Mwynau – beth sydd ei angen ar dda byw ar gyfer y perfformiad gorau posibl? – Adroddiad terfynol
Prif ystyriaethau:
- Trwy gyfuno adroddiadau mwynau porthiant gydag archwiliad llawn o’r holl fewnbynnau mwynau, llwyddodd y fferm i weithredu diagnosteg wedi’i dargedu’n fanwl gyda’r practis milfeddygol. Roedd y profion gwaed dilynol yn hanfodol, gan amlygu achosion penodol o dangyflenwi a gorgyflenwi rhai elfennau penodol a allai gael effaith negyddol.
- Roedd y data hefyd yn amlygu bod rhai o’r ychwanegion penodol a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn aneffeithiol ac wedi methu â bodloni gofynion y da byw. Mae hyn yn cadarnhau bod deall gwir statws mwynau’r anifeiliaid drwy fonitro yn hanfodol cyn buddsoddi mewn ychwanegion.
- Gan symud y tu hwnt i’r anifail a’r porthiant, mae’n rhaid ystyried y pridd mewn strategaeth gyfannol. Mae cywiro lefel pH a gwella iechyd cyffredinol y pridd yn hanfodol, gan fod hyn yn sicrhau trosglwyddiad naturiol ac argaeledd mwynau o’r pridd i’r planhigion sy’n tyfu, gan felly wella ansawdd porthiant o’r cychwyn cyntaf.
Cefndir
Ni ddylid tanamcangyfrif rôl maeth mwynau mewn systemau ffermio da byw, gan ei fod yn gallu effeithio’n uniongyrchol ar gynhyrchiant da byw. Mewn ymgais i fodloni gofynion eu da byw o ran mwynau, dros y blynyddoedd diwethaf, mae Roger a Dyddanwy o fferm Crickie wedi bod yn treialu gwahanol ddulliau o roi ychwanegion gan gynnwys bolws, drensh, bwcedi a mwynau rhydd mewn bagiau. Mae’r strategaethau hyn wedi arwain at wahanol lefelau o lwyddiant, gan hefyd ychwanegu cost sylweddol i’r busnes. Er bod dadansoddiad porthiant blaenorol wedi dangos diffyg mwynau penodol, ni chynhaliwyd archwiliad trylwyr o’r holl fwyd, porthiant a ffynonellau dŵr a gynigir i’r da byw.
Diben y gwaith
Nodau’r prosiect oedd:
- Monitro perfformiad ac adolygu statws mwynau’r fferm.
- Mynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â chyflenwi macro elfennau a micro elfennau sydd wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol i roi ychwanegion i’r stoc.
- Gwella perfformiad yr anifeiliaid yn erbyn y buddsoddiad a wnaed.
Yr hyn a wnaed
- Cynhaliwyd archwiliad mwynau llawn ar fferm Crickie a oedd yn cynnwys asesu lefelau mwynau macro a micro mewn cnydau, porthiant (wedi’i bori neu ei gynaeafu), dŵr yfed a phorthiant a brynir i mewn a gynigir i’r da byw.
- Casglwyd samplau gwaed hefyd gan 4 anifail ym mhob grŵp da byw (ŵyn, mamogiaid, lloi, heffrod a gwartheg) i chwilio am ddiffygion, gyda’r anifeiliaid hyn yn cael eu trin ar gyfer unrhyw ddiffygion a amlygwyd gan y canlyniadau.
- Cafodd y profion porthiant a gwaed eu hailadrodd yn yr Hydref i fesur ansawdd porthiant/porfa ac effeithiolrwydd ychwanegion.
- Yn dilyn canlyniadau’r gwaith samplu, edrychwyd ar amrywiaeth o ystyriaethau ac opsiynau ar y fferm.
Canlyniadau
Statws porthiant
Tab 1. Cynnwys mwynau mewn gwndwn traddodiadol a gwndwn llysieuol
| Mwynau | Bloc Pori Glaswellt Traddodiadol Dyddiad 03.06.24. Cyfartaledd | Bloc Pori Glaswellt Traddodiadol Dyddiad 31.10.24 Cyfartaledd | Bloc Pori Gwndwn Llysieuol Dyddiad 03/06/24. Cyfartaledd
| Bloc Pori Gwndwn Llysieuol Dyddiad 30.10.24 Cyfartaledd
| Ystod cyfeirio |
| Magnesiwm | 0.145% | 0.20% | 0.185% | 0.16% | 0.10 – 0.80 |
| Sodiwm | 0.06% | 0.115% | 0.065% | 0.056% | 0.10 –1.00 |
| CAB* | 337mEq/Kg | 235mEq/Kg | 466.5mEq/Kg | 451mEq/Kg | 140 - 700 |
| Sylffwr | 0.285% | 0.36% | 0.33% | 0.32mg/Kg | 0.10 -0.80 |
*CAB = Cydbwysedd Catïon Anion. Mae’r fformwla hwn yn defnyddio catïonau sodiwm (Na) + potasiwm (K) ac anionau clorid (Cl) a sylffwr (S) wedi’i nodi ar ffurf mEq/Kg.
Fel y manylir yn Nhabl 1, mae data mwynau’r porthiant yn amlygu sawl enghraifft o anghydbwysedd o ran mwynau allweddol:
- Magnesiwm (Mg): Nodwyd fod y lefelau’n isel, a allai fod yn rhwystro da byw rhag sicrhau cymeriant digonol. Cynghorwyd y dylid rhoi magnesiwm ychwanegol i’r stoc, yn enwedig yn ystod cyfnodau pori. Mae’n bosibl y byddai angen cynyddu cymeriant yn ystod cyfnodau brig o ran twf glaswellt.
- Sodiwm (Na): Roedd dadansoddiad porthiant yn dangos lefelau sodiwm isel. Mae sodiwm yn hanfodol er mwyn cynnal cydbwysedd maethol, gan chwarae rôl anuniongyrchol allweddol o ran cymeriant magnesiwm. At hynny, mae sodiwm yn hanfodol ar gyfer blasusrwydd y cnwd, cynhyrchu poer, a hybu sefydlogrwydd y rwmen.
- Ystyriaeth: Ystyriwyd gwasgaru halen amaethyddol am gyfnod i fynd i’r afael â’r diffyg. Fodd bynnag, oherwydd yr angen i ymgynghori gydag agronomegydd a’r risg o losgi’r glaswellt pe byddai’n cael ei wasgaru yn ystod cyfnodau sych, penderfynwyd oedi’n ddibynnol ar fonitro.
- Sylffwr (S): Cofnodwyd lefelau sylffwr uwch. Mae cymeriant sylffwr uchel yn peri risg i iechyd anifeiliaid gyda’r posibilrwydd o gyfuno gydag elfennau hybrin hanfodol, a chyfyngu ar eu cymeriant yn y pen draw, yn enwedig seleniwm, copr a chobalt.
- Cam gweithredu a chyngor: Yn hanesyddol, roedd y fferm yn defnyddio gwrtaith llawn sylffwr a oedd yn cynorthwyo cynhyrchiant glaswellt. Fodd bynnag, o ganlyniad i risg wedi’i ddogfennu o ran statws elfennau hybrin da byw, cynghorwyd yn gryf y dylai’r fferm leihau ei defnydd o gynhyrchion llawn sylffwr a chynnal adolygiad blynyddol o’i strategaeth gwrtaith gyffredinol. Er bod sylffwr yn faetholyn hanfodol ar gyfer iechyd pridd a phlanhigion, mae gormodedd ohono’n gallu achosi sgil effeithiau sylweddol i dda byw.
Statws gwaed da byw
Gan gyfeirio at Dabl 1, y statws a gadarnhawyd o ran lefelau sylffwr uwch a phryderon yn ymwneud â phesgi ŵyn, cymerwyd samplau gwaed ar ddau achlysur. Un i ganfod statws yr anifeiliaid cyn gwneud unrhyw argymhellion ac ail sampl i fonitro statws gwaed da byw yn erbyn enillion mewn cynhyrchiant.
Tabl 2. Canlyniadau samplau gwaed ar gyfer y gwahanol grwpiau da byw
Dyddiad | Defaid | Defaid | Gwartheg | Gwartheg |
| Mehefin 2024 | Ïodin. Ymylol i isel mewn defaid llawn dwf ac ŵyn. Arwyddion o broblemau’n ymwneud â chopr. Sinc yn isel | Ïodin yn isel iawn. Arwyddion o ormod o seleniwm. Sinc yn isel
| ||
| Awst 2024 | Ïodin yn isel ac arwyddion o ormodedd o seleniwm. Sinc yn isel
| |||
| Tachwedd 2024 | Problemau’n ymwneud â chopr. Ïodin i’w weld yn isel o fewn rhai grwpiau rheoli. Sinc yn isel
| Ïodin a Chobalt yn isel. Arwydd o ormod o seleniwm. Sinc yn isel
|
Fel y gwelir yn Nhabl 2, roedd statws ïodin yn y grwpiau defaid a gwartheg yn isel, er gwaethaf cynnwys ïodin mewn ychwanegion a brynwyd a phorthiant masnachol. Yn dilyn defnydd aneffeithiol o folws ïodin (a awgrymir gan ddiffyg cynnydd mewn lefelau ïodin yn y gwaed ar ôl ei roi), rhoddwyd strategaeth driniaeth ddiwygiedig ar waith:
- Derbyniodd y gwartheg ïodin ar ffurf triniaeth elfen unigol wedi’i dywallt.
- Rhoddwyd brechiad Flexidine i’r defaid.
Cadarnhaodd samplau dilynol gynnydd mewn statws ïodin o ganlyniad i’r triniaethau hyn, gan arwain at fabwysiadu’r protocol hwn ar y fferm at y dyfodol.
O ran lefelau cobalt mewn ŵyn, bydd arferion presennol y fferm o ddarparu drensh lluosog bob mis yn parhau. At y dyfodol, mae Fferm Crickie wedi sefydlu protocol monitro blynyddol gyda milfeddyg y fferm, yn cynnwys profion gwaed ar ôl diddyfnu i asesu statws ïodin a chobalt, gan roi triniaeth lle bo angen.
Copr yn gwrthdaro
Roedd y da byw hefyd yn dangos problemau’n ymwneud â chopr. Nid oedd hyn oherwydd diffyg copr elfennol, ond yn hytrach, diffyg copr o ganlyniad i lefelau uwch o sylffwr, haearn a molybdenwm mewn cnydau pori a phorthiant wedi’i gynaeafu. Er mwyn lliniaru’r gwrthdaro, argymhellwyd y dylai’r fferm leihau faint o sylffwr mae’n ei wasgaru, gan anelu at 0.20 – 0.25% o gynnwys sylffwr yn y porthiant.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm
- Cynnal archwiliad mwynau llawn: Dadansoddwch statws mwynau’r holl fewnbynnau porthiant, gan gynnwys glaswellt sy’n cael ei bori, porthiant wedi’i gynaeafu (silwair/gwair), bwyd a brynir i mewn a’r cyflenwad dŵr.
- Canfod statws gwaelodlin y da byw: Cynhaliwch brofion gwaed ar y da byw i gyd-fynd â dadansoddiad o’r porthiant (mewn cydweithrediad â milfeddyg y fferm) i bennu statws mwynau’r anifeiliaid yn gywir.
- Ychwanegion wedi’u targedu: Mae’n hanfodol deall union werthoedd mwynau yn eich porthiant a statws sefydledig eich da byw cyn rhoi ychwanegion. Mae’r dull hwn yn golygu bod ychwanegion yn cael eu targedu yn hytrach na gorfod dyfalu, gan sicrhau dosio cost-effeithiol a phriodol ac osgoi gor-gyflenwi diangen.
- Croesawu dull cyfannol: Wrth ychwanegu gwrtaith ar laswelltir, mae’n hanfodol deall yr ystod lawn o ganlyniadau posibl. Nid yw’r hyn sydd o fudd i’r planhigyn bob amser yn ddelfrydol ar gyfer yr anifail. Er enghraifft, gallai cynhyrchu cymaint o laswellt â phosibl achosi diffyg cydbwysedd mwynau yn y porthiant dilynol.
- Monitro Perfformiad: Monitro perfformiad stoc yn rheolaidd a chanfod unrhyw broblemau cynhyrchiant neu iechyd nad oes modd eu hegluro. Yr asesiad parhaus hwn yw’r cam olaf yn y broses o wirio effeithiolrwydd rheoli mwynau.