24 Hydref 2019
Caiff amynedd ei gwobr medden nhw! Pan oedd Beate Behr yn cynrychioli tîm Cymru yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn ddiweddar yn Swydd Aberdeen, enillodd y Wobr Sbortsmonaeth ac roedd hynny’n gyflawniad gwych i Beate a aned yn Bafaria ac sy’n byw yng Ngogledd Cymru erbyn hyn.
Trwy gydol ei phlentyndod, ei harddegau a’i hugeiniau, roedd gan Beata, a gafodd ei magu yn ninas Munich yn yr Almaen, freuddwyd hirdymor o symud dramor, byw yng nghefn gwlad a chael ci. Roedd hi’n 30 oed pan aeth o’r diwedd i brynu ei chi cyntaf — sef ci defaid — a dechreuodd fynd â’r ci i ddosbarthiadau ufudd-dod yn yr Almaen, yn benderfynol o ddysgu sgiliau trin cŵn a hyfforddi’r ci bach newydd!
“Am fy mod wedi gweithio fel rheolwr mewn amgylchedd dysgu oedolion yn yr Almaen, roeddwn yn gwybod am fuddion dysgu gydol oes ac roeddwn i bob amser yn benderfynol o wella fy sgiliau fy hun yn ogystal â sgiliau ein myfyrwyr,” meddai Beate.
Fodd bynnag, roedd rhaid iddi aros ychydig flynyddoedd eto cyn cael hyd i wir hapusrwydd! Yn 2013, ar ôl cael enw da iddi hi ei hun mewn cystadlaethau ystwythder cŵn drwy’r Almaen gyfan, datblygodd ei hobi yn waith gyda chŵn defaid. Daeth i ymweld â chefn gwlad Cymru nifer o weithiau i gystadlu mewn treialon cŵn defaid ac yna camodd ffawd i’r darlun. Syrthiodd Beate mewn cariad gyda chefn gwlad Cymru a syrthiodd mewn cariad gydag un o’n ffermwyr hefyd! A dyna gychwyn ei thaith, ac mae Beate a’i dau gi defaid yn awr wedi ymgartrefu’n hapus ar fferm eidion a defaid Edgar Jones yn Llansannan gerllaw Abergele.
Mae Beate yn helpu Edgar gyda llawer o’r gwaith fferm o ddydd i ddydd ac yn dweud mai cyfranogaeth y cwpwl gyda Cyswllt Ffermio sydd wedi ei dysgu hi am yr ochr ymarferol. Mae hi hefyd wedi canfod yr amser i ddal ymlaen i hyfforddi a chystadlu gyda’i chŵn defaid ei hun ac mae hi’n gweithio ochr yn ochr gydag Aled Owen, un o dreialwyr mwyaf profiadol a llwyddiannus Cymru, ac yn helpu i edrych ar ôl ei gŵn sydd wedi ennill gwobrau.
Er ei bod hi braidd yn anfodlon gwneud hynny, penderfynodd yn gynharach eleni, gydag anogaeth gan Edgar, i roi ei chi defaid Breeze, a merch Breeze a fagodd ei hun - Bendigedig Leni, yn nhreialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn Llandeilo. Roedd y penderfyniad yn un da. Llwyddodd Beate a Leni, oedd yn cystadlu yn erbyn 150 o gystadleuwyr eraill, i ddod yn Is-Bencampwr Cymru a chawsent eu dewis i gynrychioli Cymru yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn Brechin, Swydd Aberdeen ym mis Medi.
“Roeddwn i’n ansicr iawn ynglŷn â chymryd rhan a wnes i ddim penderfynu tan y funud olaf bron iawn, oherwydd er bod y ddau gi wedi bod yn rhedeg yn dda iawn, doeddwn i ddim yn hyderus eu bod nhw’n barod ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol fawr.”
“Roeddwn i’n teimlo bod angen i mi loywi fy sgiliau o drin y cŵn, ac roedd angen i’r cŵn ddeall yn well beth roeddwn i ei angen ganddyn nhw hefyd.”
Roedd cymorth ar gael i Beate drwy ei harweinydd Agrisgôp lleol gyda Cyswllt Ffermio, Myrddin Davies. Agrisgôp yw rhaglen rheoli ‘dysgu gweithredol’ hynod lwyddiannus Cyswllt Ffermio sy’n cael ei hariannu’n llawn ac sy’n dod â grwpiau o unigolion blaengar gyda’r un meddylfryd at ei gilydd i’w helpu nhw i ddatblygu sgiliau personol a chael yr hyder i archwilio syniadau a mentrau busnes gwledig.
Roedd Myrddin yn gwybod bod nifer o ffermwyr yn yr ardal hon a fyddai’n croesawu’r cyfle i ddatblygu eu sgiliau trin cŵn defaid.
“Mae partneriaeth dda rhwng stocmon a’i gŵn gweithio’n hanfodol ac yn ychwanegu gwerth enfawr i unrhyw fferm waith brysur, yn ogystal â llif incwm arall drwy werthu cŵn defaid wedi’u hyfforddi,” meddai Myrddin, a sefydlodd ei grŵp Agrisgôp ‘gweithio gyda chŵn defaid’ cyntaf ar ddiwedd yr haf.
Ynghyd â phum ffermwr lleol arall a’u cŵn, cafodd Beate a Leni eu cofrestru ar chwe sesiwn yn y cae am awr yr wythnos, a gwahoddwyd Aled Owen i’w tywys a’u mentora nhw. Mae hi’n dweud bod y sesiynau wedi ei helpu hi i gymryd ei sgiliau i’r lefel nesaf, gan gyfrannu at ei buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Genedlaethol Cymru gyda Leni a’i detholiad ar gyfer tîm Cymru, a aeth yn ei flaen i’r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol.
Dywedodd Myrddin ei bod hi wedi dod yn amlwg dros y cyfnod o chwe wythnos fod pob aelod o’r grŵp yn ennill llawer iawn o hyder yn ogystal ag elwa o’r arweiniad a’r sgiliau newydd y gallai Aled eu cynnig.
“Mae grŵp Agrisgôp yn arbennig o werthfawr am fod pobl yn dysgu cymaint oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth yr arbenigwyr y byddwn yn eu gwahodd i mewn ac, erbyn diwedd y cwrs, roedd y ffermwyr a’u cŵn wedi datblygu nid yn unig sgiliau newydd ond bond cryfach fyth.”
Mae Beate yn dweud ei bod hi’n anrhydedd enfawr iddi gael ei dewis i gynrychioli Cymru yn rhan o dîm Cymru a’i bod hi’n edrych ymlaen yn fawr at gystadlu ar lefel ryngwladol am y tro cyntaf.
“Mae bod yn rhan o grŵp Agrisgôp Myrddin, yr arweiniad a’r mentora gan Aled ynghyd â chefnogaeth aelodau eraill y grŵp wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder ac wedi rhoi’r sgiliau angenrheidiol i mi i wella galluoedd Leni a’i chodi hi i safon o’r radd uchaf.
“Roedd yr amodau’n weddol galed yn yr Alban ond, yn wahanol i lawer o gŵn eraill, llwyddodd Leni i gwblhau’r cwrs, ac roedd hi’n wych clywed fy mod wedi ennill y Wobr Sbortsmonaeth, er fy mod yn un o ddim ond tair merch a gymerodd ran yn y digwyddiad.”
I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y gallech chi neu aelodau o’ch teulu elwa o ymuno â grŵp Agrisgôp yn eich ardal, neu i gael gwybodaeth am yr holl wasanaethau eraill, prosiectau arbennig a chyfleoedd hyfforddi gan Cyswllt Ffermio, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.