddorol gweld a yw’r lefelau deunydd organig yn casglu rhagor o garbon ac yn gwella effeithlonrwydd maetholion a gallu’r priddoedd yma i ddal dŵr, rhywbeth y mae angen i bob fferm ei ystyried.”

Fe wnaeth y berseem berfformio yn dda yn y gaeaf gwlyb a gafwyd yn Llyn Rhys. “Mae’n goroesi yn dda mewn tywydd mwy llaith,” adroddodd Mr Morgan.

“Mae’n ymddangos ei fod wedi peidio ag anfon ei wreiddiau yn rhy ddwfn oherwydd bod ganddo gyflenwad digonol o ddŵr. Ond fe allai fynd yn ddwfn petai angen.”

Mae nodweddion addasu’r pridd y cnydau o rywogaethau cymysg hefyd i’w gweld yn Llyn Rhys.

Heuwyd y gymysgedd yn cynnwys 12 math gwahanol mewn cae oedd wedi ei gywasgu yn ddrwg gan gontractwyr yn gweithio ar beilonau trydan. “Mae’r pridd bron yn berffaith,” dywedodd Mr Morgan.

Gan fod y berseem yn pydru yn awr, mae eisoes yn rhoi nitrogen ar gyfer y cnwd nesaf. Dywed Mr Morgan ei bod yn bwysig cynllunio cylchdro cnydau, i benderfynu pa gnwd sy’n mynd i gael y budd nesaf.’’

“Gwerthir y planhigion blynyddol yma yn aml fel gwrtaith gwyrdd i ddal y pridd dros y gaeaf, gan atal erydu a hefyd dal y maetholion ar gyfer cnydau yn y dyfodol mewn systemau tir âr.

“Yr elfen ychwanegol i systemau da byw yw perfformiad yr anifeiliaid ac atal chwyn.”