Moor Farm Diweddariad ar y prosiect – Mawrth 2024
Yn dilyn canlyniadau GenoCells, cafodd pob chwarter o'r buchod â Chyfrif Celloedd Somatig uchel eu profi â Phrawf Llaeth California (CMT) i nodi unrhyw broblemau o ran mastitis mewn chwarteri unigol. Lleihaodd hyn y defnydd o wrthfiotigau mewn achosion lle mai dim ond un chwarter oedd wedi’i heintio â Chyfrif Celloedd Somatig uwch.
Cymerwyd samplau cyn sychu’r fuches a rhannwyd y data hwn â milfeddyg presennol y fferm, Guy Tomlinson, a gwnaed penderfyniadau gan ddefnyddio’r data i drin buchod sych unigol. Rhoddwyd triniaeth wrthfiotig a seliwr i fuchod a chanddynt Gyfrif Celloedd Somatig a oedd yn 200 neu uwch ac a gynyddodd yn sydyn yn ystod tri mis olaf y cyfnod llaetha. Defnyddiwyd seliwr yn unig ar fuchod a chanddynt Gyfrif Celloedd Somatig islaw 200.
Ar ôl lloia, cymerwyd samplau GenoCells pellach a'u hanfon i'r labordy, Tabl 1.
Tabl 1. Adolygiad GenoCells ym mis Mawrth 2024
Rhoddwyd bolws AHV fel triniaeth i bum buwch yn eu trydydd cyfnod llaetha neu iau a oedd â Chyfrif Celloedd Somatig o 250 neu uwch ar ôl lloia.