Ychwanegu Menter a’i henwi i FARMDATA+

Mae angen creu mentrau ar gyfer pob sector a restrir gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW). 

Efallai bod gennych fwy nag un fenter fesul sector, er enghraifft os oes gennych fwy nag un amrywiaeth o gnydau, os oes gennych fuches fasnachol a phedigri, neu os oes gennych 2 fuches laeth gyda phatrymau lloia gwahanol. Mae creu eich mentrau eich hun yn caniatáu i chi bersonoli'r adnodd i gyd-fynd â'r systemau ar eich fferm.

Ar ôl i chi fewngofnodi a dewis enw'r CRN/Fferm yr hoffech ddechrau meincnodi arni, gallwch greu mentrau drwy glicio'r botwm '+ Ychwanegu Menter' ar y Dangosfwrdd.
 

 

Os nad yw sector sydd ei angen arnoch wedi'i restru mewn print trwm yn y ddewislen, bydd angen i chi adolygu'r sectorau rydych chi wedi'u dewis yn RPW Ar-lein.

 

Sylwer - ar ôl i chi ychwanegu data at ddangosyddion perfformiad allweddol o fewn menter, ni allwch olygu na dileu'r fenter hon. Bydd yn aros o dan y fferm hyd y gellir ei ragweld er mwyn caniatáu i ddangosyddion perfformiad allweddol gael eu cymharu am fwy nag un flwyddyn. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r gosodiad cywir ar gyfer eich menter i ddechrau.
 

 

 

Dewiswch Sector ar gyfer cymorth wedi'i deilwra:

Dylech greu menter ar gyfer pob cnwd gwahanol a dyfir ar y fferm e.e. gwenith y gaeaf, haidd y gwanwyn, neu datws.

  1. Dewiswch - Tir Âr o'r rhestr o sectorau
  2. Dewiswch eich math o System
  3. Dewiswch eich math o Fenter
  4. Dewiswch eich amser plannu os yw'n berthnasol
  5. Yna enwch y fenter, gan ddewis rhywbeth sy'n dynodi'r fenter yn glir e.e. gwenith y gaeaf neu geirch y gwanwyn

Gallwch greu cynifer o fentrau ag sy'n addas i'ch busnes, os oes gennych fuches Bedigri a buches Fasnachol a'u bod yn cael eu rheoli'n wahanol, yna mae'n synhwyrol creu mentrau ar wahân i ganiatáu meincnodi yn unigol.

  1. Dewiswch bîff o'r rhestr o sectorau
  2. Dewiswch y math o dir sydd fwyaf priodol i'r fenter benodol
  3. Dewiswch y math o system
  4. Dewiswch y math o fenter
  5. Ar gyfer Buchod Sugno a Gwartheg Stôr, dewiswch y math o frid
    Ar gyfer Buchod Sugno a gwartheg sy’n cael eu pesgi, bydd angen i chi ddewis y math o besgi a'r math o frid. Ar gyfer pesgi gwartheg bîff, bydd angen i chi ddewis y math o besgi a'r math o frid. Mae'r dewis o frid ychydig yn wahanol ar gyfer yr anifeiliaid hyn, gan ein bod wedi grwpio'r bridiau sy'n tueddu i gael eu rheoli a pherfformio'n debyg
    Dewiswch y math o frid sy'n ddominyddol yn y fuches, neu sefydlwch fenter ar wahân os yw'r bridiau'n cael eu rheoli'n wahanol
  6. Yna enwch y fenter, gan ddewis rhywbeth sy'n diffinio'r fenter yn glir e.e. Gwartheg Sugno'r hydref

Creu menter sy'n cyd-fynd â'ch busnes. Os oes gennych fwy nag un fuches rydych chi'n ei rheoli ar wahân, yna efallai yr hoffech chi greu mwy nag un fenter o fewn yr adnodd, fel y gallwch chi eu meincnodi ar wahân.

  1. Dewiswch Llaeth o'r rhestr o sectorau
  2. Dewiswch y math o Dir
  3. Dewiswch y math o System
  4. Dewiswch y math o Fenter
  5. Ar gyfer Buchod, dewiswch y math o loia - os nad oes gennych floc tynn wrth loia, rydym yn awgrymu eich bod yn dosbarthu'r fuches fel buches sy’n lloia drwy’r flwyddyn (AYR).
  6. Rhowch enw addas ar y fenter, fel os oes gennych fwy nag un fuches, y gallwch wahaniaethu rhyngddynt yn hawdd e.e. buchod sy’n lloia drwy’r flwyddyn neu fuchod sy’n lloia yn y gwanwyn.

Gallwch greu mwy nag un fenter Arddwriaeth os oes angen i chi feincnodi eich cynhyrchiad yn ôl y gwahanol opsiynau.

  1. Dewiswch Arddwriaeth o'r rhestr o sectorau
  2. Dewiswch y math o System
  3. Dewiswch y math o Fenter
  4. Rhowch enw ar y fenter yn ôl y gosodiad a ddewiswyd, fel y gallwch nodi pob menter yn glir e.e. cynnyrch bocs llysiau bwytadwy

Gallwch greu mwy nag un fenter a allai gynnwys lle mae gennych lwyth o Foch Pesgi, ac eisiau meincnodi pob llwyth ar wahân.

  1. Dewiswch - Moch o'r rhestr o sectorau
  2. Dewiswch y math o Fenter
  3. Dewiswch y math o Loches
  4. Dewiswch y math o Frîd
  5. Os oes gennych Foch Bridio, dewiswch bwysau diddyfnu eich moch bach
  6. Rhowch enw ar y fenter, os oes gennych fwy nag un llwyth neu genfaint o foch bridio, dylech gynnwys enw sy'n eich galluogi i nodi’r grwpiau'n hawdd e.e. Moch sy’n cael eu pesgi ddechrau mis Chwefror 2026

I'w gadarnhau

Gallwch greu mwy nag un fenter yma os oes gennych ddiadelloedd sy'n cael eu rheoli'n wahanol. Er enghraifft os oes gennych ddiadell fynydd sy'n cael ei rheoli ar wahân i efallai ddiadell bedigri sy'n byw ar lawr gwlad. Bydd meincnodi'r rhain yn unigol yn caniatáu i chi weld a dadansoddi eu perfformiad ar wahân.

  1. Dewiswch - Defaid o'r rhestr o sectorau

  2. Dewiswch y math o Dir sydd fwyaf priodol i'r fenter benodol nid y fferm gyfan

  3. Dewiswch y math o System

  4. Dewiswch y Math o Fenter

  5. Ar gyfer Mamogiaid Bridio, dewiswch y ffordd mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu, y math o Frid a Phwysau Cyfartalog y famog. 
    Dewiswch y math o frid sy'n ddominyddol yn y ddiadell, neu sefydlwch fenter ar wahân os yw'r bridiau'n cael eu rheoli'n wahanol. 
    Ar gyfer Ŵyn a Brynwyd a Chyplau a Brynwyd, dewiswch y ffordd mae ŵyn yn cael eu gwerthu.

  6. Yna rhowch enw ar y fenter, gan ddewis rhywbeth sy'n diffinio'r fenter yn glir e.e. Mamogiaid Pedigri