Mark Needham - Biomass Connect IBERS

"Mae Mark Needham yn byw gyda’i deulu ar fferm ar arfordir gorllewinol Cymru, gyda mentrau sy’n cynnwys defaid, bîff a llety gwyliau. Mae wedi bod yn gweithio mewn swyddi sy’n ymwneud ag addysg tir a chyfnewid gwybodaeth ers 1999. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’r amser hwn yn addysgu cyrsiau addysg bellach, yn fwyaf diweddar fel rheolwr rhaglen astudiaethau Addysg Uwch ar gampws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr yng Ngorllewin Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bu hefyd yn gweithio fel swyddog Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Hybu Cig Cymru yn darparu’r rhaglen datblygu Cig Coch ar ran Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru.
Mae Mark bellach yn Gymrawd Cyfnewid Gwybodaeth ar gyfer Biomass Connect, prosiect a ariennir gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ). Rôl Mark yw darparu gwybodaeth gadarn, annibynnol ar berfformiad porthiant biomas, agronomeg, economeg a buddion amgylcheddol i dirfeddianwyr a rheolwyr tir ledled y DU. "