Moreton Farm Diweddariad ar y Prosiect - Ionawr 2025
Canolbwyntio ar y traed ar fferm Moreton – Diweddariad ar y Prosiect - Ionawr 2025
Dechreuodd y prosiect ar fferm Moreton ym mis Mai 2024 gydag adolygiad cychwynnol o’r holl ddata trimio a thriniaeth a oedd ar gael i ganfod y prif friwiau a oedd yn bresennol a darparu sylfaen er mwyn gallu cymharu newidiadau yn y dyfodol. Defnyddiwyd y canlyniadau hyn hefyd i helpu i ganolbwyntio’r sylw mwyaf o ran mesurau ataliol.
Ffigur 1: Math ac amlder y briwiau a gofnodwyd yn 2023.
Dilynwyd protocol Traed Iach AHDB a oedd yn cynnwys cynnal asesiad risg llawn o’r fferm a llunio cynllun gweithredu a oedd yn blaenoriaethu’r newidiadau angenrheidiol. Un agwedd allweddol ar gyfer llwyddiant y rhaglen yw sicrhau bod yr holl dîm yn cymryd rhan, gan gynnwys staff y fferm, milfeddygon y fferm (Daleside Farm Vets) a’r trimiwr traed (Mal Hall). Er mwyn creu ffordd hawdd o gyfathrebu, sefydlwyd grŵp WhatsApp i alluogi pawb i rannu gwybodaeth yn sydyn ac yn hawdd. Defnyddir y grŵp i rannu canlyniadau trimio, unrhyw ddadansoddiadau, adroddiadau parhaus, ac i rannu syniadau o ran meysydd pellach i’w harchwilio. Mae hefyd yn ffordd wych o rannu’r cynnydd sy’n cael ei wneud.
Canolbwyntio ar Ffactorau Llwyddiant
Roedd y canlyniadau trimio’n dangos ein bod yn gweld briwiau ar wadn y traed yn ystod y cyfnod dan do, ac roedd hyn yn cyd-fynd â chadw’r bloc lloia dan do yn yr hydref. Mae’r ciwbiclau ar fferm Moreton yn ardderchog, felly roedd y ffocws yn fwy ar sicrhau bod gwartheg yn cael eu nodi a’u trin ar gamau cyntaf cloffni yn hytrach na gwella’r siediau.
Y prif feysydd ffocws oedd Canfod yn Gynnar a Thriniaeth Effeithiol yn Brydlon (EDPET) ar gyfer achosion newydd o gloffni a chreu traed gwydn trwy gyflwyno protocolau a thechnegau trimio arfer gorau.
Canfod yn Gynnar a Thriniaeth Effeithiol yn Brydlon:
- Gosod technoleg canfod cloffni awtomatig Cattle Eye i ganiatáu ar gyfer monitro gwartheg yn barhaus er mwyn canfod cloffni yn gynt
- Cynyddu ymweliadau i drimio traed arferol i bob pythefnos ac yna bob wythnos yn ystod cyfnodau prysur
- Hyfforddi staff y fferm mewn ‘Cymorth Cyntaf ar gyfer y Traed’ i sicrhau triniaeth brydlon ac effeithiol ar gyfer y gwartheg sy’n mynd yn gloff rhwng ymweliadau trimio traed
- Adolygu protocolau trin gan gyflwyno a defnyddio cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID) ar gyfer achosion newydd o gloffni i hybu adferiad
Ffigur 2: Graff o ddangosfwrdd Cattle Eye yn olrhain sgorau symudedd (RoMS 0-3) dros amser.
Drwy archwilio’r sgorau symudedd a welir yn Ffigur 2, a gyda mwy o wartheg yn lloia yn yr hydref, gellir gweld lefelau cloffni’n cynyddu ac yn cyrraedd uchafbwynt o fewn 100 diwrnod ar ôl lloia.
Adeiladu Traed Gwydn:
Archwilio pob buwch yn rheolaidd (gan gynnwys heffrod llaethiad cyntaf) 60-80 diwrnod yn ei chyfnod llaetha
- Addasu technegau trimio i ddefnyddio model lletach a dyfnach ar wadn y droed fel rhan o’r protocol trimio rheolaidd. Roedd hyn yn golygu bod mwy o bwysau’n cael ei dynnu oddi ar ardal y briw ar wadn y droed, gan leihau’r risg o niwed.
- Edrych ar ddwysfwyd i wirio bod lefelau biotin yn y bwyd ar y lefel gywir (20mg fesul buwch bob dydd) i hybu cynhyrchiant cyrn.
Pâr arall o lygaid
Yn ogystal â gosod Cattle Eye, mae technoleg arall hefyd yn cael ei threialu. Mae camerâu VetVisionAI wedi cael eu gosod i fonitro amseroedd gorwedd, sefyll ac ymddygiad wrth fwydo dan do. Bydd y dechnoleg newydd hon yn adeiladu darlun o sut mae’r gwartheg yn treulio eu hamser ac effaith unrhyw newidiadau a wneir yn y siediau.
Ffigur 3: ‘Map gwres’ gan VetVisionAI yn dangos ble mae’r gwartheg yn sefyll wrth fwydo.
Mae’r ‘map gwres’ yn dangos data 24 awr ac yn dangos pa mor effeithiol yw’r rhwystr ynghyd ag unrhyw fannau cyfyng. Mae ardaloedd cochach a thywyllach yn dangos bod gwartheg wedi sefyll yn y fan honno am gyfnod hwy. Ar y cyfan, mae’r darlun uchod yn dangos dosbarthiad da ar hyd y rhwystr a bod yr ardal gyfan yn cael ei defnyddio ar ei hyd mewn modd unffurf.
Monitro parhaus
Mae gwella iechyd y traed yn broses barhaus ac felly mae cyfarfodydd prosiect misol wedi cael eu cynnal drwy gydol y prosiect gyda’r tîm cyfan i rannu cynnydd, canfod unrhyw feysydd pellach sydd angen eu trafod ac i rannu canlyniadau cadarnhaol. Bydd y gwaith monitro yn parhau tan fis Mawrth 2025 pan fydd adroddiad llawn o’r prosiect yn cael ei gyhoeddi.