Moor Farm Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Paratowyd chwe rhoddwr sy’n heffrod elitaidd a phedair buwch a'u dewis i dderbyn chwistrelliad o Folltropin, hormon sy'n ysgogi ffoligl (FSH). Casglwyd yr wygelloedd ar y fferm ar 22 Mai 2024. Cafodd yr wygelloedd eu casglu trwy “sugniad ffoliglaidd” – triniaeth nad yw'n llawdriniaeth a gymerodd 15 munud fesul anifail, Ffigur 1.
Ffigur 1. Casglu wygelloedd trwy’r wain
Casglwyd cyfanswm o 114 o wygelloedd, a chynhyrchodd un o'r rhoddwyr, Ryden Miriam 2317 o deulu un o’r buchod mwyaf ffrwythlon ar Moor Farm, 38 o wygelloedd.
Y gyfradd trosi o wygelloedd wedi’u prosesu i embryonau rhewedig oedd 30.2%, y disgwylir ei gweld os defnyddir semen confensiynol. Ond ar gyfer semen â’r rhyw wedi’i bennu, roedd disgwyl iddo fod tua 25%, felly roedd y prosiect wedi perfformio'n uwch na'r cyfartaledd.
Yn dilyn yr ymweliad, cludwyd yr wygelloedd ffres i labordy a'u ffrwythloni â semen tarw uchel ei statws ar y Mynegai Lloia yn y Gwanwyn (SCI) am 7 niwrnod mewn dysgl petri. Cafodd y teirw a ddefnyddiwyd, a oedd ag EBI genomig uchel, eu dewis gan ddefnyddio offeryn graddio Mynegai Lloia yn y Gwanwyn AHDB. Canolbwyntiwyd ar % protein y llaeth, % ffrwythlondeb, % y Celloedd Somatig a nodweddion cynnal. Cafodd 30 o embryonau hyfyw eu rhewi mewn hydoddiant nitrogen hylifol; daeth 13 o Ryden Miriam 2317 a chawsant eu storio yn y labordy nes eu bod yn barod i'w mewnblannu.
Gan fod un embryo wedi byrstio, cafodd cyfanswm o 29 o embryonau IVF â’r rhyw wedi’i bennu eu mewnblannu ar 19 Mehefin mewn 26 o heffrod a oedd yn iach, wedi tyfu'n dda ac â sgôr cyflwr y corff da. Roeddent hefyd wedi’u gwirio a'u sganio ymlaen llaw gan y milfeddyg dan sylw a'u rhaglennu ar gyfer cydamseru gan ddefnyddio'r protocol PRID ac Estrumate 10 diwrnod.
Mae’r rhoddwyr sy’n heffrod yn cael eu harsylwi a'u ffrwythloni pan fyddant yn gofyn tarw ochr yn ochr â'r grŵp nad yw’n cael unrhyw driniaeth arbennig.
Erbyn diwedd mis Awst, byddwn yn sganio’r heffrod er mwyn pennu llwyddiant y prosiect. Disgwylir i gyfraddau beichiogi arferol o embryonau IVF amrywio o 40–50%.