Microhydro - Astudiaeth Ddichonolrwydd Ragarweiniol – Astudiaeth Achos

Cynhaliwyd astudiaeth ddichonolrwydd ragarweiniol i asesu potensial cynhyrchu trydan hydro ar fferm Lower House Farm ger Dolau. Bu’r gwaith yn edrych ar ddau gynllun trydan hydro posibl, sef cynllun cwymp isel ar safle cynllun hydro-fecanyddol hanesyddol ger Lower House Farm a chynllun cwymp uchel ar dir ymhellach oddi wrth safle’r fferm.

Oherwydd eu natur, byddai’r ddau gynllun yn wahanol iawn, gyda gosodiad llif isel bychan yn y lleoliad cwymp uchel a chynllun llif uwch mwy o faint ar y safle ger y fferm.
 

Trosolwg o’r safle

Mae’r map yn Ffigur 1 yn dangos y berthynas rhwng Lower House Farm a’r nant yng Nghoedwig Penrochell.

Ffigur 1: Map yn dangos lleoliad nant ar fferm Lower House Farm

Ffigur 2: Lleoliad arfaethedig ar gyfer y cynllun cwymp uchel – ardal wedi’i liwio’n las (trwy garedigrwydd Bing Maps).

Byddai’r ddau gynllun yn debyg o safbwynt costau cyllideb. Er bod hyd y bibell yn fyrrach ar gyfer y cynllun Lower House Farm a’i fod yn nes at bwynt cysylltu’r grid na’r cynllun yng Nghoedwig Penrochell (Ffigur 2), byddai angen mewnlif a phibellau llawer mwy i ymdrin â chyfaint y dŵr sydd ei angen i droi’r tyrbin a’r generadur mwy.

Byddai’r costau is ar gyfer llai o ofynion o ran cydrannau yng nghynllun Coedwig Penrochell hefyd yn cael eu gwrthbwyso gan bibellau hirach a llwybr llawer mwy heriol tuag at y pwynt cysylltu â’r grid.

Byddai allbynnau’r ddau gynllun yn debyg a byddai amseroedd ad-dalu’r prosiect hefyd yn debyg (Tabl 1). Fodd bynnag, dylid pwysleisio bod y cyfnodau ad-dalu wedi cael eu cyfrifo’n seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai’r holl drydan a gynhyrchir gan y cynlluniau’n cael ei ddefnyddio ar safle’r fferm. Pe na fyddai hynny’n wir, gallai’r gwahaniaeth rhwng y blynyddoedd ad-dalu ar gyfer y ddau gynllun gynyddu.

Tabl 1: Crynodeb o baramedrau cynlluniau ynni hydro 

Paramedr

Lower House Farm

Coedwig Penrochell 

Math

Cwymp isel

Cwymp uchel

Cwymp gros

5.6 m

40 m

Dyluniad llif

205 l/s

20 l/s

Hyd pibellau

250 m

400 m

Pellter o gysylltiad â’r grid

250 m

700 m

Costau cyllideb ar gyfer gosod

£142,000

£130,000

Mesur pŵer

7.5 kW

4.1 kW

Cynnyrch ynni blynyddol

17.3 MWh

15.8 MWh

Blwyddyn ad-dalu’’n seiliedig ar ddefnyddio 100% o’r ynni hydro

29 mlynedd

28 mlynedd

Amcangyfrif o’r arbedion a’r incwm o’r prosiect Cwymp Isel

Cymerwyd y byddai’r cynllun hydro yn cael ei gysylltu’n uniongyrchol naill ai i’r ffermdy neu’r sied ieir. Byddai hyn yn gwrthbwyso trydan a gyflenwir gan y grid ar gyfradd tariff gyflenwi o 25c/kWh. Mae tri model busnes wedi cael eu creu gan gymryd y byddai 0%, 50% a 100% o’r ynni hydro yn cael ei ddefnyddio gan y fferm dros gyfnod o 12 mis. Mae’r modelau busnes wedi cael eu creu dros gyfnod o 50 mlynedd, a allai gynrychioli hyd disgwyliedig y cynllun.

Cymerwyd y byddai gweddill y trydan yn cael ei allforio i’r grid, a byddai hyn yn cynhyrchu refeniw drwy’r Warant Allforio Clyfar (SEG) ar gyfradd o 5c/kWh.

At ddibenion y model ariannol, rydym ni wedi cymryd y byddai costau trydan yn cynyddu 4.3% y flwyddyn, sef y gyfradd chwyddiant gyfartalog a gyhoeddwyd rhwng 1980 a 2020, ac y byddai costau gweithredol yn cynyddu’n unol â chyfradd darged Banc Lloegr, sef 2% y flwyddyn. 

Achos Busnes Ariannol 

%

Defnydd trydan hydro 

Blwyddyn ad-dalu

Elw net ar ôl 50 mlynedd

IRR*

0% 

>51 

-£261,769 

Amherthnasol

50% 

45 

£52,966 

0.9%

100% 

29 

£367,700 

4.1%

Tabl 2: Allbynnau o fodelau ariannol

*Mae’r Gyfradd Adennill Fewnol (IRR) yn fesur ariannol a ddefnyddir i asesu pa mor ddeniadol yw cyfle penodol i fuddsoddi. Mae’r gyfradd adennill fewnol ar gyfer buddsoddiad yn amcangyfrif y gyfradd adennill ar ôl ystyried yr holl lif arian parod ynghyd â gwerth arian dros amser. Wrth ddewis rhwng gwahanol fuddsoddiadau, byddai’r buddsoddwr fel arfer yn dewis y buddsoddiad gyda’r gyfradd adennill fewnol uchaf, ar yr amod ei fod yn uwch na throthwy isaf y buddsoddwr.

Casgliadau ac argymhellion

Ceir potensial technegol ar gyfer cynllun ynni hydro 7.3kW ar nant Maes Brook ger Lower House Farm. Mae lleoliad addas ar gyfer tynnu dŵr ac adeilad pweru wedi cael eu nodi ac mae’r cyfrifiadau pŵer ac ynni’n dangos y byddai cynhyrchiant ynni oddeutu 17.3MWh y flwyddyn.

Mae’r modelau busnes yn amlygu pwysigrwydd defnyddio’r trydan hydro ar safle Lower House Farm. Os bydd y prosiect yn symud ymlaen y tu hwnt i’r cam hwn, byddai’n bwysig iawn cadarnhau faint o’r ynni dŵr y byddai modd ei ddefnyddio ar y fferm gan ddefnyddio data defnydd ar y safle ar gyfer y ffermdy a’r sied ddofednod. Dylid cydnabod fodd bynnag, hyd yn oed gan ddefnyddio 100% o’r trydan a gynhyrchir, byddai’r prosiect yn dueddol o dalu’n ôl yn ystod y 29ain blwyddyn o weithredu, oni bai bod modd gostwng costau gosod y prosiect o dan y costau a ddefnyddiwyd yn y model ariannol.

Byddai’r camau nesaf ar gyfer datblygu’r prosiect fel a ganlyn:

  • Astudiaeth ddichonolrwydd lawn i bennu costau’r prosiect yn fwy manwl ac i fireinio’r model busnes
  • Cynllunio a cheisiadau am drwyddedau tynnu dŵr
  • Datblygu manylion Peirianneg, Caffael ac Adeiladu at ddibenion tendro
  • Tendro ar gyfer contractwyr gosod addas
  • Adeiladu
  • Cam gweithredu a chynnal a chadw

Cysylltwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.