Meillion coch - yr allwedd wrth symud tuag at hunangynhaliaeth o ran protein? - Adroddiad ar berfformiad ŵyn
Canlyniadau allweddol:
- Cyfradd besgi well: Meillion Coch (RC) a gyflawnodd y pesgi cyflymaf, gyda dim ond 22% o ŵyn yn aros ar y fferm erbyn 29 Hydref, o’i gymharu â 42% ar gyfer Meillion Gwyn (WC) ac 81% ar gyfer Porfa Barhaol (PP).
- Twf cyfadferol: Dechreuodd ŵyn ar RC yn araf (27g/dydd), ond gwnaethant gyflymu’n ddramatig i 217g/dydd ar ôl cyfnod cynefino o ddwy wythnos.
- Perfformiad cychwynnol: Roedd gwndwn Meillion Gwyn yn cefnogi'r cyfraddau twf cychwynnol cyflymaf tra bod ŵyn a gafodd RC yn addasu i'r deiet newydd.
- Llai o ddyddiau cyn lladd: Cadarnhaodd y prosiect fod RC yn lleihau’r dyddiau cyn lladd yn sylweddol o gymharu â phorfeydd confensiynol.
Cefndir:
Mae manteision pori meillion coch ar gyfer pesgi ŵyn - gan gynnwys defnyddio llai o nitrogen, gwell ffrwythlondeb y pridd, a thwf cyflymach ŵyn - yn ddigon hysbys. Er mwyn dilysu'r buddion hyn yn benodol ar gyfer Awel y Grug, sefydlwyd arbrawf yn nhymor yr hydref 2025. Mae'r prosiect hwn yn cymharu perfformiad ŵyn sy'n pesgi ar dri math penodol o wndwn, sef: Meillion Coch (Meillion Coch, Rhygwellt Lluosflwydd a Rhygwellt Hybrid), Meillion Gwyn (Meillion Gwyn a Rhygwellt Lluosflwydd), a Phorfa Barhaol. Y nod yw darparu darlun cyflawn o sut y gall gwndwn sy'n llawn meillion gymryd lle dwysfwyd a gwella ansawdd porthiant mewn system pesgi ŵyn.
Diben y gwaith:
- Cymharu effeithiolrwydd Meillion Coch, Meillion Gwyn, a Phorfa Barhaol ar gyfer pesgi ŵyn stôr.
- Meintioli effaith y math o wndwn ar enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) a'r amser cyn lladd.
- Dangos manteision ymarferol porthiant llawn protein â diraddadwyedd isel wrth leihau dibyniaeth ar fewnbynnau.
Yr hyn a wnaed:
Cafodd ŵyn eu dyrannu ar hap yn ôl rhyw a phwysau byw (pwysau cychwyn cyfartalog ~ 32.5kg) i dri grŵp. Dim ond ŵyn 27kg neu drymach a gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad. Rhannwyd y llwyfan pori yn badogau 0.5ha: 9 ar gyfer PP, 8 ar gyfer RC, a 6 ar gyfer WC. Dechreuodd yr arbrawf ar 26 Medi a pharhaodd tan 5 Tachwedd 2025. Pwyswyd yr ŵyn ar 10 Hydref, gan ddewis y rhai i'w gwerthu ar 19, 25 a 29 Hydref. Roedd hyd y cyfnodau pori cylchdro’n amrywio ar sail argaeledd y gwndwn a’r galw amdanynt, a chadwyd gweddillion yn gyson ar 1750kg DM/ha.
Tabl 1: Nifer yr ŵyn cychwynnol a phwysau cyfartalog yn ôl rhyw. Mae’r amrediad pwysau yn dangos yr ŵyn ysgafnaf a thrymaf ym mhob grŵp
| Gwryw | Benyw | Rhyw anhysbys | Amrediad pwysau (kg) | |||
Nifer | Pwysau cyf. (kg) | Nifer | Pwysau cyf. (kg) | Nifer | Pwysau cyf. (kg) | ||
PP | 70 | 32.54 | 15 | 31.73 | 1 | 36.00 | 27 – 41.5 |
RC | 63 | 32.99 | 12 | 32.25 | 3 | 31.67 | 27 – 43.0 |
WC | 62 | 32.87 | 12 | 30.46 | 2 | 33.75 | 27 – 44.0 |
Canlyniadau:
- Her gynefino: Roedd yr ŵyn ar RC yn amharod i bori i ddechrau, gan arwain at gyfradd twf isel o 27g/dydd yn ystod y pythefnos cyntaf. Mewn cyferbyniad, yr ŵyn ar WC a dyfodd gyflymaf yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn.
- Cyflymiad cyflym: Ar ôl iddynt gynefino, dangosodd yr ŵyn ar RC dwf cyfadferol sylweddol. Rhwng 10 a 19 Hydref, cynyddodd eu twf i 217g y dydd.
- Gwerthu a phesgi: Arweiniodd y twf cyflym ar RC at besgi cyflym. Erbyn iddynt gael eu pwyso ar 29 Hydref, dim ond 22% o'r grŵp ar RC oedd ar y fferm o hyd. Mewn cymhariaeth, roedd y grŵp ar PP yn cael trafferth pesgi, gydag 81% o’r ŵyn yn weddill.
- Tueddiadau twf yr ŵyn:
- PP: Twf cyson ond araf (cyfartaledd ~ 66-79g / y dydd gan ddibynnu ar y cyfnod).
- WC: Perfformiad sefydlog a chryf (cyfartaledd ~ 125-158g / y dydd), gan besgi 58% o’r ŵyn erbyn diwedd mis Hydref.
- RC: Dechrau’n araf ac yna twf aruthrol (yn cyrraedd anterth ar >200g / y dydd), sef yr opsiwn mwyaf effeithiol o ran cyflymder lladd.
Ffigur 1: Cyfartaledd pwysau’r ŵyn ar gyfer pob grŵp dros y 2 wythnos gyntaf. Roedd y dyddiadau pwyso 14 diwrnod ar wahân.
Ffigur 2: Gwerthiannau ŵyn cronnol. Graff sy'n dangos y gyfradd besgi ar gyfer pob oen yn yr arbrawf
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
1. Sefydlwch wndwn meillion coch: Integreiddiwch feillion coch mewn gwndwn deubwrpas ar gyfer cynhyrchu silwair o ansawdd uchel a phori ar gyfer stoc pesgi.
2. Cynlluniwch ar gyfer cynefino: Dylid caniatáu ar gyfer "cyfnod oedi" 2 wythnos lle mae’r ŵyn yn addasu i'r gwndwn. Gwnewch yn siŵr nad yw'r meillion yn mynd yn rhy aeddfed a choesog, am fod hyn yn cynyddu'n sylweddol yr amser sydd ei angen i ŵyn gynefino.
3. Dewiswch ŵyn trymach: Gwndwn meillion coch sydd orau ar gyfer ŵyn trymach, a fydd yn gallu manteisio ar y protein uchel ar gyfer sbrint pesgi terfynol.
4. Pori cylchdro: Isrannwch gaeau (e.e. 6-8 padog) i reoli’r gweddillion, atal pori detholus, ac amddiffyn hirhoedledd y meillion coch.
5. Monitrwch bwysau: Ewch ati i bwyso’n rheolaidd (bob pythefnos) i ddal yr ymchwydd twf cyfadferol sydyn a dethol ŵyn yn brydlon wrth iddynt gyrraedd y fanyleb darged.
Ffigur 3. Tynnwyd y llun hwn ar 6 Hydref 2025, gan edrych ar hyd y ffens sy'n gwahanu'r llain meillion gwyn (wedi'i phori) ar y chwith a'r llain meillion coch (heb ei phori) ar y dde.